Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o’r holl ddigwyddiadau a fynychwyd gan y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru. Mae’r data diweddaraf yn ymwneud â 2020-21 ac mae’n ddata dros dro fel y nodir yn y siartiau a’r tablau gyda (p).

Effaith COVID-19

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, ac yn cymharu ag Ebrill 2020 i Fawrth 2021, cyfnod yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’n debygol fod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar ddigwyddiadau’r gwasanaeth tân ac achub, ac yn enwedig Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig and felly dylid ystyried unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y cyd-destun hwn.

Prif bwyntiau

Mae nifer y tanau wedi gostwng ers 2001-02, gan ddisgyn 69%, a 35% dros y 10 mlynedd diwethaf. Gwelwyd llai o amrywiaeth yn y blynyddoedd diwethaf gyda’r niferoedd yn aros o gwmpas 10,000 i 13,000. Mae nifer y cam rybuddion tân hefyd wedi gostwng ond i raddau llai, dim ond gostyngiad o 22% ers 2001-02. Mae nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig wedi amrywio drwy gydol y gyfres amser, ac yn 2021-22 roedd cynnydd o 24% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

O’i gymharu â 2020-21, cynyddodd nifer y tanau 4% yn 2021-22; cynyddodd nifer y prif danau 4% tra bu cynnydd o 5% yn nifer y tanau eilaidd.

Cafwyd 21 o farwolaethau oherwydd tân yng Nghymru yn 2021-22.

Cafwyd 479 o anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2021-22, cynnydd o 17% o’i gymharu â 2020-21. Gwelwyd cynnydd ym mhob math o anafiadau e.e. y rhai a anfonwyd i’r ysbyty neu bobl a oedd yn derbyn cymorth cyntaf ac ati.

Roedd 1,820 o danau bwriadol ar laswelltir, coetir a chnydau yn 2021-22, cynnydd o 11% o’i gymharu â 2020-21.

Yr holl ddigwyddiadau tân ac achub a fynychwyd

Mynychodd y Gwasanaethau Tân ac Achub 34,736 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. Roedd cynnydd o 8% o’i gymharu â 2020-21 ond roedd yn nifer tebyg i’r nifer yn 2019-20. Roedd y cynnydd wedi’i ysgogi gan gynnydd o 24% yn nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig. Mae’n debygol bod COVID-19 wedi effeithio ar nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig yn 2020-21.

Roedd nifer y digwyddiadau a fynychwyd gan y Gwasanaethau Tân ac Achub wedi cyrraedd uchafbwynt yn 2002/03, sef bron i 64,000 o ddigwyddiadau.

Mae nifer y tanau a fynychwyd wedi gostwng 69% ers 2001-02, gyda’r gostyngiadau mwyaf yn digwydd cyn 2012-13; yn y blynyddoedd diwethaf mae’r gostyngiad wedi arafu rhywfaint.

Mae nifer y cam rybuddion tân hefyd wedi gweld tuedd ar i lawr dros y gyfres amser.

Mae nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (SSIs) wedi bod yn dueddol o amrywio, mae’n debygol fod pandemig COVID-19 a’r cyfnodau o gyfyngiadau wedi effeithio ar y niferoedd yn 2020-21, ac yn 2021-22 mae niferoedd sawl categori o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig wedi cynnydd.

Image
Mae tuedd ar i lawr ar gyfer tanau a cham rybuddion. Mae digwyddiadau gwasanaeth arbennig wedi bod yn dueddol o amrywio.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

O’r holl ddigwyddiadau yr aethpwyd iddynt yn 2021-22, roedd 10,740 (31%) ar gyfer tanau, gyda 3,943 ohonynt yn brif danau (11%), 6,497 yn danau eilaidd (19%) a 300 yn danau simnai (1%). Cafwyd 15,320 o ddigwyddiadau cam rybuddion tân (44% o ymweliadau) a 8,676 SSI gan gynnwys cam rybuddion SSI (25%).

Image
Mae'r siart yn dangos canran y presenoldebau ar gyfer gwahanol gategorïau o ddigwyddiadau yn 2021-22 Cam rybuddion tân oedd y categori mwyaf gyda 44% o'r presenoldebau

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Tanau a fynychwyd

Mae tanau’n cael eu hystyried yn brif danau, yn danau eilaidd neu’n danau simnai.

Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeiladau nad ydynt yn adfail a cherbydau neu mewn strwythurau awyr agored, neu unrhyw dân sy'n cynnwys pobl wedi’u hanafu neu y mae’n rhaid eu hachub, neu danau y mae pump injan dân neu fwy yn mynd iddynt.  

