Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Gweithwyr yr Awdurdodau Tân ac Achub

  • Roedd 2,139 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,328 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2017 o gymharu â 2,110 o staff amser llawn a 1,292 o staff wrth gefn ar 31 Mawrth 2017. Mae niferoedd y staff wedi amrywio ers 2004-05, ond hwn yw’r ail gynnydd olynol blwyddyn ar flwyddyn yn y cyfnod hwn.
  • O’r 2,139 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,455) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn. Gwelwyd cyfran debyg yn 2016-17.

Iechyd a diogelwch

  • Yn ystod 2017-18, collwyd 9.3 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn ac 14.3 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
  • Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân wrth gefn 100 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

  • Yn ystod 2017-18 deliodd staff rheoli tân yn trin dros  70,000 o alwadau yng Nghymru, cynyddodd o 4% ar 2016 17.

Diogelwch tân

  • Yn ystod 2017-18, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 3,370 archwiliad diogelwch tân yn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 4% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.

Diogelwch tân cymunedol

  • Yn ystod 2017-18, fe gwblhawyd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 53,000 gwiriadau diogelwch tân yn y cartref, mewn 86% ohonynt mae o leiaf un aelod o’r aelwyd yn cael ei nodi fel yn dangos risg.
  • Yn ystod 2017-18, fe gwblhawyd yr Awdurdodau Tân ac Achub dros 20,000 gwiriadau diogelwch tân yn y cartref sydd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân, ac fe arweiniodd i dros 2,500 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall.
  • Fe dderbyniodd dros 100,000 o blant a phobl ifanc sgwrs tân a diogelwch yn ysgol gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yn ystod 2017-18.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.