Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ystadegau hyn?

Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at y gyfres o ystadegau cyllid llywodraeth leol. Mae'r gyfres hon yn ymdrin â datganiadau ystadegol sy'n cynnwys cyfres gyflawn a chynhwysfawr o wybodaeth am gyllid awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r ystadegau yn ymdrin â refeniw a gwariant cyfalaf, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Maent yn ymdrin â data hanesyddol, cyfredol a data ar gyllidebu. Mae'r fersiynau diweddaraf i'w gweld ar ein tudalen mynegai. Ceir rhagor o fanylion am y pynciau penodol isod.

Alldro Refeniw a Chyllideb Refeniw

Gwariant sy'n gysylltiedig â chynnal gwasanaethau awdurdodau lleol, megis cyflogau, prynu nwyddau megis llyfrau ar gyfer ysgolion a chostau rhedeg beunyddiol megis gwresogi, goleuo a glanhau adeiladau.

Alldro Cyfalaf a Rhagolwg Cyfalaf

Gwariant ar fuddsoddi mewn gwasanaethau awdurdodau lleol, yn bennaf darparu, caffael a gwella asedau sefydlog megis tir, adeiladau a cherbydau.

Y dreth gyngor

Tâl a godir ar bob annedd domestig am ddarparu gwasanaethau'r awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys elfennau ar gyfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol, awdurdod yr heddlu a, lle y bo'n berthnasol, y cyngor cymuned lleol.

Ardrethi annomestig

Neu ardrethi busnes, yw’r tâl a godir ar eiddo annomestig. Bydd rhai eiddo wedi’u heithrio o dalu ardrethi annomestig, a bydd eraill yn gymwys am ryddhad ardrethi. Fel gyda’r dreth gyngor, bydd y refeniw a godir o ardrethi annomestig yn helpu i dalu am wasanaethau lleol.

Gwariant ar addysg

Gwariant ar ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig, gan gynnwys costau athrawon, cludiant o'r cartref i'r ysgol, a gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion. Mae gwariant ar addysg hefyd yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i'r ysgol megis gwasanaethau ieuenctid, cymunedol, ac addysg bellach.

Defnyddwyr a dibenion

Mae'r ystadegau'n bwysig ac mae iddynt nifer o ddibenion, er enghraifft:

  • cynghori Gweinidogion
  • cyfrifo setliadau refeniw cyllid llywodraeth leol
  • meincnodi a chymharu awdurdodau unedol
  • cymharu gwariant yng Nghymru â gwariant mewn gwledydd eraill
  • llywio'r drafodaeth yn Senedd Cymru a'r tu hwnt
  • helpu i ymchwilio i faterion yn ymwneud â gwariant cyhoeddus
  • llywio dadansoddiad economaidd

Credwn mai prif ddefnyddwyr ystadegau cyllid llywodraeth leol yw:

  • Gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn Senedd Cymru
  • Trysorlys Ei Mawrhydi
  • y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
  • awdurdodau unedol llywodraeth leol (aelodau etholedig a swyddogion)
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • cydweithwyr eraill Llywodraeth Cymru
  • adrannau eraill y llywodraeth
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Y cylch prosesu data

Y data a gesglir

Ceir manylion am y wybodaeth rydym yn ei chasglu ar ein tudalennau casglu data. Mae'n cynnwys:

  • cyllideb ac alldro refeniw
  • cyllideb ac alldro refeniw ar lefel ysgolion
  • rhagolwg ac alldro cyfalaf
  • anheddau'r dreth gyngor, lefelau a'r dull casglu
  • amcangyfrif a gwir symiau ardrethi annomestig

Y dull casglu data

Cesglir data gan awdurdodau lleol, awdurdodau'r heddlu, awdurdodau tân ac awdurdodau parciau cenedlaethol drwy daenlenni Excel, a gaiff eu lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Awgryma adborth gan ymatebwyr mai'r dull casglu hwn yw'r un mwyaf defnyddiol.