Tanau yn yr awyr agored yw tanau eilaidd yn bennaf, gan gynnwys tanau glaswellt a sbwriel, oni bai eu bod yn cynnwys pobl wedi’u hanafu neu fod angen eu hachub, neu fod pump injan dân neu fwy yn mynd iddynt.

Tanau simnai yw’r rheini mewn adeiladau lle roedd y tân wedi’i gyfyngu o fewn strwythur y simnai.

Mae nifer y tanau wedi gostwng ers 2001-02, gan ddisgyn 69%, a 35% dros y 10 mlynedd diwethaf. Gwelwyd llai o amrywiaeth yn y blynyddoedd diwethaf gyda’r niferoedd yn aros o gwmpas 10,000 i 13,000.

Yn 2021-22, roedd y Gwasanaethau Tân ac Achub wedi delio â 10,740 o danau, cynnydd o 4% o’i gymharu â 2020‑21.

Yn 2021-22 roedd tanau eilaidd yn 60% o’r holl danau, gyda phrif danau yn 37% a thanau simnai yn 3%.

Prif danau

Yn 2021-22, cynnyddoedd nifer y prif danau 4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i 3,943. De Cymru yn unig a welodd ostyngiad yn nifer y prif danau (gostyngiad o 1% o’i gymharu â 2020-21); cynyddodd niferoedd yng Ngogledd Cymru 9% ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru roedd cynnydd o 7%.

Ers 2001-02 mae nifer y prif danau wedi gostwng 71% yn y De, 69% yn y Canolbarth a’r Gorllewin a 63% yn y Gogledd.

Image
Mae'r siart yn dangos nifer y prif danau yn ôl awdurdod tân ac achub ers 2001-02.  Mae nifer y tanau ym mhob un o'r tri GTA yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Yn 2021-22, roedd 40% o’r holl brif danau mewn anheddau, 31% mewn cerbydau ffordd, 20% mewn adeiladau eraill a 8% yn danau awyr agored.  Gwelodd pob math o leoliad ac eithrio yn yr awyr agored gynnydd yn nifer y prif danau ers 2020-21, gyda thân mewn anheddau wedi cynyddu 6%, mewn adeiladau eraill wedi cynyddu 11% a thanau cerbydau ffordd wedi cynyddu 3%. Gostyngodd nifer y prif danau yn yr awyr agored 15%.

Yn 2021-22, roedd nifer y tanau mewn cartrefi yn tua hanner y ffigur a welwyd yn 2001‑02.

Mae nifer y prif danau mewn cerbydau ffordd yng Nghymru wedi gostwng 81% ers 2001‑02.

Image
Mae'r siart yn dangos nifer y tanau mewn anheddau, adeiladau eraill, cerbydau ffordd a lleoliadau awyr agored eraill bob blwyddyn rhwng 2001-02 a 2021-22. Mae'r duedd gyffredinol ar i lawr ar gyfer pob categori, ond mae hyn yn fwyaf amlwg ymhlith cerbydau ffordd.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Tanau eilaidd

Tanau eilaidd yw’r categori tân mwyaf cyffredin a fynychir gan Awdurdodau Tân ac Achub Cymru, sy’n cyfrif am 61% o’r holl danau ers 2001-02 a 60% o’r rhai a fynychwyd yn 2021-22. Yn 2021-22, cynyddodd nifer y tanau eilaidd 5% o’i gymharu â 2020-21 i 6,497. O’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gwelodd pob un o’r tri Awdurdod Tân ac Achub gynnydd, 9% yn y Gogledd, 8% yn y Canolbarth a’r Gorllewin a 3% yn y De.

Mae nifer y tanau eilaidd ym mhob un o’r 3 Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers 2001-02; 73% yn y De, 71% yn y Gogledd a 60% yn y Canolbarth a’r Gorllewin.

Image
Mae'r siart yn dangos nifer y tanau eilaidd yr aethpwyd atynt, yn ôl awdurdod tân ac achub ers 2001-02. Er bod tuedd gyffredinol ar i lawr ym mhob un o'r tri GTA, mae mwy o amrywiadau yn y niferoedd hyn yn arbennig.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Yn 2021-22, bu 2,319 (36% o) o danau eilaidd ar laswelltir, coetir, tir cnydau, cynnydd o 13% o’i gymharu â 2020-21.

