Neidio i'r prif gynnwy

Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn ar gyfer y tri mis hyd at fis Mai 2020.

Er bod y mwyafrif o'r cyfnod amser ar gyfer yr amcangyfrifon hyn o’r Arolwg o'r Llafurlu yn ymdrin â’r pandemig coronafeirws (COVID-19), mae ffynonellau data eraill yn cynnig darlun mwy amserol a chyflawn o ran deall effaith COVID-19 ar yr economi.

Cyfradd cyflogaeth

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi cynyddu’n gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.8%, i fyny 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 76.4%, i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Siart sy’n dangos canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf.

Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 2.7%, i lawr 1.0 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 3.9%. Mae hwn yn ddinewid ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru a'r DU. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn uwch nac yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.1%. Mae hwn yn ddinewid ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.4%, i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Enillion misol o Wybodaeth Amser Real Dalu wrth Ennill

Mae'r cyflog canolrifol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi gostwng dros y misoedd diwethaf.

 Yn ystod y tri mis hyd at fis Mai 2020, y cyflog misol canolrifol ar gyfer Cymru oedd £1,702. Mae hyn yn llai na chyfartaledd y DU o £1,809 y mis.

O gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, gwelodd Cymru gynnydd o 0.7% yn y cyflog misol; y pedwerydd twf cyflymaf ar draws y 12 gwledydd a rhanbarthau’r DU.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol, Gorffennaf 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.