Mae'r ffigurau'n destun profion dilysu wedi'u rhagddiffinio trylwyr, a hynny o fewn y ffurflen ei hun, wrth i'r ffurflen gael ei chwblhau gan yr awdurdod, ac hefyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r taenlenni'n galluogi ymatebwyr i ddilysu rhywfaint o'r data cyn cyflwyno'r daenlen i Lywodraeth Cymru. Caiff ymatebwyr hefyd gyfle i gynnwys gwybodaeth gyd-destunol lle bu newidiadau mawr. Mae hyn yn sicrhau bod y data a gyflwynir i Lywodraeth Cymru eisoes o ansawdd uchel cyn i unrhyw wiriadau dilysu mewnol gael eu cwblhau. Ymhlith enghreifftiau o wiriadau dilysu yn y ffurflenni mae newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, croeswiriadau â chasgliadau data perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod y data o fewn lefelau goddefiant wedi'u rhagddiffinio.

Dilysu a chadarnhau

Ar ôl i'r data ddod i law, maent yn destun gwiriadau dilysu a chadarnhau pellach, er enghraifft:

  • gwariant y pen fesul awdurdod lleol
  • gwiriadau cysondeb rhifyddol
  • croeswiriadau â chasgliadau data perthnasol eraill
  • gwiriadau goddefiant trylwyr
  • gwaith cymharu alldro â chyllidebau
  • croeswiriadau â data o adrannau eraill y llywodraeth
  • cadarnhau bod y data y tu hwnt i'r lefelau goddefiant yn gywir

Os caiff unrhyw faterion o ran dilysu eu nodi, hysbysir yr awdurdod a gofynnir iddo gyflwyno taenlen ddiwygiedig. Nid yw Llywodraeth Cymru yn mewnbynnu unrhyw ddata i daenlenni awdurdodau lleol a mater i'r awdurdodau yw gwneud y newidiadau perthnasol ac ailgyflwyno'r daenlen. Mae hyn yn sicrhau perchenogaeth leol dros y data.

Mae'r broses hon yn parhau tan y bydd y data wedi llwyddo ym mhob gwiriad dilysu.

Ar ôl i'r gyfres ddata gael ei dilysu'n llwyr cyn y dyddiad cyhoeddi, caiff cyhoeddiadau ystadegol eu drafftio a chynhelir cyfarfodydd mewnol i drafod a chadarnhau'r data. Os caiff unrhyw faterion eu nodi ar y cam hwn, cysylltir â'r awdurdodau eto a gofynnir iddynt ddarparu esboniadau neu ailgyflwyno taenlen ddiwygiedig.

Ar ôl i'r holl wiriadau gael eu cwblhau, caiff y data eu clirio i'w cyhoedd.

Rhaid i nifer o'r casgliadau data gael eu cymeradwyo gan y prif swyddog ariannol ym mhob awdurdod lleol er mwyn cadarnhau bod y data wedi'u gwirio, a'u bod yn gywir. Bydd ffurflenni ardrethi annomestig hefyd yn cael eu harchwilio gan Archwilio Cymru.

Cyhoeddi

Mae'r ystadegau hyn yn dilyn proses integredig fertigol a llorweddol. Felly, data awtomataidd a fewnbynnir i'r bwletinau a'r datganiadau ystadegol cyntaf. Fodd bynnag, caiff y pwyntiau allweddol a'r sylwadau eu drafftio ar wahân.

Safonau

Mae'r data a gesglir yn cyrraedd safonau proffesiynol cydnabyddedig.  Yn benodol, mae angen y data cyllid o dan ddeddfwriaeth a rhaid iddynt gydymffurfio â gweithdrefnau cyfrifyddu CIPFA. Fodd bynnag, rhoddir canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru ar ddehongli'r safonau hyn er mwyn sicrhau cysondeb ar draws yr awdurdodau.

Datgelu a chyfrinachedd

Nid yw datgelu na chyfrinachedd yn feysydd o bryder am ei bod yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth i'r holl ddata a gesglir ac a gyhoeddir fod ar gael i'r cyhoedd.