Yn 2021-22, roedd 55% o danau eilaidd yn cael eu hystyried yn danau sbwriel. Gostyngodd nifer y tanau hyn 1% o 3,605 yn 2020-21 i 3,574 yn 2021-22. At ei gilydd, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y tanau sbwriel, gostyngiad o 30% ers 2009-10.

Tanau yn ôl cymhelliant

Yn 2021-22, roedd 4,618 o danau damweiniol, y nifer trydydd isaf yn y gyfres amser sydd ar gael (ers 2001-02). Cododd y nifer 4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac ers 2001-02 mae’r nifer wedi gostwng 50%. Roedd tanau damweiniol i gyfrif am 75% o’r holl brif danau a 21% o danau eilaidd.

Roedd 6,122 o danau bwriadol, cynnydd o 4% o gymharu â 2020-21; roedd 84% o danau bwriadol yn 2021-22 yn danau eilaidd.

Mae’r siart isod yn dangos bod nifer y tanau eilaidd bwriadol wedi bod yn dueddol o amrywio, tra bo’r categorïau eraill a ddangosir yn llai cyfnewidiol.

Yn 2021-22 cynyddodd nifer y prif danau damweiniol 8% tra arhosodd nifer y tanau eilaidd damweiniol yr un fath (o’i gymharu â 2020-21).

Bu gostyngiad o 6% yn nifer y prif danau bwriadol, tra bu cynnydd o 6% yn nifer y tanau bwriadol eilaidd.

Image
Mae'r siart yn dangos cyfres amser rhwng 2001-02 a 2021-22 o nifer prif danau damweiniol,  y prif danau bwriadol, tanau damweiniol eilaidd a thanau bwriadol eilaidd. Mae'r siart yn dangos mai'r gyfres sy'n dueddol a amrywio fwyaf yw tanau eilaidd bwriadol, er bod tuedd ar i lawr yn dal i fod yn amlwg.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Cam rybuddion tân

Diffinnir cam rybudd tân fel digwyddiad lle galwyd yr Awdurdod Tân ac Achub i dân y rhoddwyd gwybod amdano ond nad oedd yn bodoli. Mae cam rybuddion tân yn cael eu categoreiddio fel a ganlyn:

  • Maleisus: lle gwneir galwad yn fwriadol am dân nad yw’n bodoli.
  • Bwriad da: lle gwnaethpwyd yr alwad yn ddidwyll gan gredu bod tân i fynd iddo.
  • Oherwydd cyfarpar: lle sbardunwyd yr alwad am fod larwm tân ac offer diffodd tân ar waith.

Yn 2021-22, roedd 15,320 o gam rybuddion tân yng Nghymru, i fyny o 14,879 yn 2020-21, cynnydd o 3%.  Ers 2001-02 mae nifer y cam rybuddion tân yr aethpwyd iddynt wedi gostwng 22%.

Cynyddodd nifer yr holl gategorïau o gam rybuddion tân yn 2021-22 o’i gymharu â 2020-21; cynyddodd nifer y cam rybuddion tân bwriad da 4%, cynyddodd y rheini oherwydd cyfarpar 1% tra bu cynnydd o 33% yn nifer y cam rybuddion tân maleisus

At ei gilydd, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y cam rybuddion tân maleisus, gostyngiad o 88% ers 2001-02.

Image
Siart yn dangos nifer y cam rybuddion, yn ôl math (maleisus, oherwydd cyfarpar neu oherwydd bwriad da). Mae'r siart yn dangos bod y rhan fwyaf o gam rybuddion tân yn deillio o gyfarpar. Gwelwyd tuedd gyffredinol ar i lawr yn nifer y cam rybuddion ers 2010-11. Gwelwyd tuedd fwy amlwg ar i lawr yn nifer y cam rybuddion tân maleisus.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Digwyddiadau gwasanaeth arbennig

Yn 2021-22, roedd 25% o’r holl ddigwyddiadau a fynychwyd gan Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru yn Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (SSIs). Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, llifogydd, digwyddiadau meddygol ac ati. Yn wahanol i fathau eraill o ddigwyddiadau, nid yw niferoedd cyffredinol y digwyddiadau gwasanaeth arbennig wedi gweld tuedd gyson ar i lawr ac maent yn dueddol o amrywio.  Mae’n debygol bod pandemig COVID-19 a’r cyfnodau o gyfyngiadau symud wedi cael effaith ar nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2020-21.

