Neidio i'r prif gynnwy

Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Ebrill 2019

Cyfradd cyflogaeth

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi cynyddu’n gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 75.5%, i lawr 0.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 76.1%, yn ddinewid ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Siart sy’n dangos canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf.

Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.4%, i fyny 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 3.8%, i lawr 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol l ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru a'r DU. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn uwch nac yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 20.9%, i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol l ac i lawr 2.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.8%, i fyny 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol, Mehefin 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.