Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2025 (2024-25), tra’n cymharu â Ebrill 2023 i Mawrth 2024 (2023-24).

Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am danau, lleoliad, achos, cymhelliant, anafu, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (SSIs) a fynychwyd.

Prif bwyntiau

Mae nifer y tanau a fynychwyd wedi gweld tuedd ar i lawr ers 2001-02, gan ostwng dros 70%. Dros y deng mlynedd diwethaf mae niferoedd wedi bod yn gymharol sefydlog gan aros tua 10,000 i 13,000. Ffigur 2024-25 yw'r ail isaf yn y gyfres amser sef 10,166.

Mae nifer y galwadau tân  diangen hefyd wedi gostwng ond i raddau llai, gan ostwng dim ond 10% ers 2001-02; yn y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd blynyddol ond yn 2024-25 gostyngodd y ffigwr am y tro cyntaf ers 2019-20 (i 16,966). 

Mae nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig wedi amrywio drwy gydol y gyfres amser, yn 2024-25 gwelwyd cynnydd o 2% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

O'i gymharu â 2023-24, cynyddodd nifer y tanau 5% yn 2024-25; ni welodd niferoedd y tanau sylfaenol unrhyw newid canrannol tra roedd cynnydd o 8% yn nifer y tanau eilaidd.

Roedd 16 o anafiadau angheuol o danau yng Nghymru yn 2024-25. Mae hyn 2 yn llai nag yn 2023-24.

Roedd 389 o anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2024-25, cynnydd o 6% o’i gymharu â 2023-24.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Ystadegau cyfiawnder cymdeithasol a diogelwch cymunedol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.