At ei gilydd, bu cynnydd o 24% o ran mynd i ddigwyddiadau gwasanaeth tân arbennig yn 2021-22; gwelodd pob un o’r 3 Awdurdod Tân ac Achub gynnydd, gyda’r lefel yn cynyddu 55% yn y Gogledd, 25% yn y Canolbarth a’r Gorllewin ac 16% yn y De. Mae’r cynnydd mewn digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn y Canolbarth a’r Gorllewin yn bennaf oherwydd y cynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yr aethpwyd iddynt a helpu asiantaethau eraill.

Image
Siart yn dangos nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig, yn ôl awdurdod tân ac achub.  Mae'r data'n ymwneud â'r blynyddoedd 2005-06 i 2021-22. Mae'r siartiau'n dangos, am y tro cyntaf yn y gyfres, nad Canolbarth a Gorllewin Cymru a fynychodd y nifer mwyaf o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig – De Cymru a wnaeth hynny. Gogledd Cymru a fynychodd y nifer lleiaf.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Roedd damweiniau traffig ffyrdd i gyfrif am 20% o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig, a bu cynnydd o 38% yn nifer y digwyddiadau damweiniau traffig ffyrdd yr aethpwyd iddynt. Mae ystadegau traffig ffyrdd yn dangos bod lefel y traffig ar y ffyrdd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod 2020 oherwydd pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau teithio a gyflwynwyd ar adegau yn ystod y flwyddyn (gostyngiad o 23.4% o’i gymharu â 2019). Traffig Ffyrdd: 2020 Nid yw data Traffig Ffyrdd ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2021 ar gael eto ond mae dod â chyfyngiadau teithio a mesurau cloi i ben yn debygol o fod wedi arwain at gynnydd mewn traffig o’i gymharu â 2020. Fodd bynnag, mae tystiolaeth i awgrymu bod llawer o weithwyr yn parhau i weithio gartref ac felly efallai na fydd cyfanswm y traffig mor uchel ag yn y blynyddoedd blaenorol. Opinions and Lifestyle Survey - Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig)

Cododd nifer y digwyddiadau meddygol yr aethpwyd iddynt 60%.

Gostyngodd nifer y llifogydd a fynychwyd 44% yn dilyn y niferoedd mawr a welwyd yn 2019-20 a 2020-21.

Tabl 1 Nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn ôl math, 2019-20 i 2021-22
Math o ddigwyddiad 2019-20 2020-21 2021-22(p)
Gwrthdrawiadau traffig ffyrdd  2,122 1,278 1,759
Llifogydd  993 876 490
Achub neu symud o ddwr  214 147 121
Digwyddiadau eraill lle cafodd pobl eu hachub/rhyddhau  322 256 428
Digwyddiadau cynorthwyo anifeiliaid  329 261 306
Gwneud yn ddiogel  346 235 531
Rhyddhau lifft  359 217 290
Sicrhau mynediad  572 469 678
Tynnu gwrthrychau oddi wrth bobl  276 337 449
Digwyddiad meddygol – cyd-ymatebwr/ymatebwr cyntaf  2,117 390 624
Cynorthwyo asiantaethau eraill  1,034 954 1,343
Arall 968 1,023 1,176
Pob Digwyddiad Gwasanaeth Arbennig  9,652 6,443 8,195
Holl alwadau ffug y Gwasanaethau Arbennig 473 577 481

Ffynhonnell: System Cofnodi Digwyddiadau
(p) Data am dros dro.

Marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig â thân

Marwolaethau tân

Diffinnir anaf angheuol fel person y mae ei farwolaeth yn cael ei phriodoli i dân, hyd yn oed os digwyddodd y farwolaeth wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach.

Cafwyd 21 o anafiadau angheuol yn ystod 2021-22. Mae hwn yr un nifer ag yn y flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf ar y cyd ers 2011-12. Mae’r duedd gyffredinol ers 2001-02 (pan fu 38 o farwolaethau) wedi bod ar i lawr, ond mae’r niferoedd yn fach ac yn dueddol o amrywio.

Tabl 2: Nifer a chyfradd yr anafiadau angheuol o danau, 2012-13 i 2021 22
Blwyddyn ariannol Nifer Fesul miliwn o boblogaeth(a)
2012-13 17 5.5
2013-14 17 5.5
2014-15 20 6.5
2015-16 19 6.1
2016-17 19 6.1
2017-18 15 4.8
2018-19 20 6.4
2019-20 16 5.1
2020-21 21 6.6
2020-21(p) 21 6.8

Ffynhonnell: System Cofnodi Digwyddiadau
(a) Daw’r data poblogaeth o Amcangyfrifon Canol Blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(p) Data am dros dro.

