Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ym Mhont-y-clun yn ymweld â set y cynhyrchiad teledu Americanaidd ddrutaf erioed i gael ei saethu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Ken Skates yn ymweld â set Will, cyfres ddrama sy’n seiliedig ar ieuenctid William Shakespeare, a chafodd gwrdd ag aelodau’r cast a’r tîm cynhyrchu. 

Mae rhannau helaethaf Will yn cael ei ffilmio yn y Dragon Studios ym Mhont-y-clun a chaiff ei darlledu yn yr Unol Daleithiau’r haf hwn. Cyhoeddir dyddiadau ei darlledu ym Mhrydain yn y dyfodol. 

Ni fu cynhyrchiad â chyllideb mor fawr ac â gwriant mor fawr yng Nghymru erioed.

Will yw’r diweddaraf mewn rhestr gynyddol o gynyrchiadau o America sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru.  Yn eu plith y mae cynyrchiadau mawr eu bri fel Da Vinci’s Demons, The Bastard Executioner a The Collection. 

Rhagwelir y bydd y cynhyrchiad, sydd wedi derbyn nawdd ariannol gan Lywodraeth Cymru, yn gwario £18m yn yr economi leol.

Cafodd cyfres gyntaf Will ei chomisiynu yn dilyn llwyddiant y bennod beilot a ffilmiwyd yn Llundain.  Ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnig nawdd, penderfynodd y cwmni cynhyrchu wneud cyfran dda o waith ffilmio a chynhyrchu cyfres gyntaf Will yng Nghymru. 

Yn ystod ei ymweliad, dywedodd Ken Skates: 

“Roeddwn i mor falch cael ymweld â set Will, sy’n gynhyrchiad hynod o safon uchel, ag iddi gyllideb sy’n fwy nag unrhyw ffilm na rhaglen sydd wedi cael ei saethu yn Nghymru. 

“Oherwydd maint y prosiect, mae’r cynhyrchiad wedi arwain at fwy o wariant lleol nag unrhyw gynhyrchiad teledu na ffilm erioed yng Nghymru.  Mae hynny’n newyddion gwych i’r economi leol ac yn bluen fawr yng nghap sector ffilm a theledu Cymru. 

“Rydym yn parhau i weithio’n galed i ddenu’r dramâu gorau i Gymru gan ganolbwyntio’n ar y farchnad Americanaidd lewyrchus ac ar y rheini fydd yn debygol o arwain at ail gyfres. 

“Rwy’n gwybod y bydd Will yn hysbyseb dda arall o’r hyn y gall Cymru ei gynnig i’r diwydiant ffilm a theledu, o safbwynt lleoliadau, arbenigedd a thalent. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu chwarae rhan mor allweddol i ddod â’r buddsoddiad hwn i Gymru.” 

Bydd Ninth Floor UK Productions Limited – y cwmni sy’n gwneud y gyfres – yn gweithio yn y Dragon Studios ym Mhont-y-clun am naw mis o’r flwyddyn gan ffilmio ar leoliad yn y De yn ogystal ag yn Llundain. 

Dywedodd y Cynhyrchydd Gweithredol Alison Owen: 

“Mae’r cynhyrchiad wedi elwa mewn sawl ffordd o gael ei ffilmio yn Dragon International Film Studios. Trwy ddefnyddio’r pedwar llwyfan yn Dragon Studios a’r “backlot” mawr sydd ganddo, rydym wedi gallu creu byd cyfan mewn un lle. 

“Rydym wedi creu strydoedd Llundain cyfnod Shakespeare ac mae’r theatr anferth wedi llenwi un llwyfan cyfan ac mae setiau dan-do eraill wedi’u defnyddio i greu byd y sioe. Mae lleoliadau ardderchog allanol eraill o fewn tafliad carreg, gan roi dyfnder a chwmpas i dirwedd weledol y gyfres. 

“Mae’r ffaith bod cymaint o leoliadau mor agos wedi hwyluso pethau’n fawr inni, gan roi’r hyder inni fod yn uchelgeisiol.  Rydym wedi cael llawer mwy am ein harian ac wedi gallu creu cyfres o fewn ein cyllideb.  Gyda chriw profiadol yn yr ardal ac yng Nghaerdydd ac Abertawe, a ninnau ond ychydig oriau o Lundain ar y trên, roedd De Cymru’n ddewis perffaith i ni.”

Y mis diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru  ffilm hyrwyddo oedd yn dangos clipiau o rai o’r cynyrchiadau mawr diweddar gafodd eu ffilmio yng Nghymru i hyrwyddo Cymru ledled y byd fel lleoliad perffaith ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm.