Neidio i'r prif gynnwy

Ymunodd plant ysgol o Sir y Fflint ag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, heddiw i agor yn swyddogol y llyfrgell newydd yn Nhreffynnon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y llyfrgell, yn ei chartref newydd yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon, yn cynnig cyfleusterau modern a bywiog i drigolion lleol. 

Mae Ken Skates yn gobeithio y bydd lleoliad y llyfrgell yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn denu defnyddwyr newydd na fyddent efallai wedi meddwl mynd i lyfrgell mewn adeilad ar wahân. 

Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint.  Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £120,000 ar ei gyfer a Chyngor Sir y Fflint sy’n talu’r gweddill.  Bydd y prosiect cyfan yn costio £235,580. 

Ymunodd plant Ysgolion Cynradd Chwitffordd a Gwenffrewi Sant a’r Ysgrifennydd yr Economi yn ystod ei ymweliad.  Dywedodd: 

“Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i agor y llyfrgell newydd hon yn Nhreffynnon.  Dyma ffrwyth partneriaeth lwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint a bydd yn cynnig gwasanaethau modern a bywiog i bobl leol.

“Bydd ei lleoliad yn y ganolfan hamdden yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, diwylliannol a hamddena newydd i bobl na fyddent efallai wedi ymweld â llyfrgell leol o’r blaen. 

“Mae hwn yn fater y mae gen i ymrwymiad mawr iddo gan y bydd yn helpu i sicrhau dyfodol tymor hir y llyfrgell yn ogystal â sicrhau bod mwy o bobl yn cael manteisio ar wasanaethau rhagorol Llyfrgell Treffynnon. 

“Mantais arall agor y llyfrgell yn yr un lle â’r ganolfan hamdden yw y bydd rhai o’i gwasanaethau ar gael hyd yn oed pan na fydd staff yn gweithio yn y llyfrgell – rhywbeth fydd yn denu mwy byth o ddefnyddwyr.” 

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: 

“Rwy’n falch iawn gweld y llyfrgell yn symud i’w chartref newydd yn y ganolfan hamdden.  Mae’r ganolfan fodern yn Nhreffynnon yn debyg i’r un agorodd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy llynedd. 

“Mae lleoli’r ddau yn yr un lle yn golygu bod amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gael i gwsmeriaid mewn un lle cyfleus.  Mae’r datblygiad yn cefnogi rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor.” 

Yn yr agoriad swyddogol roedd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn dyst i arwyddo cytundeb gydweithredol ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon fydd yn golygu y caiff ei gyflwyno yn ôl i’r gymuned.  Mae’r cytundeb rhwng Cyngor Sirol Sir y Fflint a Grŵp Canolfan Hamdden Treffynnon, gyda Cyngor Tref Treffynnon yn darparu cyllid yn ystod 2017/18.