Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, wedi llongyfarch busnesau yng Nghymru ar ôl i'r ystadegau diweddaraf ddatgelu cynnydd o bron 12 y cant yn allforion Cymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2017

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar allforion Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, bu cynnydd o 11.9 y cant yn yr allforion hynny o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda thwf a oedd 0.7 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU.  

Mae hyn yn golygu y bu cynnydd o £1,390 miliwn yng ngwerth allforion Cymru yn 2016/17 o gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. 

Mae'r ystadegau yn dangos bod yr Almaen wedi parhau i fod yn brif bartner allforio Cymru yn 2016/17, gyda chyfanswm yr allforion yn werth £2,978 miliwn. Ffrainc oedd nesaf ar y rhestr (gyda chyfanswm yr allforion o Gymru yn £2,242 miliwn) ac yna'r UDA gan gynnwys Puerto Rico (gyda chyfanswm o £1,676 miliwn).

Mae'r ystadegau chwarterol hefyd yn dangos bod cwmnïau allforio yng Nghymru wedi cael dechrau da i'r flwyddyn gyda chynnydd o £150 miliwn yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2017 o gymharu â'r chwarter blaenorol.

Mae hyn yn gyfwerth â chynnydd o 4.4 y cant o gymharu â'r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, ac mae'n dangos twf sy'n fwy na dwywaith a hanner y cynnydd o 1.6 y cant a welwyd ar draws y DU yn ei chyfanrwydd. 

Dywedodd Ken Skates: 

"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ein cwmnïau allforio yn perfformio'n hynod o dda, gyda thwf sydd lawer yn uwch na chyfartaledd y DU. 

"Mae cwmnïau o Gymru yn amlwg yn gweithio'n galed i gynyddu eu cyfran o'r marchnadoedd tramor a hoffwn eu llongyfarch ar eu gwaith a'u llwyddiannau. 

"Drwy allforio, mae'n bosibl trawsnewid busnes a'i symud ymlaen i'r lefel nesaf. Dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gyda chwmnïau sydd am ddatblygu ac yn cynnig y gefnogaeth briodol iddynt yn ystod pob cam o'r broses. 

"Yn wir, yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn mynd â chwmnïau o Gymru i amrywiaeth eang o farchnadoedd tramor, gan gynnwys Singapôr, yr UDA, Canada ac India er mwyn iddynt edrych ar gyfleoedd masnachu newydd a threfnu cytundebau newydd. 

"Mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yng Nghymru yn dal i fod yn rhan ganolog o'n strategaeth economaidd. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth inni baratoi i adael yr UE, a hoffwn bwyso ar gwmnïau sydd eisiau help i gynyddu eu hallforion gysylltu â Llywodraeth Cymru am gymorth sydd wedi'i deilwra ar eu cyfer."

Golwg: http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-exports/?lang=cy