Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y datganiad hwn yw cynnig trosolwg ystadegol o famolaeth a genedigaethau yng Nghymru, gan gynnwys dadansoddiadau o nodweddion y mamau. Defnyddir yr ystadegau i lywio datblygiad polisi mamolaeth Llywodraeth Cymru a chaiff yr holl dablau data eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Cyhoeddir y prif ddata ar gyfer nifer y genedigaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy’n cyfrif nifer y genedigaethau a gofrestrir. Fodd bynnag, mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau genedigaethau gan ddefnyddio data sydd wedi tarddu o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD). Mae’r ffynonellau hyn yn cyd-fynd yn agos â data’r SYG, ond mae ganddynt ystod ehangach o eitemau data i’w cymharu nag sydd gan ddata’r SYG.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni’r plentyn â chofnod o asesiad cychwynnol y fam (pan fo modd). Mae rhai materion ansawdd data yn y set ddata hon y tynnir sylw atynt yn y datganiad ac yr esbonnir hwy’n fanylach yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi’u trin Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol.

Cyhoeddir ystadegau bwydo ar y fron mewn datganiad blynyddol ar wahân, a gyhoeddwyd ddiwethaf ar 26 Gorffennaf 2023.

Y prif bwyntiau

Crynodeb o ystadegau gofal cynenedigol 

Gwelwyd gostyngiad o bedwar pwynt canran yng nghanran y menywod beichiog a gafodd eu hasesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos eu beichiogrwydd yn 2022. Roedd y ganran yn is ar gyfer menywod yn y grwpiau oedran ieuengaf a hynaf

Dywedodd tair o bob deg o fenywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu bob blwyddyn ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn 2016.  Roedd menywod beichiog iau yn fwy tebygol o nodi cyflwr iechyd meddwl na menywod beichiog hŷn. 

Roedd canran y menywod beichiog o gefndiroedd ethnig Cymysg a chefndiroedd ethnig Gwyn a nododd gyflwr iechyd meddwl fwy na thair gwaith yn uwch na menywod beichiog o gefndiroedd ethnig Du neu Asiaidd.

Cafodd bron i draean o fenywod beichiog eu dosbarthu’n ordew yn ôl eu sgôr BMI yn yr asesiad cychwynnol. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu bob blwyddyn ers casglu data am y tro cyntaf yn 2016 ac roedd yn debyg ar gyfer pob grŵp oedran rhwng 20 a 24 oed a 45 oed neu hŷn. 

Yn yr asesiad cychwynnol, roedd canran y menywod beichiog gordew o gefndiroedd ethnig Du neu Gwyn yn agos at ddwbl canran y menywod beichiog gordew o gefndiroedd Asiaidd. 

Fe wnaeth ychydig dros chwarter yr holl fenywod ennill y pwysau a argymhellir yn ystod beichiogrwydd, yn seiliedig ar eu grŵp BMI yn yr asesiad cychwynnol. 

Cafwyd gostyngiad bach yn 2022 yng nghanran y menywod beichiog a gofnodwyd fel smygwyr yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, i lawr i'w lefelau isaf ar gofnod. Fe wnaeth ychydig dros chwarter 'roi’r gorau i smygu' rhwng eu hasesiad cychwynnol a'r enedigaeth, a hon hefyd oedd y lefel uchaf ar gofnod. Fodd bynnag, ers y pandemig COVID-19, mae data smygu wedi cael ei hunanadrodd bron yn gyfangwbl yn hytrach na'i brofi drwy brawf carbon monocsid, a gallai hyn esbonio'n rhannol y gostyngiad mewn cyfraddau smygu. 

Roedd y cyfraddau smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth yn gostwng wrth i grŵp oedran y fam gynyddu. Roedd y cyfraddau hefyd yn sylweddol uwch mewn mamau o gefndiroedd ethnig Gwyn a Chymysg, gydag ychydig iawn o famau o gefndiroedd Du neu Asiaidd wedi'u cofnodi fel smygwyr. 

Crynodeb o'r ystadegau ar gyfer esgor a genedigaethau

Dechreuodd ychydig llai na hanner yr esgoriadau yn ddigymell yn 2022, gan barhau â'r duedd ar i lawr yn y tymor hwy.

Rhoddwyd epidwral mewn ychydig llai na chwarter yr holl enedigaethau, ac roedd hynny’n debyg yn fras i’r tair blynedd diwethaf. 

Cafodd ychydig dros draean o fabanod eu geni drwy doriad cesaraidd, sef y ganran uchaf ar gofnod. O'r holl enedigaethau, cyrhaeddodd un o bob pump drwy doriad cesaraidd brys a chyrhaeddodd bron i un o bob saith drwy doriad cesaraidd dewisol. 

Gostyngodd nifer y genedigaethau byw i'w nifer isaf ers i gofnodion sy’n weddol gymaradwy ddechrau ym 1929. Yn 2022, roedd 15% yn llai o enedigaethau unigol byw a 39% yn llai o enedigaethau lluosog (efeilliaid a thripledi) nag a oedd ddeng mlynedd ynghynt. 

Roedd bron i 9 o bob 10 genedigaeth yn dod o gefndiroedd ethnig Gwyn, ond mae'r ganran hon wedi gostwng 2 bwynt canran o gymharu phum â mlynedd yn ôl. Mae canran y genedigaethau o gefndiroedd ethnig Du ac Asiaidd wedi cynyddu 0.8 a 0.6 pwynt canran yn y drefn honno, dros yr un cyfnod. 

Parhaodd canran y mamau iau roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn i ostwng, ac roedd ychydig dros hanner yr holl famau a roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn yn 30 oed neu'n hŷn. Roedd mwy o famau rhwng 35 a 39 oed nag a oedd rhwng 20 a 24 oed am yr ail flwyddyn yn olynol.

Fe wnaeth bron i un o bob hanner cant o enedigaethau ddigwydd yn y cartref yn 2022, y gyfran isaf o enedigaethau cartref ers 2002. 

Cyrhaeddodd bron i un o bob 12 genedigaeth yn gynamserol. Mae'r gyfran hon wedi bod yn ddigyfnewid i raddau helaeth dros y saith mlynedd diwethaf. 

Cynyddodd canran y babanod â phwysau geni isel ychydig i 6.1%. Er bod amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, mae'r ganran hon wedi bod ar duedd fach ar i fyny dros yr wyth mlynedd diwethaf.  Roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benywaidd bwysau geni isel na babanod gwrywaidd.

Roedd y pwysau geni cyfartalog ar gyfer genedigaeth babi unigol ychydig dros un cilogram yn drymach na genedigaeth luosog. 

Roedd gan ychydig dros hanner y genedigaethau mewn beichiogrwydd lle’r oedd rhwng 32 a 36 wythnos wedi’u cwblhau bwysau geni isel, o gymharu â 3% o enedigaethau mewn beichiogrwydd lle’r oedd rhwng 37 a 41 wythnos wedi’u cwblhau.  

Er y byddai disgwyl bod gan ganran uwch o enedigaethau o gefndiroedd ethnig Asiaidd bwysau geni isel o'i gymharu â grwpiau ethnig eraill, cynyddodd canran y babanod pwysau geni isel o gefndiroedd Asiaidd i'w chyfradd uchaf ar gofnod, tra bod y cyfraddau ar gyfer pob grŵp ethnig arall wedi parhau i gyd-fynd yn fras â thueddiadau tymor hwy.

Gofal cynenedigol

Mae’r ystadegau a gyflwynir yn yr adran hon yn seiliedig ar y 26,565 cofnod o asesiadau cychwynnol (neu achosion o feichiogrwydd) a gynhwyswyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2022.

Asesiadau cychwynnol yn ôl hyd y beichiogrwydd

Mae mynediad cynnar at wasanaethau mamolaeth yn cynyddu’r cyfle i hybu a gwella iechyd a lles menywod beichiog drwy eu cyfeirio’n gynnar at wasanaethau priodol a darparu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Y nod yw y dylai menywod beichiog gael eu hasesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd.