Ansawdd

Mae Ystadegau Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn strategaeth ansawdd, ac mae hyn yn unol â chwe diffiniad y System Ystadegol Ewropeaidd a restrir yn Egwyddor 4 y Cod Ymarfer. 

Yn benodol, mae'r rhestr isod yn cynnwys y chwe dimensiwn a'r modd rydym yn eu dilyn.

Perthnasedd

I ba raddau y mae'r cynnyrch ystadegol yn diwallu anghenion defnyddwyr o ran cwmpas a chynnwys.

Mae'r gyfres o ystadegau a gyhoeddir gan Gyllid Llywodraeth Leol yn ymdrin â phob agwedd ar wariant (a chyllidebau) llywodraeth leol. Mae defnyddwyr y Llywodraeth yn defnyddio'r data yn uniongyrchol i ddyrannu refeniw a gwneud penderfyniadau ynghylch polisi. Mae llywodraeth leol a chyrff anllywodraethol eraill yn defnyddio'r data at ddibenion meincnodi. Amlinellir uchod y buddiannau a'r defnydd a wneir o'r data hyn.

Rydym yn parhau i gynnal rhestr fyw o ddefnyddwyr a dibenion. Rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod inni sut maent yn defnyddio'r data.

Byddwn yn ymgynghori â'r prif ddefnyddwyr cyn gwneud newidiadau a, lle y bo'n bosibl, yn defnyddio cyfryngau megis y rhyngrwyd, pwyllgorau a rhwydweithiau eraill i ymgynghori â defnyddwyr anhysbys.

Mae gennym hefyd gymuned defnyddwyr, sy'n cyfarfod yn chwarterol, a chymuned ymarfer ar-lein. 

Rydym yn croesawu adborth ac yn adolygu pob un o'n hallbynnau’n weithredol. Gellir e-bostio sylwadau i  ystadegau.cyllid@llyw.cymru.

Cywirdeb

Pa mor agos at y canlyniad a amcangyfrifir yw'r gwir werth (anhysbys).

Gellir dadansoddi cywirdeb yn ôl gwallau samplu a gwallau nad ydynt yn rhai samplu.  Mae gwall nad yw'n wall samplu yn cynnwys meysydd megis gwallau cwmpas, gwallau diffyg ymateb, gwallau mesur a gwallau prosesu. 

Mae'r data y gofynnir amdanynt gan awdurdodau lleol, awdurdodau tân, awdurdodau'r heddlu ac awdurdodau parciau cenedlaethol, ac a ddarperir ganddynt, yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth. Cesglir y data drwy gyfrwng arolwg 100% felly ni chaiff unrhyw amcangyfrif o'r ffigurau ei gyfrifo, ac o'r herwydd, nid oes unrhyw wall samplu.

Mae llai o siawns o wall nad yw'n wall samplu oherwydd bodolaeth safonau cyfrifyddu proffesiynol cenedlaethol, a gyhoeddir gan CIPFA, a'r gofyniad i gydymffurfio â nhw. At hynny, darperir canllawiau ychwanegol sylweddol ar y casgliadau data. Os bydd gwall nad yw'n wall samplu yn effeithio ar y data, byddwn yn darparu gwybodaeth lawn i ddefnyddwyr i'w galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar ansawdd yr ystadegau, yn arbennig a oes cyfyngiadau i'r data.

Mae pob un o'n hallbynnau yn cynnwys gwybodaeth allweddol am ansawdd mewn perthynas â chwmpas, amseru a daearyddiaeth.

Pe bai data anghywir yn cael eu cyhoeddi, er y byddai hynny'n annhebygol, byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â threfniadau diwygiadau, gwallau a gohirio Llywodraeth Cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Amseroldeb yw'r cyfnod o amser rhwng cyhoeddi'r data a'r cyfnod y mae'r data'n cyfeirio ato. Prydlondeb yw'r cyfnod o amser rhwng y dyddiadau cyhoeddi arfaethedig a gwirioneddol.

