Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi llongyfarch tîm cynhyrchu'r ffilm newydd am y rhyfel byd cyntaf, Journey's End, am y clod y mae wedi'i gael gan y beirniaid a'r cyhoedd fel ei gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Agorodd y ffilm ddechrau mis Chwefror ac mae'r adolygiadau gan gyhoeddiadau fel The Times, UK Film Review, Empire ac The i wedi bod yn ganmoliaethus iawn. Ffrwyth gwaith cwmni cynhyrchu Fluidilty yw'r ffilm a chafodd ei gwneud yn stiwdio Pinewood Caerdydd gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru. 

Mae Journey's End yn seiliedig ar y clasur o ddrama gan R C Sherriff â ffosydd 1918 yn gefndir iddi. Mae'n dilyn mintai fechan o filwyr wrth iddyn nhw ddisgwyl am ymosodiad y gelyn ac aros am eu diwedd. 

Mae rhif y gwlith o enwau cyfarwydd yn cymryd rhan yn y ffilm, gan gynnwys Sam Claflin, Paul Bettany, Toby Jones ac Asa Butterfield. Cafodd ei haddasu gan Simon Reade a'i chyfarwyddo gan Saul Dibb oedd hefyd yn gyfrifol am ffilmiau fel Suite Francaise, The Duchess a Bullet Boy. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

"Rwy wrth fy modd bod Journey's End, gafodd ei gwneud yng Nghymru wedi swyno'r beirniaid a'r cyhoedd ac yn ôl y siarad, dyma fydd un o'r ffilmiau gorau am y rhyfel byd cyntaf.

"Mae'n glod i waith caled a chreadigrwydd y tîm cynhyrchu, y cast a'r criw a hoffwn longyfarch pawb a fu ynghlwm wrthi am ei llwyddiant.

"Testun balchder mawr imi yw bod Llywodraeth Cymru'n gysylltiedig â chynhyrchiad mor dda ac mae'r ganmoliaeth yn y wasg wedi bod yn hwb i'n hymdrechion i hyrwyddo criw talentog Cymru, ein lleoliadau a'n cyfleusterau.

"Mae'r ffilm yn hwb hefyd i'n henw da fel lleoliad gwych ar gyfer cynyrchiadau a gobeithio y gwelwn gyfle i weithio gyda Fluidity eto yn y dyfodol."