Ffigur 1: Nifer y menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol yn ôl wythnos eu beichiogrwydd, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod y mwyafrif helaeth o asesiadau cychwynnol wedi’u cynnal rhwng 6 a 12 wythnos gyflawn y beichiogrwydd.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Nid yw cofnodion sydd â data annilys neu ar goll ar gyfer hyd beichiogrwydd mewn asesiad cychwynnol wedi'u cynnwys. Yn 2022, roedd 821 o gofnodion â data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2022, cafodd o leiaf 77% o fenywod beichiog eu hasesiad cychwynnol gyda gwasanaethau mamolaeth erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd neu’n gynharach. Roedd hyn wedi bod ar duedd ychydig ar i fyny ond roedd bedwar pwynt canran yn is nag yn 2021.

Mae rhai materion ansawdd data yn yr eitem ddata hon, sy'n cael eu hesbonio yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 2: Canran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl oedran y fam, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy’n dangos bod canran y menywod beichiog a gafodd asesiad cychwynnol erbyn 10 wythnos gyflawn o feichiogrwydd ar ei huchaf ar gyfer menywod rhwng 20 a 39 oed, ond yn is i fenywod yn y grwpiau oedran iau a hŷn.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dangosyddion asesu cychwynnol Cymru, yn ôl oedran y fam (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar yr holl gofnodion â data dilys wedi'i cofnodi ar gyfer hyd beichiogrwydd yn yr asesiad cychwynnol, ac oedran y fam. Yn 2022, roedd 821 o gofnodion heb ddim wedi’i nodi ar gyfer y naill na’r llall o’r eitemau data hyn. 

Cafodd 78% o fenywod rhwng 20 a 39 oed asesiad cychwynnol gyda gwasanaethau mamolaeth erbyn diwedd 10fed wythnos y beichiogrwydd. Dyma'r ganran uchaf ar gyfer unrhyw grŵp oedran. 

Cafodd bron i saith o bob deg o fenywod beichiog rhwng 16 a 19 oed, neu 40 oed a throsodd, eu hasesiad cychwynnol erbyn diwedd 10fed wythnos y beichiogrwydd, tra bod y gyfradd ar ei hisaf (56%) ar gyfer menywod beichiog o dan 16 oed. 

Roedd canran y menywod beichiog a oedd yn cael eu hasesiad cychwynnol wedi bod ar gynnydd ar gyfer pob grŵp oedran tan 2022, pan leihaodd y ganran ar gyfer menywod ym mhob grŵp oedran ar wahân i'r rhai 45 oed a hŷn. 

Gan nad oes llawer (llai na 100) o fenywod beichiog sydd o dan 16 oed neu’n 45 oed a throsodd, gallai fod newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol. 

Iechyd meddwl

Yn eu hasesiad cychwynnol, gofynnir i fenywod beichiog hunanadrodd am unrhyw gyflyrau iechyd meddwl y maent yn dioddef ohonynt, wrth gwblhau eu Cofnod Mamolaeth Cymru Gyfan gan drafod â'u bydwraig.  Y cyflyrau a restrir yn yr holiadur yw: seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol); anhwylder affeithiol deubegynol/iselder manig; seicosis; iselder seicotig; sgitsoffrenia; ac arall.

Ffigur 3: Canran y menywod a gofnododd gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, Cymru, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos bod canran y menywod a nododd mewn asesiad cychwynnol bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2016 a 2022.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y menywod a ddywedodd yn yr asesiad cychwynnol bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod lle mae data dilys wedi'u cofnodi ar gyfer cyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol. Yn 2022, yn achos 696 o gofnodion, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

[Nodyn 2] Nid yw canran Cymru yn cynnwys unrhyw gofnod gan fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf/Cwm Taf Morgannwg oherwydd bod dibynadwyedd y data iechyd meddwl a gofnodwyd yn y ddau fwrdd iechyd hyn wedi bod yn isel ar gyfer pob un o’r saith mlynedd.

Nododd tair o bob deg (30%) o fenywod beichiog gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol yn 2022. Mae hyn yn gynnydd o ddau bwynt canran o'r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 11 pwynt canran o 2016 (blwyddyn gyntaf data cymaradwy).

Mae rhai materion ansawdd data yn yr eitem ddata hon, sy'n cael eu hesbonio yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 4: Canran y menywod a nododd gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl oedran y fam, Cymru, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siartiau llinell yn dangos bod canran y menywod beichiog a nododd gyflyrau iechyd meddwl yn amrywio yn ôl grŵp oedran, gyda chyfran uwch o gyflyrau yn cael eu nodi mewn grwpiau oedran iau. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dangosyddion asesiad cychwynnol yng Nghymru, yn ôl oedran y fam (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod lle mae data dilys wedi'u cofnodi ar gyfer cyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol ac ar gyfer oedran y fam. Yn 2022, roedd 696 o gofnodion lle’r oedd data ar goll neu’n annilys ar gyfer y naill neu’r llall o’r eitemau data hyn. 

[Nodyn 2] Nid yw canran Cymru yn cynnwys unrhyw gofnod gan fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf/Cwm Taf Morgannwg oherwydd bod dibynadwyedd y data iechyd meddwl a gofnodwyd yn y ddau fwrdd iechyd hyn yn isel am bob un o’r saith mlynedd.

Er bod amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, mae'r duedd tymor hwy yn dangos bod canran y menywod beichiog sy'n nodi cyflwr iechyd meddwl wedi bod yn cynyddu yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran.

Yn 2022, roedd tuedd amlwg i gyfran uwch o fenywod beichiog nodi cyflwr iechyd meddwl mewn grwpiau oedran iau nag mewn grwpiau oedran hŷn. 

Nododd pedair o bob deg (40%) o fenywod beichiog yn y grŵp oedran 16 i 19 gyflwr iechyd meddwl a nododd traean (36%) o fenywod yn y grŵp oedran 20 i 24 gyflwr iechyd meddwl. Roedd y gyfran yn gostwng i dair o bob deg (31%) o fenywod beichiog rhwng 25 a 29 oed, ac i ychydig dros chwarter (27%) ar gyfer menywod rhwng 30-44 oed. 

Gan nad oes llawer o fenywod beichiog (llai na 100) o dan 16 ac yn 45 oed neu hŷn, mae’n bosibl fod newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol yn y grwpiau oedran hyn.

Ffigur 5: Canran y menywod a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl grŵp ethnig, Cymru, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell sy'n dangos bod canran y menywod beichiog a nododd gyflwr iechyd meddwl yn amrywio'n fawr yn ôl grŵp ethnig. Roedd y ganran ar gyfer menywod o grwpiau ethnig Cymysg bron bedair gwaith yn uwch nag ar gyfer menywod o grwpiau ethnig Du ac Asiaidd yn 2022. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y menywod yn yr asesiad cychwynnol a nododd gyflwr iechyd meddwl, yn ôl grŵp ethnig (StatsCymru) 

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod sydd â data dilys ar gyfer cyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol ac yn ôl grŵp ethnig y fam yn y pum bwrdd iechyd dan sylw. Yn 2022, roedd 4,302 o gofnodion lle’r oedd data ar goll neu’n annilys ar gyfer yr eitemau data hyn. 

[Nodyn 2] Nid yw canran Cymru yn cynnwys unrhyw gofnod gan fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf/Cwm Taf Morgannwg oherwydd bod dibynadwyedd y data iechyd meddwl a gofnodwyd yn y ddau fwrdd iechyd hyn yn isel am bob un o’r saith mlynedd.

Yn 2022, nododd pedair o bob deg (39%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Cymysg gyflwr iechyd meddwl a nododd traean (33%) o fenywod o grwpiau ethnig Gwyn gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol. Mae canran y menywod beichiog o'r ddau grŵp ethnig a nododd gyflwr iechyd meddwl wedi dilyn tuedd debyg ar i fyny ers casglu data am y tro cyntaf yn 2016. Mae'r ganran hefyd wedi bod yn sylweddol uwch yn gyson nag yn y tri grŵp ethnig arall. 

Nododd un o bob chwech (17%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Eraill gyflwr iechyd meddwl. Mae'r ganran wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2018.

Nododd un o bob deg (10%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Asiaidd a Du gyflwr iechyd meddwl. Nid yw'r ganran hon wedi newid ar gyfer y ddau grŵp ethnig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac mae’r duedd yn sefydlog ar y cyfan ar gyfer y ddau grŵp ethnig ers 2016. 