Mae'r holl allbynnau'n glynu wrth y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe y calendr i ddod.  At hynny, pe bai angen gohirio allbwn, byddai hynny'n digwydd yn unol â Threfniadau diwygiadau, gwallau a gohirio Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cyhoeddi datganiadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y cyfnod perthnasol o amser.

Hygyrchedd ac eglurder

Hygyrchedd yw pa mor hwylus ydyw i ddefnyddwyr gael gafael ar y data, gan hefyd adlewyrchu'r fformat(au) y mae'r data ar gael ynddynt a'r wybodaeth ategol sydd ar gael. Eglurder yw ansawdd a digonolrwydd y metadata, y delweddau a'r cyngor ategol.

Cyhoeddir ystadegau cyllid llywodraeth leol Cymru mewn modd hygyrch, trefnus ac wedi'i rag-gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae'r holl ddatganiadau ar gael i'w lawrlwytho am ddim.

Mae data manylach hefyd ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru, a gellir trin y data hyn neu eu lawrlwytho i daenlenni i'w defnyddio all-lein.

Ein nod yw defnyddio iaith syml yn ein hallbynnau, ac mae pob un ohonynt yn dilyn polisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. At hynny, cyhoeddir ein penawdau yn Gymraeg a Saesneg.

Rydym yn cynnal adolygiad cymheiriaid o'n hallbynnau yn rheolaidd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol a enwir ar y datganiad neu drwy ystadegau.cyllid@llyw.cymru.

Cymaroldeb

I ba raddau y gellir cymharu data dros amser a pharthau.

Mae glynu wrth y cod proffesiynol (Cod Ymarfer Adrodd ar Wasanaethau CIPFA) wedi golygu mai prin fu'r newidiadau dros amser. Lle bu data cyfres amser na ellir eu cymharu o ddechrau'r gyfres amser tan ei diwedd, dangosir hyn yn glir yn yr allbynnau. Lle y ceir hysbysiad ymlaen llaw am newidiadau yn y dyfodol, caiff y rhain eu rhag-gyhoeddi yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru.

Lle y bo'n briodol, byddwn yn cynnwys dolenni a data ar gyfer rhanbarthau a gwledydd cymaradwy eraill.

Lle na chaiff diffiniadau safonol eu defnyddio, byddwn yn nodi hyn ac yn egluro'r rheswm pam.

Mae bodolaeth cod proffesiynol a'n cydymffurfiaeth ag ef yn rhoi sicrwydd bod y data yn gyson ar draws parthau, megis awdurdodau lleol.

Cydlyniaeth

I ba raddau y mae data sy'n deillio o ffynonellau neu ddulliau gwahanol, ond sy'n cyfeirio at yr un ffenomen, yn debyg.

Cesglir yr holl ddata o'r un ffynhonnell ac, felly, cânt eu halinio'n fertigol. At hynny, gan fod y data'n cydymffurfio â safon broffesiynol genedlaethol CIPFA, cânt eu halinio'n fertigol rhwng sefydliadau hefyd.

Caiff casgliadau data eu gwirio rhwng ffurflenni er mwyn sicrhau cydlyniaeth y data a gyflwynir.

At hynny, mae'r gydberthynas waith agos â CIPFA yn sicrhau bod y data a ddefnyddir yno hefyd yn cyfateb i'r data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

Lle y bo'n bosibl, caiff data a gesglir yng Nghymru eu cysoni â data a gesglir yn Lloegr. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd gwahaniaethau â data a gyhoeddir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Lledaenu

Mae'r holl ddata o ansawdd digonol yn dilyn y prosesau gwirio sylweddol a amlinellir uchod i gyfiawnhau eu cyhoeddi. Cyhoeddir y negeseuon lefel uchel ar dudalen gyntaf y datganiad perthnasol a chaiff tablau lefel uchel eu cynnwys yn y datganiad. Caiff yr holl ddata gwirioneddol a ddarperir eu cyhoeddi ar ein gwefan ryngweithiol, StatsCymru.

Gwerthuso

Rydym bob amser yn croesawu adborth ar ein hystadegau. Cysylltwch â ni yn ystadegau.cyllid@llyw.cymru