Cylch gorchwyl: Y Gweithgor Cynaliadwyedd
Cylch gorchwyl o'r Gweithgor Cynaliadwyedd.
Cynnwys
Cefndir
Mae Ystadau Cymru yn bartneriaeth rhwng sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i alluogi, cefnogi ac annog rhagoriaeth mewn rheoli adeiladau ac asedau tir cydweithredol yn y sector cyhoeddus.
Mae Ystadau Cymru yn cydymffurfio â Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015 a'r Rhaglen Lywodraethu. Mae'n cefnogi gwasanaeth cyhoeddus Cymru i fod yn fwy cyfannol wrth wneud penderfyniadau ac yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a mwy cynaliadwy.
Gan gefnogi'r Rhaglen Lywodraethu, un o brif nodau Ystadau Cymru yw cynorthwyo ac annog datgarboneiddio'r ystad gyhoeddus.
Diben
Argymhellodd yr Archwiliad Dwfn i strategaeth datgarboneiddio adeiladau’r sector cyhoeddus ym mis Ebrill 2021 y dylai Ystadau Cymru weithio'n strategol gyda rheolwyr ystadau Awdurdodau Lleol i ddarparu hyfforddiant lle bo hynny'n briodol, adeiladu banc o astudiaethau achos ystadau datgarboneiddio a sicrhau bod datgarboneiddio ar frig yr agenda rheoli ystadau ar draws yr ystad gyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y Gweithgor Cynaliadwyedd yn helpu Ystadau Cymru, fel arweinydd strategol ar gyfer y sector cyhoeddus, i weithio gyda rheolwyr ystadau ar draws ystad gyhoeddus Cymru i ddatblygu'r canlynol:
- Canllawiau Strategol ar gyfer datgarboneiddio ac addasu asedau cyhoeddus ar gyfer newid yn yr hinsawdd
Bydd hyn yn cynnwys cefnogi cydweithwyr a'r Gwasanaeth Ynni i ddatblygu'r ddogfen hon a sicrhau ei bod yn addas i'r diben. Gall cymorth fod ar ffurf:
- Rhannu profiadau drwy gyfarfodydd a/neu weithdai
- Helpu i gasglu cyfranogwyr ar gyfer cyfarfodydd a/neu weithdai i sicrhau bod gan bob sector lais a chyfle i lunio'r gwaith hwn
- Creu neu goladu astudiaethau achos a allai fod yn ddefnyddiol
- Profi methodolegau arfaethedig mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Cyfnod
Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn weithredol o fis Ebrill 2025 a bydd yn parhau hyd nes y caiff ei derfynu drwy gytundeb rhwng y partïon dan sylw
Strwythur ac aelodaeth o'r Is-Grwp Cynaliadwyedd Amgylcheddol
| Enw | Sefydliad |
|---|---|
| Anne Sharp | Cyngor Bro Morgannwg |
| Tim Peppin | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
| Helen Nelson | Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol |
| Jean-Francois Dulong | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
| Mike Clogg | Cyngor Bro Morgannwg |
| Judith Cole | Llywodraeth Cymru |
| Colleen Cluett | Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol |
| Paul Williams | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
| Ross Cudlipp | Cyngor Casnewydd |
| Sharon Hughes | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
| Clare Phillips | Llywodraeth Cymru |
| Meilir Hughes | Cyngor Sir Ynys Mon |
| Craig Morgan | Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru |
| Charlotte Cosserat | Llywodraeth Cymru |
| Helen Freese | Llywodraeth Cymru |
Rolau a chyfrifoldebau
Yn ogystal â'r wybodaeth yn adran 2, bydd y grŵp hefyd yn gyfrifol am:
- Hyrwyddo cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran meysydd blaenoriaeth gan gynnwys datgarboneiddio, bioamrywiaeth ac addasu.
- Nodi unrhyw fylchau gwybodaeth neu sgiliau
- Hyrwyddo hyfforddiant perthnasol
- Rhannu gwersi a ddysgwyd – ar gyfer ceisiadau grant ac astudiaethau achos.
Amcanion arfaethedig
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai ar lefelau uwch i ddylanwadu ar waith o amgylch datgarboneiddio, bioamrywiaeth ac addasu.
- Datblygu cynllun strategol ar gyfer datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus a fydd yn cynnwys gwybodaeth am addasu.
- Rhannu arfer gorau, astudiaethau achos perthnasol a chyfleoedd hyfforddi.
- Adolygu a mapio grwpiau a ffrydiau gwaith sydd eisoes wedi'u sefydlu ar draws ystad gyhoeddus Cymru a deall sut mae Ystadau Cymru yn gweithio gyda'r grwpiau hyn.
Cyfarfodydd
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter neu'n amlach os bydd angen.
Yr ysgrifenyddiaeth
Tîm ysgrifenyddiaeth Ystadau Cymru fydd yn darparu'r cymorth ysgrifenyddiaeth.