Gordewdra

Yn yr asesiad cychwynnol, bydd menywod beichiog yn cael mesur eu taldra ac yn cael eu pwyso, a bydd eu mynegai màs y corff (BMI) yn cael ei gyfrifo. Ystyrir bod unigolyn sydd â BMI o 30 neu fwy yn ordew, ac mae gordewdra’n cynyddu’r risg sydd ynghlwm wrth nifer o gymhlethdodau iechyd.

Ffigur 6: Canran y menywod a oedd â BMI o 30+ yn yr asesiad cychwynnol, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy’n dangos cynnydd cyson yng nghanran y menywod â BMI o 30 neu fwy rhwng 2016 a 2022.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

BMI yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob menyw feichiog yr oedd data taldra a phwysau dilys wedi’u cofnodi ar ei chyfer yn yr asesiad cychwynnol, y cynhaliwyd eu hasesiad cychwynnol ar ddiwedd 14 wythnos o feichiogrwydd neu ynghynt. Yn 2022, cafodd 23,541 o fenywod beichiog eu hasesiad cychwynnol erbyn 14eg wythnos y beichiogrwydd, ac yn achos 589 ohonynt roedd data ar goll neu’n annilys ar gyfer yr eitemau data hyn. 

Roedd gan dair o bob deg (31%) o fenywod beichiog BMI o 30 neu fwy yn eu hasesiad cychwynnol, sef cynnydd o un pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. 

Mae'r ganran wedi cynyddu bob blwyddyn ers dechrau casglu data yn 2016 ac roedd bum pwynt canran yn uwch yn 2022 nag yn 2016.

Mae'r ganran hefyd yn uwch na chanran yr holl oedolion, ac eithrio menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy yng Nghymru, sef 26% yn 2022-23 yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae rhai materion ansawdd data yn yr eitem ddata hon, sy'n cael eu hesbonio yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 7: Canran y menywod â BMI o 30+ yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl oedran y fam, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siartiau llinell yn dangos bod canran y menywod â BMI 30+ yn debyg ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran rhwng 2016 a 2022. Roedd y ganran ar ei hisaf ar gyfer menywod beichiog yn y grwpiau ieuengaf (o dan 16 ac 16-19).

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dangosyddion asesiad cychwynnol ar gyfer Cymru, yn ôl oedran y fam (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod y cofnodwyd data taldra a phwysau dilys ar eu cyfer yn yr asesiad cychwynnol, ac oedran y fam a gafodd ei hasesiad cychwynnol ar ddiwedd 14 wythnos neu ynghynt. Yn 2022, cafodd 23,541 o fenywod beichiog eu hasesiad cychwynnol erbyn 14eg wythnos y beichiogrwydd,  ac yn achos 589 o’r rhain roedd data ar goll neu’n annilys ar gyfer yr eitemau data hyn.

Yn 2022, nid oedd llawer o amrywiad yng nghanran y menywod beichiog â BMI o 30 neu fwy rhwng y rhan fwyaf o grwpiau oedran. Roedd y ganran yn amrywio rhwng 31% a 33% ym mhob grŵp oedran rhwng 20 a 24 a 45 oed a hŷn. Roedd y ganran yn sylweddol is ar gyfer y grŵp oedran 16 i 19 (17%) ac ni chofnodwyd bod gan neb yn y grŵp oedran o dan 16 oed BMI o 30 neu fwy. 

Roedd y newid blynyddol yn fach yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran. O'r grwpiau hynny â mwy na 100 o fenywod beichiog, roedd y cynnydd blynyddol mwyaf ar gyfer y grŵp oedran 30 i 34 (3.3 pwynt canran) ac roedd y gostyngiad blynyddol mwyaf ar gyfer y grŵp oedran 16 i 19 (2.8 pwynt canran). 

Sylwer: gan nad oes llawer (llai na 100) o fenywod beichiog sydd o dan 16 oed neu’n 45 oed a throsodd, gallai fod newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol. 

Ffigur 8: Canran y menywod a oedd â BMI o 30+ yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl grŵp ethnig, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos bod canran y menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy yn amrywio'n fawr yn ôl grŵp ethnig. Roedd gan gyfran uwch o fenywod yn y grwpiau ethnig Du a Gwyn BMI o 30 neu fwy nag yn y grwpiau eraill. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

BMI yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl grŵp ethnig (StatsCymru) 

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod lle cofnodwyd data dilys ar gyfer taldra a phwysau yn yr asesiad cychwynnol, a grŵp ethnig, y cynhaliwyd eu hasesiad cychwynnol ar ôl 14 wythnos gyflawn o feichiogrwydd neu'n gynharach.

Yn 2022, cafodd 23,541 o fenywod beichiog eu hasesiad cychwynnol erbyn 14eg wythnos y beichiogrwydd, ac yn achos 5,635 ohonynt cofnodwyd bod data ar goll neu’n annilys ar gyfer yr eitemau data hyn. 

Roedd gan draean (33%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Du a thraean (32%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig gwyn BMI o 30 neu fwy. Dim ond ychydig o newid a welwyd yn y ganran ar gyfer y ddau grŵp ethnig ers y flwyddyn flaenorol, ond mae'r ddau wedi bod ar duedd ar i fyny yn gyffredinol ers i ddata ddechrau cael eu casglu yn 2016. 

Roedd gan un o bob tair (29%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Cymysg BMI o 30 neu fwy. Roedd hyn yn ostyngiad bach ers y flwyddyn flaenorol, ond canran y grŵp hwn sydd â'r duedd fwyaf serth ar i fyny yn y tymor hwy ac roedd 10 pwynt canran yn uwch yn 2022 nag yn 2016. 

Roedd gan un o bob pump (20%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Eraill ac ychydig yn llai nag un o bob pump (18%) o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Asiaidd BMI o 30 neu fwy. Y ganran ar gyfer y ddau grŵp oedd yr isaf o'r pum grŵp ethnig drwy gydol y saith mlynedd y mae data ar gael ar eu cyfer, ac mae'r duedd ar gyfer y ddau wedi aros yn gymharol sefydlog gyda rhai amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn. 

Ffigur 9: Canran y menywod a enillodd y pwysau a argymhellir rhwng eu hasesiad cychwynnol a'r enedigaeth, yn ôl grŵp BMI yn yr asesiad cychwynnol, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy'n dangos bod amrywiad yng nghanran y menywod beichiog a enillodd y swm a argymhellir o bwysau yn ystod beichiogrwydd pan gânt eu grwpio yn ôl grŵp BMI y fam. Er bod gan bob grŵp gyfraddau amrywiol o flwyddyn i flwyddyn, mae'r mwyafrif wedi aros yn gyson yn gyffredinol dros y tymor hwy. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod lle mae data dilys wedi’u cofnodi ar gyfer taldra a phwysau yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, y cafodd eu hasesiad cychwynnol ei gynnal ar ddiwedd14 wythnos o feichiogrwydd neu'n gynharach ac a oedd yn feichiog ag un babi. Yn 2022, roedd 23,226 o fenywod yn feichiog ag un babi a chawsant eu hasesiad cychwynnol erbyn 14 wythnos o feichiogrwydd. Yn achos 8,315 o’r rhain cofnodwyd bod data ar goll neu’n annilys ar gyfer yr eitemau data hyn.

[Nodyn 2] Mae data Cymru yn eithrio byrddau iechyd Hywel Dda a Bae Abertawe. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Mae canllawiau’r Institute of Medicine (IOM) yn argymell y dylai cyfanswm y pwysau a enillir fod rhwng 12.5 a 18kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI o lai na 18.5; rhwng 11.5 a 16kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI rhwng 18.5 a 24.9; rhwng 6.8 a 11.3kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI rhwng 25 a 29.9; a rhwng 5 a 9kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI 30 neu fwy.

Yn 2022, fe wnaeth tair o bob deg (30%) o fenywod beichiog oedd â BMI rhwng 25 a 29.9 (dros bwysau) yn yr asesiad cychwynnol ennill y swm a argymhellir o bwysau yn ystod beichiogrwydd, sef y gyfradd uchaf o'r holl grwpiau BMI ym mhob blwyddyn lle mae data ar gael.

Roedd y gyfradd yn 27% ar gyfer menywod beichiog yn y grŵp BMI 30 neu fwy (gordew), ac yn 26% ar gyfer menywod beichiog yn y grŵp BMI llai na 18.5 (o dan bwysau). 

