Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â’r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023. 

Adroddiad blynyddol yn cyflwyno gwybodaeth am weithwyr, iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân. 

Gweithwyr yr Awdurdodau Tân ac Achub

Roedd 2,215 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,293 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2023 o gymharu â 2,183 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,279 o staff yn ôl galw ar 31 Mawrth 2022. Mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu am y pedwaredd flwyddyn yn olynol, i fyny 6% o gymharu â 2018 i 2019; mae nifer y staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi gostwng 3% dros yr un cyfnod.

O’r 2,215 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,506) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

Yn ystod 2022 i 2023, collwyd 12.7 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn a 25.1 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.

Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân yn ôl galw 74 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

Yn ystod 2021 i 2022 deliodd staff rheoli tân gyda bron i 74,000 o alwadau yng Nghymru, cynnydd o 4% ar 2021 i 2022.

Diogelwch tân

Yn ystod 2022 i 2023, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 1,966 archwiliad diogelwch tân mewn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o adeiladau o’r fath yng Nghymru. 

Diogelwch tân cymunedol

Yn ystod 2022 i 2023, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 40,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref; mewn 74% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.

Yn ystod 2022 i 2023, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub bron i 12,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Bron i 300 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall. 

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Claire Davey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.