Neidio i'r prif gynnwy

Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn ar gyfer y tri mis hyd at fis Gorffennaf 2020.

Er bod y cyfnod amser cyfan ar gyfer yr amcangyfrifon hyn o’r Arolwg o'r Llafurlu yn ymdrin â’r pandemig coronafeirws (COVID-19), mae ffynonellau data eraill yn cynnig darlun mwy amserol a chyflawn o ran deall effaith COVID-19 ar yr economi.

Cyfradd cyflogaeth

Image
Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi cynyddu’n gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.7%, i fyny 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac yn ddinewid ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 76.4%, i fyny 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Image
Siart sy’n dangos canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf.

Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.1%, i fyny 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 4.1%, i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru a'r DU. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn uwch nac yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 22.9%, i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt

DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.2%, i fyny 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Enillion misol o Wybodaeth Amser Real Dalu wrth Ennill

 Mae'r cyflog canolrifol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi gostwng yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) hyd at Fehefin 2019.

Yn ystod y tri mis hyd Orffennaf 2020, cynyddodd cyflog canolrifol ar draws y 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Yng Nghymru, dychwelodd cyflog canolrifol i lefelau tebyg i’r hyn welwyd ar ddechrau’r flwyddyn.

 Yn ystod y tri mis hyd at fis Gorffennaf 2020, y cyflog misol canolrifol ar gyfer Cymru oedd £1,726. Mae hyn yn llai na chyfartaledd y DU o £1,828 y mis.

O gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, gwelodd Cymru gynnydd o 1.6% yn y cyflog misol - yr ail dwf cyflymaf ar draws y 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol: Medi 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.