Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau o gofnodion cynenedigol, genedigaethau a iechyd plant, gan gynnwys ysmygu yn ystod beichiogrwydd, bwydo ar y fron a phwysau geni plant a anwyd yng Nghymru yn 2019.

Prif bwyntiau

  • Roedd 29,728 o enedigaethau byw yng Nghymru.
  • Roedd 4% o enedigaethau byw i famau o dan 20 oed, sef y ganran isaf ar gofnod.
  • Cafodd o leiaf 72% o fenywod eu hasesiad cyn-geni cychwynnol cyn diwedd eu degfed wythnos o feichiogrwydd.
  • Cofnodwyd bod gan 25% o fenywod gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol.
  • Roedd 28% o fenywod yn ordew (BMI 30 +) yn eu hasesiad cychwynnol.
  • Cofnodwyd 17% o fenywod fel ysmygwr yn ystod yr asesiad cychwynnol; Ni chofnodwyd 18% o'r rhain fel ysmygwyr ar adeg geni.
  • Dechreuodd 51% o esgorau yn naturiol tra bod 33% yn cael eu cymell.
  • Cafwyd 28% o enedigaethau drwy doriad Cesaraidd, yr oedd ychydig o dan hanner yn ddewisol ac ychydig dros hanner yn achosion brys.
  • Roedd gan 6% o enedigaethau unigol bwysau geni isel.
  • Bwydodd 62% o famau ar y fron ar adeg geni, yr uchaf erioed.

Adroddiadau

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, 2019 (diweddaru) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, 2019 (diweddaru) , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 323 KB

ODS
Saesneg yn unig
323 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.