Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith yn Sioe Awyr Farnborough i ddathlu sector awyrofod llwyddiannus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu Ysgrifennydd yr Economi yn cyfarfod uwch-weithredwyr Boeing Defence UK a DECA i drafod dyfodol y secor awyrofod yng Nghymru. 

Bu hefyd yn cynnal cinio ar y cyd â Raytheon UK, gan groesawu rai o ffigurau amlycaf y diwydiant awyrofod, gan gynnwys Richard Daniels, Prif Weithredwr Raytheon UK, Paul Kahn, Llywydd Airbus yn y DU, Peter Ruddock o Lockheed Martin, Mark McDonald, Llywydd y Triumph Group ac uwch-gynrychiolwyr GE.

Yn y sioe awyr, manteisiodd Ysgrifennydd yr Economi ar y cyfle i gyfarfod saith o gwmnïau awyrofod llwyddiannus oedd wedi’u dewis i arddangos ar stondin Cymru yn Farnborough. 

Roedd y rhain yn cynnwys Air Covers and Tritech Group o Wrecsam, Triumph Integrated Systems a Merlin Circuit Technology o Lannau Dyfrdwy, Denis Ferranti Group, sydd â chanolfan ym  Mangor, a Cardiff Aviation Limited a Tri-Wall o Dde Cymru.  

Meddai Ken Skates:

“Mae ein presenoldeb mewn sioe awyr bwysig fel un Farnborough, sy’n un o’r sioeau gorau a phwysicaf o ran creu busnes a masnach yn y diwydiant awyrofod, yn hollbwysig i helpu inni ysgogi twf busnes, edrych ar gyfleoedd i i allforio a buddsoddi’n fewnol ac i ddangos i fuddsoddwyr posibl pam ein bod o yn cystadlu o ddifrif yn y farchnad hon. 

“Mae’r diwydiant awyrofod yn sector sy’n flaenoriaeth yng Nghymru, ac rydym yn ganolfan o ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu ym maes awyrofod, a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Cynnal a Chadw, Trwsio ac Atgyweirio, gyda dros 160 o gwmnïau yn weithgar yn y sector.  Mae rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant awyrofod ac amddiffyn eisoes yma, ac rydym yn cyflogi dros 23,000 o bobl, gyda gwerthiant ar y cyd o £5billion, sy’n cynrychioli 20% o gyfanswm gwerthiant y DU. 

“Mae digwyddiadau fel Farnborough yn helpu inni ddatblygu proffil Cymru yn rhyngwladol, gan roi mynediad uniongyrchol i nifer sylweddol o gwsmeriaid a buddsoddwyr allweddol.  

“Maent yn helpu i feithrin cysylltiadau sy’n arwain at fusnes ac at gael cwsmeriaid i ddychwelyd.  Mae gennym amrywiol gwmnïau awyrofod amlwg yng Nghymru ac rwy’n falch iawn o glywed bod y saith o gwmnïau sydd wedi bod yn arddangos ar ein stondin eisoes wedi sicrhau miloedd o bunnoedd o archebion o ganlyniad i’w presenoldeb yma yr wythnos hon.”