Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl Ystadau Cymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Ystadau Cymru (YC) yn bartneriaeth rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i alluogi, cefnogi ac annog rhagoriaeth ym maes rheoli asedau ar y cyd yn y sector cyhoeddus.
Gyda’i ffyrdd o weithio a’i nodau llesiant, mae YC yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’r Rhaglen Lywodraethu.
Mae YC yn cefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fabwysiadu dull mwy cyfannol wrth wneud penderfyniadau, ac yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a mwy cynaliadwy.
Mae YC yn atebol i Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Nodau Ystadau Cymru
- Archwilio’r opsiynau, dros y tymor canolig a’r hirdymor, ar gyfer sicrhau gwerth cyhoeddus o asedau sydd ym meddiant y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
- Cefnogi a dylanwadu ar ddulliau effeithiol o reoli asedau ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, i greu Cymru wyrddach a mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu yn y meysydd blaenoriaeth a ganlyn:
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach
- Datgarboneiddio’r ystad gyhoeddus
- Gwella bioamrywiaeth
- Cefnogi’r economi sylfaenol
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi, a’n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw ac i weithio ynddynt
- Cefnogi datblygu canolfannau cymunedol a chanolfannau gweithio o bell
Cyfrifoldebau Ystadau Cymru
- Cefnogi a hwyluso cyfleoedd i sefydliadau’r sector cyhoeddus gydweithio ar eu dull strategol o ymdrin ag eiddo a rheoli eiddo ar draws eu ffiniau daearyddol a sefydliadol.
- Cytuno ar gynllun cyfathrebu, achos busnes a chynllun cyflawni.
- Monitro cynnydd y nodau ac amcanion a bennir yn y cynllun cyfathrebu, y cynllun busnes a’r cynllun cyflawni, a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.
- Adolygu’r achos busnes a’r cynllun cyflawni yn gyfnodol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu a pholisïau rhanbarthol.
- Cefnogi grwpiau thematig Rhanbarthol ac Ystadau Cymru a chyfrannu atynt ble bo’n briodol.
- Cefnogi’r fframwaith ar gyfer rhannu arferion gorau sy’n cynnwys y gynhadledd a gwobrau blynyddol a chynnwys ar gyfer y newyddlen a thudalennau ar y we.
Gweithgorau Rhanbarthol a Grwpiau Prosiect
Mae Ystadau Cymru yn cefnogi gweithgorau rhanbarthol a grwpiau prosiect o fewn ei rwydwaith.
Gweithgorau Rhanbarthol
Mae Ystadau Cymru yn cynorthwyo gweithgorau rhanbarthol sy’n nodi, cynllunio a chyflawni prosiectau cydweithredol sy’n cyd-fynd ag amcanion Ystadau Cymru a blaenoriaethau rhanbarthol; mae grwpiau cyfredol wedi eu rhestru isod:
- Gogledd Cymru
- Caerdydd a’r Fro
- Rhanbarth Cwm Taf
- Sir Benfro a Chaerfyrddin
Mae’r rhain ar agor i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ac yn ei gwneud yn bosibl i reolwyr ystadau rannu gwybodaeth a’r hyn a ddysgwyd ynghylch materion ymarferol allweddol, a cheisio cyfleoedd i gynnal prosiectau cydweithredol.
Mae cadeirydd pob grŵp rhanbarthol yn mynychu cyfarfod Cadeirydd y Cadeiryddion, sy’n fforwm i ddarparu’r newyddion diweddaraf a rhannu gwybodaeth am bynciau newydd. Mae adroddiadau rhanbarthol yn cael eu paratoi bob chwarter a’u hanfon at aelodau’r bwrdd.
Grwpiau Thematig
Weithiau, mae Ystadau Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid ynghylch prosiectau penodol ar ffurf is-grwpiau, a hynny ar gais y Bwrdd neu gydweithwyr polisi eraill yn Llywodraeth Cymru. Mae grwpiau cyfredol yn cynnwys:
- Diogelwch Adeiladau
- Asedau Cymunedol a Gwerth Cymdeithasol
- Cynaliadwyedd
Bwrdd Ystadau Cymru
Mae Bwrdd Ystadau Cymru yn cael ei gadeirio gan Beverly Owen, sef Prif Weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd. Mae Bwrdd Ystadau Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau a’r sefydliadau a ganlyn:
- Llywodraeth Cymru
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- GIG Cymru
- Cyrff cynrychioliadol, e.e. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC),, Un Llais Cymru, Cymdeithas y Prif Syrfewyr Ystadau (ACES), Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (CLAW), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
- Gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli, fel yr heddlu
- Undebau llafur
Aelodau Bwrdd Ystadau Cymru ar gyfer 2025
Beverly Owen (Cadeirydd): Prif Weithredwr, Cyngor Dinas Casnewydd
Lorna Cross (Is-gadeirydd): Rheolwr Gweithredol Eiddo, Cyngor Bro Morgannwg
Jon Rae: Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tim Peppin: Cyfarwyddwr, Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru
Lyn Cadwallader: Prif Weithredwr, Un Llais Cymru
Bleddyn Evans: Prisiwr y Sir a Rheolwr Asedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Claire Jones: Pennaeth Ystadau, Heddlu De Cymru
Clive Ball: Pennaeth Eiddo, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Neil Frow: Rheolwr Gyfarwyddwr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Rachael Cunningham: Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid, Cyfoeth Naturiol Cymru
Alun Jones: Pennaeth Buddsoddi Cymdeithasol - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Geoff Bacon: Pennaeth Eiddo, Cyngor Dinas a Sir Abertawe / TUC Cymru
Richard Baker: Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-Adran Lle, Llywodraeth Cymru
Andrew Charles: Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymunedau Cydlynus, Llywodraeth Cymru
Neal O’Leary: Cyfarwyddwr Rhaglen, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru
Nicola Powell: Dirprwy Bennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau’r GIG, Llywodraeth Cymru
Judith Cole: Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid a Chynaliadwyedd Llywodraeth
Cyfeillion beirniadol
Laurie Davies: Archwilio Cymru
Ysgrifenyddiaeth Ystadau Cymru: Llywodraeth Cymru