Neidio i'r prif gynnwy

Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Tachwedd 2020

Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.

Cyfradd cyflogaeth

Image
Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

 

Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.4%, i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 2.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad blynyddol ail fwyaf ers i’r gyfres ddechrau yn 1992. Roedd y gostyngiad mwyaf a gofnodwyd yn ystod y dirwasgiad mawr a ddechreuodd yn 2008. Gostyngodd y gyfradd gyflogaeth 2.7 pwynt canran ym mis Mehefin i fis Awst 2009.

DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.2%, i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad blynyddol mwyaf yn y gyfradd gyflogaeth ers mis Chwefror i fis Ebrill 2010.

Cyfradd diweithdra

Image
Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

 

Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.6%, i fyny 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r cynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd diweithdra ers mis Gorffennaf i fis Medi 2011.

DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 5.0%, i fyny 0.6 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r cynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd diweithdra ers mis Hydref i fis Rhagfyr 2009.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

 

Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 24.0%, i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.7%, i lawr 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Image
Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth tan fis Gorffennaf 2020.

 

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu yn gyffredinol yn ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Rhagfyr 2020 yn dangos bod 1.23 miliwn o weithwyr cyflogedig yng Nghymru.  Roedd hyn yn ostyngiad o 30,300 (2.4%) o gymharu â mis Chwefror 2020, ond yn gynnydd bach o 3,000 (0.2%) o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol: Ionawr 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.