Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth am danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau a galwadau ffug a fynychwyd ar gyfer Ebrill 2021 i Fedi 2022.

Mae’r dadansoddiad isod yn ymwneud â’r cyfnodau 1 Ebrill 2022 i 30 Medi 2022 o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, yr olaf oedd yn destun rhai cyfyngiadau oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID19).

Prif bwyntiau

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 7,409 o danau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 24%.
  • Roedd 2,142 o brif danau yng Nghymru, cynnydd o 4%.
  • Roedd 5,196 o danau eilaidd yng Nghymru, cynnydd o 35%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
  • Gwelwyd cynnyd mawr yn y nifer o danau eilaidd ym mis Gorffennaf ac Awst 2022 o’u cymharu â’r un misoedd yn 2021. Cynyddod y niferoedd o 86% i 992 ym mis Gorffennaf a niferoedd ym mis Awst wedi mwy na treblu i 1,230. Roedd hyn yn ystod cyfnod ag ambell dymheredd eithriadol o uchel wedi’u cofnodi (Met Office).
  • Roedd 2,339 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 48%.

Anafusion

  • Roedd 5 o farwolaethau tân yng Nghymru, 7 yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 74 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 5 yn fwy na yn y flwyddyn flaenorol.
  • Derbyniodd 138 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn 37 yn llai na’r nifer yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Galwadau ffug

  • Roedd 8,293 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 7% yn fwy nag a adroddwyd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 255 o alwadau ffug maleisus, 35% yn fwy nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Claire Davey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.