Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yng Nghas-gwent i agor uned newydd yn Creo Medical, cwmni lleol sy'n tyfu ac sydd newydd gyflogi 22 o staff newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cwmni meddygol hwn yn arbenigo mewn dyfeisiau endosgopi llawfeddygol sy'n defnyddio ynni tonnau radio a microdonnau ac yn lleihau'r angen am lawfeddygaeth ymyrrol. 

Yn 2016, derbyniodd Creo Medical £2m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cyllid Cymru - sef Banc Datblygu Cymru erbyn hyn - i'w helpu i ddenu buddsoddiad o £20m a'i alluogodd i greu 22 o swyddi bras o'r ansawdd uchaf. Mae'r cwmni wedi cael cyngor  ar fuddsoddi hefyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, i gefnogi'r buddsoddiad. 

Mae Creo Medical wedi cael help Llywodraeth Cymru hefyd, trwy fuddsoddiad o £3m o ecwiti gan Cyllid Cymru, i symud ei brif swyddfa o Gaerfaddon i Gas-gwent ac i helpu'r cwmni â'i gynlluniau ehangu. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae'n bleser cael bod yng Nghas-gwent i agor y cyfleuster newydd yn Creo Medical. 

"Yn ogystal â chryfhau rôl Creo yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru a thros y byd, bydd y cyfleuster newydd yn cryfhau galluoedd y cwmni i ddatblygu cynnyrch newydd i helpu'r sector iechyd i wynebu'r heriau cynyddol sy'n ei wynebu. 

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi gallu helpu Creo i dyfu. 

"Mae'r help hwnnw wedi cyfrannu at symud prif swyddfa'r cwmni o Gaerfaddon i Gas-gwent ac wedi rhoi hwb go iawn i'r economi leol trwy greu 22 o swyddi bras o ansawdd uchel yng Nghas-gwent." 

Dywedodd Craig Gulliford, Pennaeth Creo Medical:

“Rydyn ni’n falch iawn bod Ysgrifennydd yr Economi wedi dod i agor ein huned newydd yng Nghas-gwent.  Diolch i’r uned, byddwn yn gallu ehangu a chyrraedd pob carreg filltir rydym wedi’i gosod i’n hunain. Gyda help Llywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a’n buddsoddwyr eraill, rydyn ni wedi creu’r platfform cywir fydd yn ein galluogi i gyflawni’n hamcan o ddatblygu cyfres o ddyfeisiau arloesol, anymyrol llawfeddygol ar gyfer y farchnad, bob un seiliedig ar dechnoleg electrolawfeddygol CROMA.  Eu nod fydd lleihau’r costau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â thriniaethau GI ond gan wella’r canlyniadau i gleifion." 

Dywedodd y Dr Richard Thompson, Banc Datblygu Cymru: 

"Rydym yn falch o fod yn fuddsoddwr ecwiti tymor hir yn Creo Medical. Bu'n wych cael gweithio gyda thîm rheoli mor angerddol dros y pum mlynedd diwethaf. Ers symud i Gymru, mae Creo wedi mynd o nerth i nerth, gan lwyddo mewn sawl rownd ariannu a chael ei restru gyda chyfnewidfa stociau AIM ym mis Rhagfyr llynedd.  Mae gan eu technoleg a’u cynnyrch blaengar y potensial i ddod â budd i gleifion ac achub miloedd o fywydau."