Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ystadau Cymru yn annog rhagoriaeth yn rheolaeth weithredol ystad sector cyhoeddus Cymru drwy gydweithio strategol a chanllawiau arferion da.

Mae Ystadau Cymru yn gweithio i annog cydweithio strategol ac yn datblygu canllawiau arferion da gyda'r meini prawf allweddol canlynol:

  • Creu twf economaidd
  • Darparu gwasanaethau sy'n fwy integredig ac yn canolbwyntio ar y cwsmer
  • Cynhyrchu derbyniadau cyfalaf
  • Lleihau costau gweithredu
  • Datgarboneiddio’r ystad gyhoeddus

Sefydlwyd Ystadau Cymru gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r gwaith o reoli asedau ar y cyd yn sefydliadau'r sector cyhoeddus, a dylanwadu arno, er mwyn rhyddhau arbedion effeithlonrwydd. Mae hefyd yn datblygu dulliau o alluogi a hwyluso'r gwaith hwn.

Rydym yn ceisio cefnogi a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio dull mwy strategol o ymdrin ag eiddo a rheoli eiddo o fewn ffiniau daearyddol a sefydliadol, gan gefnogi'r blaenoriaethau yn strategaeth "Ffyniant i Bawb" y Llywodraeth.