Roedd y gyfradd ar ei hisaf (24%) ar gyfer menywod beichiog yn y grŵp BMI 18.5 i 25 (ystod arferol). Er bod amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, mae'r gyfradd ar gyfer y grŵp hwn wedi gostwng 7 pwynt canran yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

Smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth

Yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth gofynnir i fenywod hunanadrodd a ydynt yn smygwyr, neu rhoddir prawf carbon monocsid (CO) iddynt drwy ddefnyddio teclyn synhwyro. Ystyrir bod monitro CO yn fwy cywir na hunanadrodd ond mae wedi dod i ben i raddau helaeth ers pandemig COVID-19 er mwyn lleihau'r risgiau o ledaenu'r feirws. Rhwng 2016 a 2020, roedd canran y menywod a gafodd brawf monitro CO yn yr asesiad cychwynnol yn amrywio rhwng 20% a 30%; fodd bynnag, yn 2022 roedd yn 1.8%. Mae llai o fenywod wedi cael prawf monitro CO ar adeg yr enedigaeth ar draws y gyfres amser gyfan: rhwng 2016 a 2020, roedd canran y menywod a gafodd brawf monitro CO yn amrywio o 1.3% i 2.1% ac roedd yn 0.7% yn 2022.

Ffigur 10: Canran y menywod a gofnodwyd a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol ac adeg genedigaeth, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy'n dangos bod canran y menywod a gofnodwyd fel smygwyr yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng yn raddol tan 2020, ac yna wedi gostwng ar gyfradd gyflymach yn y blynyddoedd dilynol. Roedd canran y rhai a oedd yn smygu ar adeg yr enedigaeth wedi bod yn gymharol sefydlog tan 2020 ond ers hynny mae wedi gostwng ar gyfradd debyg i smygwyr yn yr asesiad cychwynnol. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar bob cofnod lle cofnodwyd data dilys ar gyfer smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, ar wahân. Yn 2022, yn achos 568 o gofnodion roedd data annilys neu ddim data o gwbl wedi’u cofnodi ar gyfer smygu yn yr asesiad cychwynnol, ac yn achos 5,148 o gofnodion nid oedd data ar gyfer smygu ar adeg yr enedigaeth.  

[Nodyn 2] Yn 2022, ni wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda ddarparu unrhyw ddata ar gyfer smygu ar adeg yr enedigaeth ac roedd gan Cwm Taf Morgannwg ganran anarferol o uchel o ddata coll.

Yn 2022, cafodd 14.1% o fenywod beichiog eu cofnodi fel smygwyr yn eu hasesiad cychwynnol. Mae’r ffigur hwn 0.7 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol ac 5.0 pwynt canran yn is nag yn 2016. 

Cofnodwyd bod 12% o'r menywod y ganwyd babi iddynt yn 2022 yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth. Mae’r ffigur hwn 0.5 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol ac 5.4 pwynt canran yn is nag yn 2016.

Mae'r gostyngiadau mawr mewn cyfraddau smygu yn yr asesiad cychwynnol ers 2020 yn cyd-fynd â’r ffaith fod yr holl ddata, bron, wedi’u hunanadrodd yn hytrach na chael eu monitro drwy brawf CO. Gall y newid hwn yn y dull casglu data esbonio'r cwympiadau sydyn o'r pwynt hwn ymlaen. 

Mae cyfraddau smygu menywod beichiog (yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth) yn debyg i’r gyfradd smygu ar gyfer pob oedolyn yng Nghymru, sef 13% yn 2022-23 yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae rhai materion ansawdd data yn yr eitem ddata hon, sy'n cael eu hesbonio yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 11: Canran y menywod a ‘roddodd y gorau i smygu’ yn ystod eu beichiogrwydd, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy'n dangos canran y menywod a gofnodwyd fel smygwyr yn yr asesiad cychwynnol ond a gofnodwyd fel rhai nad oeddent yn smygu ar adeg yr enedigaeth rhwng 2020 a 2022, gan ddilyn tuedd sefydlog yn y pum mlynedd flaenorol.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y menywod a 'roddodd y gorau i smygu' yn ystod beichiogrwydd, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru) 

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar nifer y cofnodion sydd â data dilys ar gyfer statws smygu yn ystod yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth. Yn 2022, yn achos 5,322 o gofnodion roedd data annilys neu ddata ar goll, sef y nifer uchaf ers i ddata ddechrau cael eu casglu.

Yn 2022, yn achos menywod a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, nid oedd 27% ohonynt yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth. Mae hyn yn gynnydd o 0.9 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol, ac yn gynnydd o 8.5 pwynt canran ers casglu data am y tro cyntaf yn 2016. Mae’n bosibl fod y cynnydd mawr ers 2021 wedi’i effeithio gan y ffaith fod yr holl ddata, bron, wedi’u hunanadrodd yn hytrach na chael eu casglu drwy fonitro CO, a hefyd gan y ffaith fod swm uwch na'r arfer o ddata coll yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Ffigur 12: Canran y menywod y cofnodwyd eu bod yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl oedran y fam (yn yr asesiad cychwynnol), 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell sy’n dangos gostyngiad, yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, yng nghanran y menywod beichiog a gofnodwyd fel smygwyr yn yr asesiad cychwynnol rhwng 2016 a 2022.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y mamau sy'n smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth yng Nghymru, yn ôl oedran y fam (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau ar gyfer pob dangosydd yn seiliedig ar gofnodion sydd â data dilys ar gyfer statws smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar gyfer oedran. Yn 2022, yn achos 568 o gofnodion, roedd data coll ar gyfer y naill neu'r llall o'r eitemau hyn. 

Roedd canran y menywod beichiog a gofnodwyd fel smygwyr yn yr asesiad cychwynnol yn uwch mewn grwpiau oedran iau ac yn is mewn grwpiau oedran hŷn. 

Cafodd bron i dri o bob deg (29%) o fenywod beichiog rhwng 16 a 19 oed eu cofnodi fel smygwyr mewn asesiad cychwynnol, o'i gymharu ag ychydig yn fwy na dau o bob deg (22%) rhwng 20 a 24 oed, ac un o bob deg (10%) yn 35 oed neu'n hŷn.

Mae cyfraddau smygu ar yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ym mron pob grŵp oedran, ac eithrio'r rhai o dan 16 oed, sy'n destun anwadalrwydd o flwyddyn i flwyddyn oherwydd y nifer isel o fenywod yn y grŵp hwn. 

Ffigur 13: Canran y menywod a gafodd eu cofnodi fel smygwyr ar adeg yr enedigaeth, yn ôl oedran y fam (adeg geni), 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siartiau llinell sy’n dangos bod gostyngiad wedi bod yng nghanran y menywod a gofnodwyd fel smygwyr ar adeg yr enedigaeth rhwng 2016 a 2022, ym mhob grŵp oedran.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y mamau sy’n smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth yng Nghymru, yn ôl oedran y fam (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau ar gyfer pob dangosydd yn seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys ar gyfer statws smygu ar adeg yr enedigaeth ac ar gyfer oedran. Yn 2022, yn achos 5,148 o gofnodion roedd data coll ar gyfer y naill neu'r llall o'r eitemau hyn. 

Roedd canran y menywod beichiog a gofnodwyd fel smygwyr ar adeg yr enedigaeth yn dilyn patrwm tebyg iawn i smygu yn yr asesiad cychwynnol; Roedd y cyfraddau smygu ar eu huchaf ar gyfer menywod beichiog mewn grwpiau oedran iau ac yn is mewn grwpiau oedran hŷn. 

Cofnodwyd chwarter (25%) o’r menywod beichiog rhwng 16 a 19 oed fel smygwyr ar adeg yr enedigaeth, o'i gymharu ag un rhan o bump (20%) o fenywod beichiog rhwng 20 a 24 oed a llai nag un o bob deg (9%) o fenywod beichiog 30 oed neu hŷn. 

Mae cyfraddau smygu ar adeg yr enedigaeth wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ym mhob grŵp oedran. 

Ffigur 14: Canran y menywod a gofnodwyd fel smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl grŵp ethnig y fam, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell sy'n dangos bod cyfraddau smygu wedi gostwng ar gyfer menywod o bob grŵp ethnig yn yr asesiad cychwynnol, rhwng 2016 a 2022. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y mamau a oedd yn smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth yng Nghymru, yn ôl grŵp ethnig (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys wedi’u cofnodi ar gyfer statws smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar gyfer grŵp ethnig. Yn 2022, yn achos 6,297 o gofnodion roedd data coll neu annilys yn yr asesiad cychwynnol ar gyfer yr eitemau data hyn.  