Ers 2001-02, bu 77% o’r anafiadau angheuol mewn tanau mewn anheddau, sy’n cyfateb i gyfanswm o 358 o’r 464 o farwolaethau. Yn 2021-22, roedd 76% o’r marwolaethau o ganlyniad i danau mewn anheddau; roedd 3 yn llai o farwolaethau mewn anheddau nag yn y flwyddyn flaenorol.

Yn 2021-22, roedd 13 o’r 21 o farwolaethau yn bobl 60 oed neu hŷn. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r gyfres amser sydd ar gael, y grŵp oedran ‘60 neu hŷn’ oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau, ac yn 2021-22, mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer y grŵp hwn yn fwy na thair gwaith y gyfradd uchaf nesaf (ar gyfer pobl 30-59 oed).

Anafiadau tân nad ydynt yn angheuol

O fis Ebrill 2009 ymlaen, cofnodir anafiadau nad ydynt yn angheuol mewn un o bedwar dosbarth difrifoldeb fel a ganlyn:

  1. y dioddefwr wedi mynd i’r ysbyty, mae’r anafiadau’n ymddangos yn ddifrifol
  2. y dioddefwr wedi mynd i’r ysbyty, mae’r anafiadau’n ymddangos yn rhai mân
  3. rhoddwyd cymorth cyntaf yn y fan a’r lle
  4. argymhellwyd archwiliad rhag ofn, pan fydd unigolyn yn cael ei anfon i’r ysbyty neu’n cael ei gynghori i weld meddyg rhag ofn, ond nad oes unrhyw anaf na thrallod amlwg

Yn 2021-22, roedd 479 o anafiadau nad oeddent yn angheuol (cynnydd o 17% o’i gymharu â 2020-21). Mae’r duedd gyffredinol dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod ar i lawr, er bod y niferoedd a’r cyfraddau cysylltiedig wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Tabl 3: Nifer a chyfradd yr anafiadau nad ydynt yn angheuol o danau, 2012-13 i 2021-22
Blwyddyn ariannol Nifer Fesul miliwn o boblogaeth(a)
2012-13 541 176.0
2013-14 626 203.1
2014-15 543 175.6
2015-16 592 191.0
2016-17 621 199.5
2017-18 526 169.0
2018-19 396 126.2
2019-20 509 161.4
2020-21 408 128.7
2020-21(p) 479 151.1

Ffynhonnell: System Cofnodi Digwyddiadau
(a) Daw’r data poblogaeth o Amcangyfrifon Canol Blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(p) Data am dros dro.

Er bod pob grŵp o gleifion wedi gweld cynnydd, roedd y cynnydd cyffredinol yn deillio o gynnydd yn nifer y rhai a oedd yn cael cymorth cyntaf neu wedi’u hanfon i gael archwiliad rhag ofn, gyda chynnydd o 20% o’i gymharu â 2020-21.

Yn 2021-22, cafodd 70% o’r rhai ag anafiadau nad oeddent yn angheuol gymorth cyntaf neu fe’u cynghorwyd i gael archwiliad rhag ofn. Aethpwyd â 24% arall o’r rhai ag anafiadau nad oeddent yn angheuol i’r ysbyty gyda mân anafiadau ac aethpwyd â’r 6% arall i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Image
Siart yn dangos nifer y rhai a anafwyd nad ydynt yn angheuol o danau yn ôl difrifoldeb yr anaf. Mae'r data'n ymwneud â 2001-02 i 2021-22, lle mae data 2021-22 yn dros dro. Mae'r siart yn dangos er bod nifer y rhai a anafwyd i'r ysbyty wedi gostwng yn amlwg er 2001-02.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Y Cyd-destun

Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn ymwneud ag achosion y gwasanaethau tân ac achub rhwng mis Ebrill 2021 a diwedd mis Mawrth 2022, wrth wneud cymariaethau ag Ebrill 2020 i Fawrth 2021, cyfnod yr effeithiwyd arno’n bennaf gan bandemig coronafeirws (COVID-19), ac felly’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus a oedd ar waith yn ystod y pandemig. Er i gyfyngiadau gael eu llacio yn ystod 2021-22, roedd rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn pan oedd cyfyngiadau yn parhau mewn grym ac efallai nad oedd patrymau ymddygiad wedi dychwelyd i’r hyn a ddigwyddodd cyn y pandemig.

Mae’r adroddiad ar Achosion Tân ac Achub yn manylu ymhellach ar wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Claire Davey
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 24/2022