Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl o'r is-grŵp asbestos Ystadau Cymru.

Cefndir

Ym mis Hydref 2019, ysgrifennodd Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) at Lywodraeth Cymru i ofyn bod rheoli asbestos ym mhob adeilad cyhoeddus yn cael ei ystyried fel rhan o waith Ystadau Cymru. Amlygwyd ei fod yn faes pwysig o iechyd a diogelwch sydd angen ei reoli'n fwy cyson ar lefel strategol.

Mae'r WPC yn bartneriaeth gymdeithasol dair ffordd o undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru, mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac mae'n fforwm ar gyfer materion gweithlu traws-gyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau o ran asbestos mewn ysgolion, gyda chanllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar ym mis Awst 2019 ond mae angen ystyried sut y gellir cymhwyso hyn yn ehangach ar draws ystad y sector cyhoeddus.

Diben

Rôl yr is-grŵp fydd rhoi arweiniad strategol er mwyn sicrhau bod gwaith rheoli asbestos yng Nghymru yn wella, drwy archwilio gweithdrefnau presennol a hyrwyddo arferion gorau i’r dyfodol.

Tymor

Bydd y cylch gorchwyl hwn yn weithredol o 30 Tachwedd 2020 a bydd yn parhau hyd nes y’i terfynir drwy gytundeb rhwng y partïon.

Strwyththur ac aelodaeth yr is-grŵp asbestos

Enw

Sefydliad

Richard Baker - Cadeirydd

Llywodraeth Cymru

Dan Shears

Undeb y GMB

Claire Bloomfield

Llywodraeth Cymru

Mike Davies

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Eirian Jones

Cyngor Sir Ceredigion (CLAW)

Ceri Williams

TUC

Craig Bramwell

Cyngor Rhondda Cynon Taf (CLAW)

Phil Mackie

Bwrdd Iechyd Prifysgol a’r Fro

Lyn Cadwallader

Un Llais Cymru

Natalie James-Rutledge

Llywodraeth Cymru

 

Rolau a chyfrifoldebau

Mae'r is-grŵp yn gyfrifol am:

  • dileu rhwystrau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu a allai effeithio ar y gallu i gyflawni o fewn eu sector corff cyhoeddus penodol
  • hyrwyddo cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • monitro a rheoli ffactorau y tu allan i reolaeth yr is-grŵp sy'n bwysig i lwyddiant

Amcanion arfaethedig

  • Cynnal archwiliad / dadansoddiad o holl weithdrefnau rheoli asbestos y cyrff cyhoeddus.
  • Creu a darparu porth ar gyfer rhannu canllawiau arfer gorau gan sicrhau mynediad at gymorth technegol / arbenigedd i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau asbestos.
  • Paratoi a chyhoeddi canllaw arfer gorau sy'n ymgorffori astudiaethau achos.

Cyfardodydd

Cyfarfodydd i'w cynnal bob chwarter.