Ffigur 15: Canran y menywod a gofnodwyd fel smygwyr ar adeg yr enedigaeth, yn ôl grŵp ethnig o fam, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell sy’n dangos bod cyfraddau smygu wedi gostwng ar gyfer menywod o bob grŵp ethnig ar adeg yr enedigaeth, rhwng 2016 a 2022. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer a chanran y mamau a oedd yn smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth yng Nghymru, yn ôl grŵp ethnig (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys ar gyfer statws smygu ar adeg yr enedigaeth ac ar gyfer grŵp ethnig. Yn 2022, yn achos 8,708 o gofnodion roedd cofnodion coll neu annilys ar gyfer yr eitemau data hyn.  

Mae canran y menywod beichiog a gofnodwyd fel smygwyr yn amrywio'n fawr yn ôl grŵp ethnig. Yn yr asesiad cychwynnol, roedd y cyfraddau smygu'n amrywio o 16% o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Gwyn i 1% o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Asiaidd. 

Yn yr un modd, ar adeg yr enedigaeth, roedd y cyfraddau smygu yn amrywio rhwng 14% o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Gwyn i 1% o fenywod beichiog o grwpiau ethnig Asiaidd. 

Dros y pum mlynedd diwethaf mae'r cyfraddau smygu wedi gostwng yn y grwpiau ethnig Gwyn a Chymysg, tra bod cyfraddau wedi bod yn weddol debyg (ond ar lefel lawer is) ar gyfer menywod beichiog o grwpiau ethnig Eraill, Du ac Asiaidd. 

Nodweddion esgor

Mae’r data yn yr adran hon yn cyfeirio at y 27,163 o esgoriadau a gofnodwyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ac a ddigwyddodd yn 2022.

Dechrau esgor

Mae dechrau esgor yn cynnwys dulliau cymell megis cymell llawfeddygol neu feddygol neu gyfuniad o'r ddau ond nid yw'n cynnwys unrhyw ddulliau a ddefnyddir i gyflymu'r esgor. 

Ffigur 16: Canran dechrau esgor trwy bob dull, Cymru, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Mae esgoriadau sy’n dechrau’n ddigymell wedi bod ar duedd ar i lawr, tra bod dechrau esgor drwy gymell a thrwy doriad cesaraidd wedi cynyddu'n raddol rhwng 2016 a 2022. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dull dechrau esgor, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru) 

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion sydd â data dilys o ran dechrau esgor. Yn 2022, yn achos 639 o gofnodion, cafodd data coll neu ddata annilys eu cofnodi gan y pum bwrdd iechyd sydd wedi'u cynnwys yng nghyfanswm Cymru. 

[Nodyn 2] Ni ddarparodd byrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan gofnodion data cywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly maent wedi’u hepgor o’r dadansoddiad. Mae data ar gyfer Cymru yn cynrychioli'r pum bwrdd iechyd sy'n weddill, gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

[Nodyn 3] Yn cynnwys dulliau cymell meddygol, dulliau cymell llawfeddygol ac achosion lle defnyddiwyd cyfuniad o’r ddau.

[Nodyn 4] Unrhyw doriad cesaraidd a wnaed cyn i’r esgor gychwyn; neu doriad cesaraidd dewisol wedi’i gynllunio a gynhaliwyd yn syth ar ôl i'r esgor ddechrau, lle’r oedd y penderfyniad wedi’i wneud cyn yr esgor.

Yn 2022, dechreuodd ychydig llai na hanner (47%) o esgoriadau’n ddigymell. Mae’r ffigur hwn 2.6 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol ac 6.7 pwynt canran yn is nag yn 2016. 

Cafodd ychydig dros draean (35%) o esgoriadau eu dechrau drwy gymell, sef 3.9 pwynt canran yn uwch nag yn 2016; ac roedd ychydig dros un o bob chwech (18%) wedi’u dechrau drwy doriad cesaraidd, sef 2.8 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. 

Lleddfu poen

Mae epidwral y golygu rhoi pigiad anesthetig lleol yn y llecyn y tu allan i dura mater madruddyn y cefn yn rhan isaf y cefn er mwyn arwain at golli teimlad, yn enwedig yn yr abdomen a’r pelfis.

Ffigur 17: Canran yr esgoriadau lle defnyddiwyd epidwral, 2016 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart linell sy'n dangos bod canran y menywod a gafodd epidwral wedi aros yn sefydlog dros y tair blynedd diwethaf, yn dilyn cynnydd bach rhwng 2019 a 2020. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Epidwral yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys ar gyfer lleddfu poen. Yn 2022, yn achos 5,077 o gofnodion, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon. 

[Nodyn 2] Yn achos genedigaethau lluosog, caiff unrhyw sôn am epidwral ei gyfrif.

Yn 2022, rhoddwyd epidwral yn achos oddeutu chwarter (24%) yr esgoriadau. Mae’r ffigur hwn 0.1 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol ac 1.6 pwynt canran yn is nag yn 2016.

Mae rhai materion ansawdd data yn yr eitem ddata hon, sy'n cael eu hesbonio yn yr adroddiad ansawdd.

Dull geni

Mae'r dull geni yn ymwneud â sut y cyrhaeddodd y babi, ac yn aml mae'n wahanol i ddull dechrau’r esgor. 

Cofnodir tri dull geni yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a chânt eu diffinio fel a ganlyn: esgor drwy doriad cesaraidd: esgor drwy doriad cesaraidd dewisol a brys; esgor ag offer: esgor seffalig â gefeiliau ac esgor ag offer ventouse (teclyn sugno siâp cwpan); ac esgor naturiol drwy’r wain: caiff y babi ei eni’n naturiol gan y fam.

Ffigur 18: Canran y genedigaethau (byw a marw) yn ôl y dull geni, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart linell sy'n dangos bod y mwyafrif o enedigaethau wedi digwydd yn ddigymell rhwng 2016 a 2022, ond bod genedigaethau digymell wedi bod ar duedd ar i lawr, tra bod toriadau cesaraidd wedi bod ar duedd gymharol gyfatebol ar i fyny. 

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dull geni yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys ar gyfer dull geni. Yn 2022, yn achos 25 o gofnodion, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon. 

Yn 2022, roedd y mwyafrif (56%) o enedigaethau yn rhai digymell (heb gymorth) drwy’r wain, sef 3.0 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol a 7.2 pwynt canran yn is nag yn 2016. 

Cafodd ychydig dros draean (35%) o fabanod eu geni drwy doriad cesaraidd, sef 3.4 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol ac 8.3 pwynt canran yn uwch nag yn 2016.

Roedd ychydig yn llai nag un o bob deg (9%) o enedigaethau yn gofyn am ddefnyddio naill ai offer ventouse neu efeiliau , ac mae'r gyfran hon wedi aros yn gyson i raddau helaeth ym mhob blwyddyn ers 2016. 

Ffigur 19: Toriadau cesaraidd fel canran o'r holl enedigaethau (byw a marw), Cymru, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart far sy’n dangos bod cyfran y babanod sy'n cael eu geni drwy doriad cesaraidd wedi bod yn cynyddu ers 2016. Bu cynnydd mewn genedigaethau drwy doriad cesaraidd dewisol a brys.  

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dull geni yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys ar gyfer y dull geni. Yn 2022, yn achos 25 o gofnodion, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2022, roedd y rhan fwyaf o doriadau cesaraidd yn rhai brys. Digwyddoddd un o bob pump (20%) o'r holl enedigaethau drwy doriad cesaraidd brys, sef 2.4 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a 6.0 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. 

Digwyddodd ychydig dros un o bob saith (15%) o'r holl enedigaethau drwy doriad cesaraidd dewisol, sef 1.0 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a 2.3 pwynt canran yn uwch nag yn 2016.

Mae data ar gyfer dull geni yn ôl grŵp ethnig ar gael ar StatsCymru

Canlyniadau a nodweddion y genedigaethau

Mae’r ystadegau a gyflwynir yn yr adran hon yn yn seiliedig ar y 28,388 o enedigaethau byw a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Dadansoddir genedigaethau yn hytrach nag esgoriadau, oherwydd y gellir esgor ar efeilliaid neu dripledi mewn gwahanol ffyrdd.

