Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar ystadegau a deilliannau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr, ar gyfer rhaglenni galwedigaethol a rhaglenni addysg gyffredinol (gan gynnwys Safon Uwch) mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach, ac ar gyfer prentisiaethau neu gyrsiau dysgu oedolion, rhwng mis Awst 2017 a mis Gorffennaf 2021.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ystadegau sylfaenol ar ddysgu ôl-16 ar gyfer dysgwyr gyda chefndiroedd ethnig gwahanol fel y gellir nodi a monitro anghydraddoldebau wrth symud ymlaen. Mae’n dwyn ynghyd ystadegau newydd ac ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Prif bwyntiau

  • Roedd myfyrwyr blwyddyn 11 o gefndir Sipsiwn, Teithwyr neu Deithwyr Gwyddelig yn llai tebygol o barhau i addysg ôl-16 na grwpiau ethnig eraill.
  • O ran y rhan fwyaf o grwpiau ethnig leiafrifol eraill roedd cyfranogiad yn agos at gyfartaledd Cymru, neu uwchlaw iddo.
  • Mae dysgu seiliedig ar waith yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd na meysydd eraill dysgu ôl-16.
  • Yn gyffredinol, roedd dysgwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaol ar ôl gadael dysgu ôl-16.
  • O gymharu ag eraill, mae cyfraddau cyflawni Safon Uwch is gan ddysgwyr o gefndiroedd Bangladeshaidd; Gwyn a Du Affricanaidd; Gwyn a Du Caribïaidd; Gwyn a Du Asiaidd; ac unrhyw gefndir ethnig lleiafrifol arall.
  • Dysgwyr gwrywaidd o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, neu Ddu Prydeinig sydd â chanlyniadau graddau Safon Uwch isaf o unrhyw gyfuniad o grwpiau ethnig / rhywedd.

Adroddiadau

Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr, Awst 2017 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 799 KB

PDF
Saesneg yn unig
799 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr, Awst 2017 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 158 KB

ODS
Saesneg yn unig
158 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.