Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC), ar gyfer y cynllun cyflawn (hyd at 21 Tachwedd 2021) a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) ar gyfer y cyfnod hawlio llawn (hyd at 28 Hydref 2021).

Dyma'r cyhoeddiad terfynol yn y gyfres hon o ystadegau swyddogol.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo pan ddaeth CCSC i ben ar 30 Medi 2021 lle cafodd hawliadau eu cyflwyno i CThEM erbyn 21 Tachwedd.

  • Ar 30 Medi 2021, roedd 40,500 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd dderbyn o 3% - sydd yn debyg i’r  gyfradd dderbyn ledled y DU (4%).
  • Roedd gostyngiad o 13% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng 31 Awst a 30 Medi 2021, ac reodd nifer y cyflogaethau ar ffyrlo ar y lefel isaf ers i’r gyfres amser ddechrau ar 1 Gorffennaf 2020.
  • Roedd y gyfradd dderbyn uchaf yng Nghymru yn y Celfyddydau, Adloniant a Hamdden ar 11%, ac yna gweithgareddau gwasanaethau eraill ar 10%. Roedd y cyfraddau derbyn hyn lawer yn uwch na’r gyfradd dderbyn ar gyfer Cymru gyfan.
  • Roedd 18,700 o fenywod a 21,700 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 30 Medi 2021.
  • Prin oedd yr amrywiaeth mewn cyfraddau derbyn cyflogaethau ar ffyrlo ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 30 Medi 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 21 Tachwedd 2021.  Gellid bod wedi diwygio'r ceisiadau ar gyfer mis Medi 2021, hyd at 28 Hydref 2021. Felly, ystyrir bod y data ar gyfer mis Medi yn gyflawn, er mewn ystod fach o amgylchiadau penodol a chyda rheswm, gellir gwneud hawliadau hwyr a diwygiadau ac mewn cytundeb â CThEM.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am bumed grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 29 Gorffennaf 2021 ac a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021.

  • Hyd at 28 Hydref 2021, cafwyd 45,000 o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y pumed CCIH yng Nghymru, sef 32% o’r boblogaeth gymwys.
  • Roedd y nifer a fanteisiodd yn is na'r pedwerydd grant, ac mae data'n dangos tuedd sy'n gostwng yn y nifer sy’n manteisio ar y CCIH o’r grant cyntaf i'r pumed.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru o’r pumed grant hyd at 28 Hydref 2021 oedd £95 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig oedd yn gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (32%).

Dyma’r data terfynol ar gyfer pumed grant CCIH.

Gwybodaeth bellach

Cael help gyda Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Cael help gyda Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.