Mae data ychwanegol ynghylch cofnodion cynenedigol (StatsCymru), esgoriadau a genedigaethau yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru), genedigaethau yn ol mamau sy'n byw yng Nghymru a mamau nad ydynt yn byw yng Nghymru (StatsCymru), ac esgoriadau a genedigaethau yn ôl uned famolaeth (StatsCymru) ar gael ar StatsCymru.

Nifer y genedigaethau

Gellir cofnodi genedigaethau fel genedigaeth unigol (pan gaiff un babi ei eni), genedigaethau lluosog (pan gaiff gefeilliaid, tripledi neu ragor o fabanod eu geni), a genedigaethau marw).

Ffigur 20: Nifer y genedigaethau byw, Cymru, 2013-2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart linell sy'n dangos bod cyfanswm nifer y genedigaethau byw wedi bod yn duedd ar i lawr dros y deng mlynedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cofnodion cynenedigol, genedigaethau byw a genedigaethau marw, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru) 

O blith yr 28,520 enedigaethau a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yng Nghymru yn 2022, roedd mwy na 99% (28,388)  ohonynt yn enedigaethau byw. 

Yn dilyn cynnydd bach yn 2021, gostyngodd nifer y genedigaethau byw i'w nifer isaf ers i ddata sy’n gymaradwy ar y cyfan ddechrau cael eu cofnodi yn 1929. Am y 30 mlynedd cyn 2018, roedd nifer y genedigaethau byw yng Nghymru yn amrywio rhwng 30,000 a 37,000 y flwyddyn, ond mae wedi bod yn is na 30,000 ym mhob blwyddyn ers hynny. Mae nifer y genedigaethau byw wedi gostwng 15.4% o'i gymharu â deng mlynedd yn ôl; mae hyn yn cyfateb i ychydig dros 5,000 yn llai o enedigaethau y flwyddyn. 

Yn 2022, roedd un o bob hanner cant (2%) o enedigaethau yn fabanod lluosog. Mae'r ganran hon wedi bod yn gymharol sefydlog dros y tair blynedd diwethaf, ond dros y tymor hwy, mae nifer y genedigaethau lluosog wedi gostwng yn ôl cyfran fwy na genedigaethau unigol. Mae nifer genedigaethau lluosog wedi gostwng 38.9% o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl; mae hyn yn cyfateb i 389 yn llai o enedigaethau lluosog y flwyddyn. 

Genedigaethau ac ethnigrwydd

Ffigur 21: Canran y genedigaethau byw yn ôl grŵp ethnig 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siart far sy’n dangos bod y mwyafrif helaeth o enedigaethau o gefndir ethnig Gwyn, ac yna Asiaidd, Cymysg/Lluosog, Du ac Eraill.

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i breswylwyr yng Nghymru fesul grŵp ethnig a’r bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion lle mae data dilys ar gyfer grŵp ethnig y plentyn. Yn 2022, yn achos 9,433 o gofnodion roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Roedd bron i naw o bob deg (88%) o fabanod a anwyd yn 2022 o gefndir ethnig Gwyn; roedd 4% o gefndiroedd Asiaidd; roedd 4% o gefndiroedd Cymysg/Lluosog; roedd 2% o gefndiroedd Du; roedd 2% o ethnigrwyddau Eraill. 

Gostyngodd canran y babanod o gefndiroedd ethnig Gwyn 2.1 pwynt canran ers 2018. Mae'r ganran wedi cynyddu ychydig ar gyfer pob grŵp ethnig arall dros yr un cyfnod, gyda'r cynnydd mwyaf yn y grŵp ethnig Du (0.8 pwynt canran) a'r grŵp ethnig Asiaidd (0.6 pwynt canran). 

Genedigaethau yn ôl oedran y fam

Cyhoeddir data ar gyfer beichiogrwydd ymhlith rhai yn eu harddegau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Ffigur 22: Canran y genedigaethau byw yn ôl grŵp oedran y fam, 2013 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart linell sy’n dangos tuedd ostyngol o ran canran y menywod sy'n rhoi genedigaeth yn 24 oed ac iau, a thuedd gynyddol o ran menywod sy'n rhoi genedigaeth rhwng 30 a 39 oed, dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl bwrdd iechyd lleol ac oedran y fam (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau lle mae data dilys ar gyfer oedran y fam. Yn 2022, roedd 36 o enedigaethau a oedd â data ar goll neu ddatra annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Mae canran y genedigaethau byw i famau o dan 20 oed wedi gostwng dros y deng mlynedd diwethaf ac, yn 2022,  3% o’r genedigaethau oedd gan famau yn y categori hwn, y ganran leiaf o'r holl grwpiau oedran. 

Roedd 15% o’r genediaethau gan famau rhwng 20 a 24 oed. Mae canran y genedigaethau i famau yn y categori oedran hwn wedi gostwng bob blwyddyn ers 2009 ac roedd 6.6 pwynt canran yn is na ddeng mlynedd yn ôl. 

Roedd ychydig yn llai na thair o bob deg (29%) o famau a roddodd enedigaeth yn 2022 rhwng 25 a 29 oed. Mae'r ganran hon wedi aros yn weddol gyson ers 2013.

Roedd traean (33%) o’r mamau a roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn rhwng 30 a 34 oed, sef y grŵp oedran mwyaf cyffredin o famau a roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn. Mae'r ganran hon wedi bod ar duedd amlwg ar i fyny ers 2008 ac roedd 5.9 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl.

Roedd un o bob chwech (17%) o famau a roddodd enedigaeth yn 2022 rhwng 35 a 39 oed. Roedd y ganran ychydig yn is nag yn y flwyddyn flaenorol ond roedd 3.7 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl. Ers 2021, mae mwy o famau rhwng 35 a 39 oed wedi bod yn rhoi genedigaeth nag o famau rhwng 20 a 24 oed. 

Roedd ychydig yn llai na 4% o enedigaethau byw i famau 40 oed neu hŷn yn 2022. Mae'r ganran hon wedi cynyddu ychydig yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd ers 2001 ac roedd 0.5 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl. 

Geni yn y cartref

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn darparu mynediad at ystod o opsiynau geni ar gyfer menywod beichiog, gan gynnwys genedigaethau yn y cartref.

Ffigur 23: Canran y genedigaethau byw a anwyd yn y cartref, 2013 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart linell sy’n dangos bod canran yr holl enedigaethau byw a anwyd gartref yn 2022 wedi ailgychwyn y duedd o fod ychydig ar i lawr yn y tymor hwy, yn dilyn cyfnod byr (rhwng 2018 a 2021) lle roedd tuedd ar i fyny. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a man geni (StatsCymru) 

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gyfanswm genedigaethau byw lle ceir data dilys ar gyfer man geni. Yn 2022, yn achos 80 o enedigaethau, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae mwyafrif llethol y genedigaethau yng Nghymru wedi digwydd yn yr ysbyty. Roedd canran ychydig yn uwch na'r arfer o enedigaethau gartref yn 2020 a 2021, a allai fod wedi bod yn gysylltiedig â’r pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae'r gyfradd genedigaethau yn y cartref wedi bod ar duedd fach ar i lawr dros y tymor hir, ac yn 2022 digwyddodd 2.1% o enedigaethau byw gartref, y gyfradd isaf ers 2002. 

Yn 2022, digwyddodd 0.2% o enedigaethau mewn lleoliadau heblaw ysbytai neu gartrefi.

Hyd y beichiogrwydd

Mae’n bosibl y bydd babanod a gaiff eu geni’n gynnar (babanod cynamserol) mewn mwy o berygl o ddioddef problemau iechyd yn syth ar ôl eu geni neu yn y tymor hir.

Ffigur 24: Dosbarthiad y genedigaethau byw yn ôl hyd y beichiogrwydd, 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart golofn sy’n dangos bod y mwyafrif o enedigaethau wedi digwydd pan oedd hyd y beichiogrwydd wythnos y naill ochr i'r dyddiad disgwyliedig arferol (39 wythnos wedi’u cwblhau).

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl oedran geni (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'n cynnwys cofnodion lle ceir data dilys ar gyfer hyd beichiogrwydd yn unig. Yn 2022, roedd 159 o gofnodion geni a oedd â data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon. 

