Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Awst 2011.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Byddem yn croesawu eich cyfraniadau i'n helpu i ddeall y galw am wybodaeth a'r hyn y mae ein defnyddwyr yn ei ystyried sy'n bwysig. Bydd hyn yn ein helpu i roi sail i'n blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Cryno Ardaloedd Lleol am y tro cyntaf ym mis Mai 2010. Maent yn dod ag amrywiaeth o ddata sy’n bodoli eisoes at ei gilydd gan gynnwys ystadegau iechyd yr economi addysg a meysydd eraill o ddiddordeb. Maent yn cael eu diweddaru unwaith mae data newydd ar gael er mwyn sicrhau cyn belled â phosib eu bod yn cynnwys y data fwyaf diweddar.
I sicrhau ein bod ni’n diwallu anghenion ein defnyddwyr rydym wrthi’n cynnal ymgynghoriad i geisio adborth ar ddefnyddioldeb yr Ystadegau Cryno Ardaloedd Lleol yr ydym yn cyhoeddi ar hyn o bryd. Rydym ni’n ceisio barn am sut y gellir gwella’r allbwn ac i weld os oes rhywbeth ar goll yn yr hyn ydyn ni’n darparu.
Buasem ni’n gwerthfawrogi os allech chi gymryd o’ch amser i gwblhau a dychwelyd yr holiadur byr isod.
