Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â’r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2025.

Adroddiad blynyddol yn cyflwyno gwybodaeth am weithwyr, iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân.

Gweithwyr yr awdurdodau tân ac achub

  • Roedd 2,271 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,306 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2025 o gymharu â 2,211 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,278 o staff yn ôl galw ar 31 Mawrth 2024.
  • O’r 2,271 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,520) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

  • Yn ystod 2024-25, collwyd 13.3 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn a 20.8 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
  • Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân yn ôl galw 87 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

  • Yn ystod 2024-25 deliodd staff rheoli tân gyda bron i 73,500 o alwadau yng Nghymru, cynnydd o 3% ar 2023‑24.

Diogelwch tân

  • Yn ystod 2024-25, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 2,117 archwiliad diogelwch tân mewn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.

Diogelwch tân cymunedol

  • Yn ystod 2024-25, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 45,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref; mewn 79% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
  • Yn ystod 2024-25, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub bron i 19,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Cafodd dros 2,200 eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Claire Davey
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099