[Nodyn 2] Mae hyd beichiogrwydd yn seiliedig ar yr amcangyfrif gorau sydd ar gael ar gyfer pan ddechreuodd beichiogrwydd, yn seiliedig ar naill ddyddiad y cyfnod mislif diwethaf neu ar sgan uwchsain.

Yn 2022, digwyddodd dwy ran o dair (66.1%) o enedigaethau byw rhwng 38 a 40 wythnos gyflawn o feichiogrwydd. 

Ffigur 25: Canran y genedigaethau byw cynamserol a hwyr, 2013 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Siart linell sy'n dangos bod canran y babanod a anwyd yn y cyfnod beichiogrwydd cyn dechrau'r 37ain wythnos ac yn hwyrach na 41 wythnos gyflawn wedi aros yn weddol sefydlog dros y saith mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl bwrdd iechyd lleol a hyd beichiogrwydd (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae’r canrannau'n seiliedig ar gofnodion geni lle ceir data dilys ar gyfer hyd beichiogrwydd. Yn 2022, roedd 159 o gofnodion oedd â data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

[Nodyn 2] Mae hyd beichiogrwydd yn seiliedig ar yr amcangyfrif gorau sydd ar gael ar gyfer pan ddechreuodd beichiogrwydd, yn seiliedig ar naill ddyddiad y cyfnod mislif diwethaf neu ar sgan uwchsain.

Digwyddodd 8.2% o enedigaethau byw cyn dechrau  37ain wythnos y beichiogrwydd, yn 2022. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd o 1.1 pwynt canran o'i gymharu â ddeng mlynedd yn ôl. 

Digwyddodd 3.5% o enedigaethau byw ar ôl 41 wythnos gyflawn o feichiogrwydd yn 2022. Mae hyn yn ostyngiad o 0.1 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol ac yn ostyngiad o 1.0 pwynt canran o'i gymharu â ddeng mlynedd yn ôl. 

Pwysau geni

Diffinnir pwysau geni isel fel pwysau geni llai na 2.5kg a gall fod yn gysylltiedig â risgiau iechyd ym mlwyddyn gyntaf bywyd baban.

Mae canran y babanod unigol a anwyd yn fyw a chanddynt bwysau geni sy’n llai na 2.5kg yn un o’r 50 Dangosydd Cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd ar sail nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae pwysau geni isel yn aml yn gysylltiedig â hyd beichiogrwydd isel (lle mae'r babi’n cael ei eni cyn dechrau 37ain wythnos y beichiogrwydd).

Ffigur 26: Canran y genedigaethau byw â phwysau geni isel, 2013 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 26: Siart linell sy'n dangos bod y gyfran o enedigaethau unigol byw â phwysau geni isel wedi bod ar duedd fach ar i fyny ers 2014. Mae canran yr holl enedigaethau â phwysau geni isel wedi bod ar duedd debyg. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl pwysau geni a nifer y babanod (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau byw lle ceir data pwysau geni dilys. Yn 2022, roedd 110 o gofnodion geni oedd â data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem hon. Mae data annilys yn cynnwys cofnodion â phwysau geni o lai na 0.5kg neu fwy na 6kg.

Yn 2022, roedd gan 6.1% o enedigaethau unigol bwysau geni isel. Mae hyn 0.3 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a 0.7 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl.

Yn 2022, roedd gan 7.2% o’r holl fabanod a anwyd bwysau geni isel. Mae’r ffigur hwn 0.4 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a 0.3 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl.

Ffigur 27: Dosbarthiad pwysau geni unig blant, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 27: Siartiau bar sy'n dangos bod dosbarthiad pwysau geni yn wahanol ar gyfer genedigaethau unigol a genedigaethau lluosog; Roedd y rhan fwyaf o enedigaethau unigol yn pwyso rhwng 3kg a 4kg, tra bod y mwyafrif o enedigaethau lluosog yn pwyso rhwng 2kg a 3kg.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl pwysau geni a nifer y babanod (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gofnodion geni byw lle ceir data pwysau geni dilys. Yn 2022, yn achos 104 o enedigaethau sengl a 6 genedigaeth luosog, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem hon. Mae data annilys yn cynnwys cofnodion â phwysau geni o lai na 0.5kg neu fwy na 6kg.

Yn nodweddiadol, mae genedigaethau lluosog yn cael eu geni’n gynharach yn y beichiogrwydd na genedigaethau unigol, ac yn 2022, cafodd 65% o enedigaethau lluosog eu geni cyn 37 wythnos o feichiogrwydd, o'i gymharu â 7% ar gyfer genedigaethau unigol.

Y pwysau geni canolrifol ar gyfer genedigaethau unigol oedd 3.40kg a'r cymedr oedd 3.37kg. Roedd gan ddwy ran o dair (67%) o enedigaethau unigol bwysau geni rhwng 3kg a 4kg, tra bod un o bob wyth (12%) yn pwyso mwy na 4kg. 

Mewn cyferbyniad, y pwysau geni canolrifol ar gyfer genedigaethau lluosog oedd 2.37kg a'r cymedr oedd 2.31kg. Roedd gan saith o bob deg (70%) o enedigaethau lluosog bwysau geni rhwng 2kg a 3kg, tra bod un o bob un ar ddeg (9%) o enedigaethau lluosog yn pwyso mwy na 3kg. 

Hyd y beichiogrwydd a phwysau geni

Ffigur 28: Genedigaethau byw yn ôl pwysau geni a hyd y beichiogrwydd, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 28: Siart sy'n dangos, wrth i hyd beichiogrwydd gynyddu, bod cyfran y babanod â phwysau geni trymach yn cynyddu. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw yn ôl pwysau geni a hyd y beichiogrwydd (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau lle ceir data dilys ar gyfer pwysau geni a hyd beichiogrwydd ar adeg geni. Yn 2022, yn achos 264 o gofnodion, roedd data coll neu ddata annilys ar gyfer y naill neu’r llall o’r eitemau data hyn.  

Gan fod babanod sy’n cael eu geni’n gynharach yn ystod beichiogrwydd yn cael llai o amser i ddatblygu a thyfu, mae eu pwysau ar adeg eu geni yn aml yn is na phwysau babanod a anwyd yn hwyrach yn ystod beichiogrwydd. 

Yn 2022, roedd 93% o enedigaethau lle’r oedd 31 wythnos neu lai o’r beichiogrwydd wedi’u cwblhau yn pwyso llai na 2.5kg. Mae hyn yn cymharu â 52% o enedigaethau mewn beichiogrwydd lle roedd rhwng 32 a 36 wythnos wedi'u cwblhau; 3% o enedigaethau mewn beichiogrwydd lle roedd rhwng 37 a 41 wythnos wedi'u cwblhau; ac 1% o enedigaethau mewn beichiogrwydd lle'r oedd mwy na 41 wythnos wedi'u cwblhau. 

Yn achos mwyafrif llethol (85%) y babanod a anwyd o fewn pythefnos i’r dyddiad geni disgwyliedig, sef naill ai bythefnos ynghynt neu bythefnos yn hwyrach (37-41 wythnos wedi’u cwblhau) roedd ganddynt bwysau geni o rhwng 2.5kg a 4kg.

Roedd bron i chwarter (23%) y babanod a anwyd mewn beichiogrwydd o fwy na 41 wythnos wedi’u cwblhau yn pwyso mwy na 4kg.

Pwysau geni isel a rhyw

Ffigur 29: Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni isel yn ôl rhyw, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 29: Siart linell sy'n dangos bod gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benywaidd bwysau geni isel na babanod gwrywaidd bob blwyddyn ers 2018. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw unigol i drigolion Cymru yn ôl pwysau geni a rhyw (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau unigol lle ceir data dilys ar gyfer pwysau geni a rhyw ar adeg geni. Yn 2022, roedd 101 o gofnodion lle’r oedd data coll neu ddata annilys ar gyfer naill neu’r llall o’r eitemau data hyn. 

Yn 2022, roedd gan 6.9% o fabanod benywaidd bwysau geni isel. Mae’r ffigur hwn 0.6 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a 0.9 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl. 

Roedd gan 5.3% o fabanod gwrywaidd bwysau geni isel. Mae hyn 0.1 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a phum mlynedd yn ôl. 

