Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Ysgrifenyddion Cyllid pedair gwlad y DU gwrdd heddiw, bu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnu ar ei rhaglen gyni ddiffygiol a diangen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, ac Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth yr Alban, Derek Mackay hefyd yn galw ar Drysorlys y DU i gefnu ar ei chynlluniau am doriadau pellach heb eu dyrannu, gwerth £3.5bn yn 2019-20.

Wrth siarad cyn y cyfarfod heddiw rhwng Ysgrifenyddion Cyllid y Gweinyddiaethau Datganoledig a'r Trysorlys, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:  

"Cafodd ein Cyllideb ddrafft ei llunio yn erbyn y cyfnod hiraf o gyni parhaus ar gof - un lle mae ein cyllideb wedi gweld toriadau o 7% mewn termau real ers 2010.   

"Mae polisi cyni aflwyddiannus a diangen Llywodraeth y DU yn parhau i osod cyfyngiadau ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - rhai na ellir eu cyfiawnhau. 

"Ar ôl saith mlynedd o gyni parhaus, mae'r dystiolaeth yn glir - mae'r polisi yn methu ac mae'n rhaid cefnu arno.  Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU yn cael eu gwasgu, ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth y DU i newid y ffordd y mae'n gweithredu, a dechrau buddsoddi.

"Mae’r bwriad i wneud toriadau pellach heb eu dyrannu, gwerth £3.5bn i wariant cyhoeddus yn 2019-20, yn parhau yn fygythiad. Gallai hyn olygu toriadau pellach gwerth hyd at £175m i gyllideb Cymru, gan ddibynnu ar ble y caiff y toriadau hyn eu gwneud. 

"Rydyn ni wedi gweithio'n galed i amddiffyn gwasanaethau datganoledig rhag y cyni gwaethaf yng Nghymru, ond os yw Llywodraeth y DU yn parhau â'r adolygiad o effeithlonrwydd, bydd yn rhoi rhagor o bwysau annheg a gwrthgynhyrchiol ar ein gwasanaethau rheng flaen, sydd eisoes dan bwysau mawr.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay:  

"Dro ar ôl tro rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi diwedd ar gyni, i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a gwrthdroi'r toriadau sy'n niweidio ein heconomi a rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

"Bydd Llywodraeth y DU wedi torri gwerth £2.9 biliwn neu 9.2% o gyllideb ddisgresiwn yr Alban yn y deng mlynedd hyd at 2019-20. Ac mae hynny cyn ystyried effaith arbedion effeithlonrwydd arfaethedig pellach Llywodraeth y DU o £3.5 biliwn yn 2019-20 - a allai olygu toriadau pellach gwerth £350 miliwn i gyllideb yr Alban.

"Er ein bod wedi gwneud popeth posibl i leddfu effeithiau gwaethaf cyni Llywodraeth y DU, mae'r gostyngiadau parhaus mewn termau real i’n cyllideb yn golygu bod hyn yn mynd yn fwyfwy anodd.

"Mae angen i Lywodraeth y DU roi diwedd ar ei hobsesiwn â mesurau cyni. Mae'r polisi wedi methu, ac mae'n bryd rhoi hwb i'r economi drwy fuddsoddi yn nyfodol y wlad."