Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

Gweithwyr yr awdurdodau tân ac achub

  • Roedd 2,096 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,331 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2019 o gymharu â 2,139 o staff amser llawn a 1,328 o staff wrth gefn ar 31 Mawrth 2018. Mae niferoedd y staff wedi amrywio ers 2004-05, ond dyma’r cwymp cyntaf yn y niferoedd ers 2015-16.
  • O’r 2,096 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,414) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

  • Yn ystod 2018-19, collwyd 9.9 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn ac 22.7 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
  • Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân wrth gefn 144 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

  • Yn ystod 2018-19 deliodd staff rheoli tân gyda dros 80,000 o alwadau yng Nghymru, cynnydd o 14% ar 2017 18.

Diogelwch tân

  • Yn ystod 2018-19, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 3,409 archwiliad diogelwch tân yn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 4% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.

Diogelwch tân cymunedol

  • Yn ystod 2018-19, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 51,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref, mewn 96% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
  • Yn ystod 2018-19, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub dros 18,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Gwnaeth bron i 1,600 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall
  • Derbyniodd bron i 115,000 o blant a phobl ifanc sgwrs tân a diogelwch yn yr ysgol gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yn ystod 2018-19.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.