Pwysau geni isel ac ethnigrwydd

Ffigur 30: Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni isel yn ôl grŵp ethnig, 2018-2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 30: Siart linell sy'n dangos bod gan ganran uwch o fabanod o gefndir ethnig Asiaidd bwysau geni isel o'i gymharu â phob cefndir ethnig arall dros y gyfres amser pum mlynedd. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Genedigaethau byw unigol i breswylwyr yng Nghymru fesul grŵp ethnig a phwysau geni (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau lle ceir data dilys ar gyfer pwysau geni a grŵp ethnig. Yn 2022, yn achos 9,280 o gofnodion, roedd data coll neu ddata annilys ar gyfer y naill neu’r llall o’r eitemau data hyn.

Mae astudiaethau academaidd amrywiol wedi dangos bod gan fabanod o gefndir ethnig Asiaidd bwysau geni cymedrig is, hyd cymedrig byrrach, a chylchedd pen cymedrig llai na babanod o grwpiau ethnig eraill.

Mae canran y babanod o gefndiroedd ethnig Asiaidd sydd â phwysau geni isel yng Nghymru wedi bod ar duedd ar i fyny ar y cyfan, ac wedi cyrraedd 9.2% yn 2022. Mae hyn 3.0 pwynt canran yn uwch na'r grŵp ethnig (Du) sydd â’r ganran uchaf nesaf o fabanod pwysau geni isel. 

Er bod y cyfraddau pwysau geni isel ar gyfer babanod pob un o'r pedwar grŵp ethnig arall wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn, maent wedi bod yn weddol debyg i'w gilydd, gyda thuedd fach ar i fyny dros y pum mlynedd y mae data ar gael ar eu cyfer. 

Ffigur 31: Pwysau geni cymedrig a chanolrifol ar gyfer genedigaethau byw yn ôl grŵp ethnig 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 31: Siart bar yn dangos bod y pwysau geni canolrifol ychydig yn uwch na'r pwysau geni cymedrig ar gyfer pob grŵp ethnig. Roedd pwysau geni cymedrig a chanolrifol ar eu huchaf ar gyfer babanod o gefndiroedd ethnig Gwyn ac ar eu hisaf ar gyfer babanod o gefndiroedd ethnig Asiaidd. 

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Pwysau geni cymedrig a chanolrifol ar gyfer genedigaethau byw yn ôl grŵp ethnig (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau byw lle ceir data dilys ar gyfer pwysau geni a grŵp ethnig. Yn 2022, yn achos 9,280 o gofnodion, roedd data coll neu ddata annilys ar gyfer naill ai'r eitemau data hyn.

Roedd y pwysau geni canolrifol yn amrywio o 3.40kg ar gyfer babanod o gefndiroedd ethnig Gwyn i 3.09kg ar gyfer babanod o gefndiroedd Asiaidd. 

Yn yr un modd, roedd y cymedr yn amrywio o 3.36kg ar gyfer babanod o gefndiroedd ethnig Gwyn i 3.05 kg ar gyfer babanod o gefndiroedd Asiaidd. 

Pwysau geni isel ac oedran y fam

Ffigur 32: Canran y genedigaethau byw gyda phwysau geni isel a hyd beichiogrwydd byr, yn ôl oedran y fam ar adeg y geni, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 32: Siart far sy’n dangos bod canran pwysau geni isel a babanod a anwyd yn gynamserol yn debyg ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran, ond fod cyfraddau uwch ar gyfer y ddau fesur yn y grwpiau oedran ieuengaf a hynaf.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar enedigaethau byw lle ceir data dilys ar gyfer pwysau geni ac oedran y fam; a hyd beichiogrwydd ac oedran y fam. Yn 2022, yn achos 144 o gofnodion, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer pwysau geni ac oedran y fam; ac yn achos185 o gofnodion roedd data coll neu ddata annilys ar gyfer hyd beichiogrwydd ac oedran y fam. 

Yn 2022, roedd gan 6.5% o fabanod yr oedd eu mamau rhwng 25 a 29 oed bwysau geni isel, sef y ganran leiaf o'r holl grwpiau oedran. Roedd canran y babanod â phwysau geni isel yn cynyddu wrth i grŵp oedran y mamau gynyddu ac wrth iddo ostwng o'r pwynt hwn, gyda bron i un o bob deg o fabanod wedi'u geni â phwysau geni isel i famau o dan 16 oed neu 45 oed a throsodd.

Yn yr un modd yn 2022, cafodd 7.5% o fabanod yr oedd eu mamau rhwng 25 a 29 oed eu geni’n gynamserol, sef y ganran leiaf o'r holl grwpiau oedran. Roedd canran y babanod a gafodd eu geni’n gynamserol yn cynyddu wrth i grŵp oedran y mamau gynyddu ac wrth iddo ostwng o'r pwynt hwn, gyda bron i un o bob pump o fabanod a anwyd yn gynamserol i famau o dan 16 oed neu 45 oed a throsodd.

Mae canran y babanod â hyd beichiogrwydd isel a chanran y babanod â phwysau geni isel wedi parhau'n weddol debyg ar draws pob grŵp oedran dros y 10 mlynedd diwethaf.

Sgoriau APGAR

Mae APGAR (Appearance, Pulse, Grimace, Activity, and Respiration) yn brawf cyflym a gynhelir ar y babi ar ôl munud, ac yna ar ôl pum munud, wedi iddo gael ei eni. Bydd y sgôr ar ôl munud yn arwydd o sut gwnaeth y babi oddef y broses eni. Bydd y sgôr ar ôl pum munud yn rhoi gwybod i’r meddyg sut mae’r babi’n dod yn ei flaen y tu allan i groth y fam. Bydd sgôr o 7 neu fwy yn arwydd bod y babi newydd-anedig mewn iechyd da.

Ffigur 33: Canran y genedigaethau byw yn ôl sgôr APGAR ar ôl 5 munud, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 33: Siart far sy’n dangos bod gan y mwyafrif helaeth o fabanod sgoriau APGAR uchel (9 neu fwy) wedi'u cofnodi ar 5 munud.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Sgôr APGAR ar 5 munud (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n seiliedig ar gyfanswm genedigaethau byw lle ceir data dilys ar gyfer APGAR ar 5 munud. Yn 2022, yn achos 1,425 o gofnodion, roedd data ar goll neu ddata annilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2022, roedd gan y mwyafrif helaeth (98%) o enedigaethau byw sgôr APGAR o 7 neu fwy ar 5 munud, gan gynnwys 78% o fabanod a gafodd sgôr o 10.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn, ar gael yn yr adroddiad ansawdd. Mae hyn yn cynnwys tabl sy’n dangos canran y data dilys a gofnodwyd ar gyfer eitemau data dethol yn y ddwy set ddata ffynhonnell.

Cydlyniaeth ffynonellau data ar gyfer genedigaethau yng Nghymru 

Mae Ffigur 33 yn dangos sut mae nifer y genedigaethau yng Nghymru yn cymharu ar draws y prif ffynonellau data. Mae gan ddata o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gwmpas a chyflawnrwydd da iawn, ac mae nifer y genedigaethau yn cyd-fynd yn agos ag ystadegau cofrestru genedigaethau’r SYG. Sefydlwyd y set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) yn 2016 ac mae nifer y genedigaethau yn wahanol i'r ddwy ffynhonnell arall, a hynny’n bennaf am nad yw'n cynnwys genedigaethau i drigolion Cymru mewn ysbytai yn Lloegr.

Ffigur 34: Genedigaethau byw yng Nghymru, yn ôl ffynonellau data, 2001 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 34: Siart linell sy'n dangos cyfatebiaeth agos rhwng nifer y genedigaethau a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol a chan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r genedigaethau yn set ddata'r Dangosyddion Mamolaeth yn is ond yn dilyn tuedd debyg. 

Ffynhonnell: Y Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds), Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ,Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Genedigaethau byw yng Nghymru yn ôl ffynhonnell ddata (StatsCymru)

[Nodyn 1] Nid yw echelin Y yn dechrau ar sero 

[Nodyn 2] Ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn, mae data diweddaraf y SYG ynghylch genedigaethau yn tarddu o 2021, ond mae data ar gyfer 2022 i’w cael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ac yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol, sef Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni dan 2.5kg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymhellach, gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 63/2023

Image
Ystadegau Gwladol