Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill i Medi 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau achosion tân ac achub
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 6,164 o danau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 17%.
- Roedd 2,175 o brif danau yng Nghymru, cynnydd o 2%.
- Roedd 3,934 o danau eilaidd yng Nghymru, gostyngiad o 24%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
- Ym mis Mehefin 2023 gwelwyd cynnydd mawr (86%) yn nifer y tanau eilaidd o'i gymharu â Mehefin 2022. Ym mis Ebrill a Gorffennaf 2023 gwelwyd gostyngiadau o 50% ac ym mis Awst 2023 roedd gostyngiad o 68% yn nifer y tanau eilaidd o'i gymharu â'r misoedd hyn yn 2022.
- Roedd 1,563 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 33%.
Anafusion
- Roedd 12 o farwolaethau tân yng Nghymru, 7 yn fwy na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 76 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 1 yn fwy na yn y flwyddyn flaenorol.
- Derbyniodd 118 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn 25 yn llai na’r nifer yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Galwadau ffug
- Roedd 8,634 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 4% yn fwy nag a adroddwyd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 216 o alwadau ffug maleisus, 15% yn llai nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan StatsCymru
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.