Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Airbus ac allforwyr blaenllaw eraill yn y Gogledd yn ymuno â Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, i drafod dyfodol masnach ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd arweinwyr busnesau sydd ymhlith rhai o brif allforwyr y Gogledd yn mynegi eu barn nhw am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â Brexit.  
Yn ymuno ag Airbus bydd Deeside Cereals, Halen Môn, Plas Farm Foods, Qioptiq, Siemens Healthcare Diagnostics a'r Silverlining Furniture Group.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae dros 60% o'r allforion o Gymru, sy'n werth bron £10 biliwn, yn mynd i wledydd yr UE ar hyn o bryd.  

Gan gofio bod y DU, drwy ei haelodaeth o Undeb Tollau'r UE, yn gallu masnachu â mwy na 70 o wledydd sydd â Chytundeb Masnach Rydd, mae bron tair o bob pedair punt y mae busnesau o Gymru yn eu hennill drwy werthu dramor yn dibynnu ar hyn o bryd ar ein perthynas â'n partneriaid yn yr UE.    

Mae Llywodraeth Cymru am barhau i gael mynediad i'r Farchnad Sengl ac i fod yn rhan o undeb tollau ar ôl Brexit.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Wrth i'r DU ymadael â'r UE, byddwn ni'n gweld y newid mwyaf ers cenhedlaeth i'n statws masnachu rhyngwladol.  Mae allforion o Gymru yn rhan allweddol o'n heconomi, ac yn darparu swyddi a buddsoddiad, a rhaid gofalu nad yw Brexit yn fygythiad i hynny. 

“Dyna pam dwi'n cyfarfod unwaith eto gydag arweinwyr busnes sydd ymhlith rhai o allforwyr mwyaf amlwg Cymru i wrando ar eu barn am y cyfleoedd a'r bygythiadau sy’n gysylltiedig â Brexit. 

"Mae digwyddiadau fel hyn yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddiogelu ac i dyfu'n heconomi a swyddi drwy wrando ar anghenion busnesau, a byddwn ni'n parhau i drosglwyddo'r pryderon hynny i Lywodraeth y DU. Mae dyletswydd ar Brif Weinidog y DU i wneud yn siŵr ein bod yn cael Brexit call a fydd yn caniatáu i fusnesau Cymru barhau i allforio i'r EU, ein marchnad fwyaf, heb unrhyw rwystrau, costau ychwanegol na threthi newydd.

"Bydd y digwyddiad yn gyfle hefyd inni glywed o lygad y ffynnon a chael gwybod beth, ym marn y busnesau, yw'r cyfleoedd a allai ddeillio o Brexit. Bydd hynny'n ein helpu i adeiladu ar y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn barod i sicrhau bod Cymru yn allforio mwy.     

"Byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu, ond yr hyn sydd ei angen arnon ni 'nawr, a hynny ar fyrder, yw eglurder oddi wrth Lywodraeth y DU am y math o Brexit y mae am ei gael. Dim ond hynny all roi sicrwydd i fusnesau a chaniatáu iddyn nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol."