Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a digwyddiadau gwasanaeth arbennig a fynychwyd ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Tanau

  • Yn 2017-18, cynyddodd nifer y tanau a fynychwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Cymru fesul 3% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2001-02 cafwyd tuedd ar i lawr yn nifer y digwyddiadau a fynychwyd; mae ffigwr 2017-18 yn 69% yn is nag yn 2001-02.
  • Cafwyd gostyngiad (gostyngodd) o 9% mewn prif danau yng Nghymru dros y flwyddyn, o 4,757 yn 2016-17 i 4,315 yn 2017-18. Mae prif danau yn cynnwys pob tân (tan) mewn adeiladau a cherbydau nad yw’n wag neu mewn adeileddau y tu allan, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafiadau, achubiaeth, neu danau a ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offerynnau.
  • Yn 2017-18, fe gynyddodd y nifer o danau eilradd gan 13% wrth gymharu â 2016-17, ac fe gynyddodd y nifer o danau glaswelltir, coetiroedd a chnydau gan 22% dros yr un cyfnod.

Anafiadau

  • Cafwyd 15 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru yn 2017-18.
  • 526 oedd y nifer o anafiadau (heb farwolaeth) yn 2017-18, sef gostyngiad o 15% o gymharu â 2016-17. Roedd y gostyngodd hwn yn bennaf oherwydd gostyngiad o 24% yn y bobl hynny sy'n derbyn cymorth cyntaf neu'n cael eu hanfon am wiriadau rhagofalus.

Cam-rybuddion tân

  • Yn 2017-18 cafwyd 14,161 o gam rybuddion tân yng Nghymru, i fyny o 14,790 yn 2016-17, sef gostyngiad o 4%.
  • Bu gostyngiad yn nifer y cam rybuddion tân maleisus o 441 yn 2016-17 i 419 yn 2017-18.

Digwyddiadau gwasanaeth arbennig

  • Mynychodd wasanaeth tân ac achub yng Nghymru 11,583 o digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2017-18, gostyngiad o 1% ar 2016-17.

Larymau mwg

  • Mewn 3 allan o 10 o danau mewn anheddau yng Nghymru yn 2017-18, doedd dim larwm tân wedi ei osod.

Achos tanau

  • Yn 2017-18, yr achos unigol mwyaf dros dân damweiniol mewn annedd oedd cam-ddefnydd offer 32%. Hwn yw prif achos tanau damweiniol mewn anheddau ers 2001-02.

Amseroedd ymateb

  • Yn 2017-18, ymatebwyd i 63% o brif danau a 71% o danau mewn anheddau yng Nghymru o fewn 10 munud.

Adroddiadau

Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2017 i Mawrth 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 139 KB

ODS
Saesneg yn unig
139 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.