Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am y rhai sy’n derbyn cymorth drwy’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Awst 2022 a mis Ionawr 2023.

Mae’r ffigurau yn rhai dros dro hyd nes i’r data terfynol gael ei gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn gofrestru beilot lawn, sydd i fod i ddigwydd ym mis Medi 2023. Nid yw’r wybodaeth reoli hon wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio’r data yn y dyfodol. Daeth y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru i rym ar 1 Gorffennaf 2022, a chafodd y rhai cyntaf i dderbyn cymorth eu taliadau o fis Awst 2022 ymlaen.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod y cyfnod rhwng mis Awst 2022 a mis Ionawr 2023, roedd 294 yn cael taliadau drwy’r Cynllun. Dyma gyfradd fanteisio o 92% yn seiliedig ar amcangyfrifon gwreiddiol o gymhwysedd a ddarparwyd gan awdurdodau lleol.
  • Mae 167 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (57%) wedi dewis cael eu taliad yn fisol, ac mae’r 127 (43%) sy’n weddill wedi dewis cael taliadau ddwywaith y mis. Mae 80 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (27%) wedi dewis i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlordiaid.

Gwybodaeth ddemograffig

  • Fe wnaeth 152 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (52%) nodi eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig, gyda 57 (19%) yn nodi Prydeinig a 37 (13%) yn nodi Seisnig. Nododd 35 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (12%) eu cenedligrwydd fel ‘arall’, gyda 29 o genhedloedd gwahanol yn cael eu nodi. Ni atebodd y 13 (4%) sy’n weddill y cwestiwn hwn.
  • Fe wnaeth 237 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (81%) nodi eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’, dywedodd 11 ohonynt (4%) eu bod o grŵp ethnig Asiaidd, dywedodd 33 ohonynt (11%) eu bod o grŵp Ethnig Lleiafrifol neu Ddu arall, ac ni chafwyd ymateb gan 13 ohonynt (11%).
  • Roedd hanner y rhai sy’n derbyn cymorth (50%) yn ddynion, 45% yn fenywod, ac ni atebodd 6% ohonynt.
  • Dywedodd 90% o’r rhai sy’n derbyn cymorth fod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, nododd 2% nad oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, ac fe wnaeth 8% naill ai beidio ag ateb neu nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud.
  • Fe wnaeth 67% o’r rhai sy’n derbyn cymorth nodi eu bod yn ‘heterorywiol neu syth’, nododd 4% eu bod yn ‘ddeurywiol’ a nododd 1% eu bod yn ‘hoyw neu lesbiaidd’. Fe wnaeth y 28% sy’n weddill naill ai beidio ag ateb neu nodi cyfeiriadedd rhywiol arall.
  • Dywedodd 62% o’r rhai sy’n derbyn cymorth nad oes ganddynt gred grefyddol. O’r 38% arall, roedd 7% yn Gristnogion (pob enwad) ac roedd 7% yn Fwslimiaid. Fe wnaeth 23% naill ai beidio ag ateb, nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud neu nodi nad oeddent yn gwybod.

Statws iechyd a hunangofnodwyd

  • Nododd 13% o’r rhai sy’n derbyn cymorth eu bod yn anabl, dywedodd 82% ohonynt nad ydynt yn anabl, a 5% heb ymateb.
  • Nododd 22% o’r rhai sy’n derbyn cymorth bod ganddynt gyflwr hirdymor y mae disgwyl iddo bara am 12 mis neu fwy, nododd 69% nad oes ganddynt gyflwr o’r fath, ac roedd 9% naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb.
  • Nododd 85% o’r rhai sy’n derbyn cymorth bod eu hiechyd naill ai’n ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’, nododd 10% bod eu hiechyd yn ‘weddol’, nododd 1% bod eu hiechyd yn ‘wael’, ac ni wnaeth 4% ymateb. Ni wnaeth yr un o’r rhai sy’n derbyn cymorth nodi bod eu hiechyd yn ‘wael iawn’.

Cefndir a chyd-destun

Mae’r Cynllun yn rhoi cyfle i garfan o bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 gael £1,600 y mis, cyn treth, am gyfnod o 24 mis. Nod y cyllid hwn yw eu galluogi i gyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau ac i adeiladu sylfaen ar gyfer pontio o ofal i fywyd fel oedolyn. I ddarllen ymhellach, dyma gyflwyniad i’r Cynllun, a throsolwg o’r Cynllun.

Ffynhonnell y data

Cymerir y ffigurau o’r wybodaeth reoli weithredol am y Cynllun nad yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol. Gwahoddir pobl ifanc sy’n gymwys i lenwi ffurflen gofrestru os ydynt yn bwriadu ymuno â’r Cynllun, a gofynnir i’r rhai sy’n dewis peidio â manteisio ar y cyfle lenwi ffurflen peidio â chymryd rhan. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno’r wybodaeth i Lywodraeth Cymru bob mis er mwyn sicrhau bod pobl ifanc wedi cofrestru ar y rhaglen i gael eu talu. Mae’r data a gyflwynir yma wedi’i gyfuno ar gyfer Cymru gyfan.

Nodyn am ddehongli

Mae’r rhai sy’n derbyn cymorth yn gymwys i gofrestru ar gyfer y Cynllun ar unrhyw adeg cyn mis eu pen-blwydd yn 18 oed ac yn ystod y mis hwnnw, a chael y taliad incwm sylfaenol y mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18oed. Felly, y mis cofrestru cyntaf oedd mis Gorffennaf 2022 a’r mis talu cyntaf oedd mis Awst 2022. Mae’r rhai sy’n troi’n 18 oed ym mis Awst 2022 yn gymwys i gael eu taliad cyntaf o fis Medi 2022 ymlaen, ac yn y blaen. At ddibenion monitro data, cofnodir y mis talu cyntaf fel y mis y mae unigolyn ifanc yn ymuno â’r Cynllun. Mae hyn yn caniatáu inni gyfrif am ymgeiswyr hwyr. Er bod data ynghylch rhyw, hunaniaeth rhywedd, crefydd ac ethnigrwydd yn cael ei nodi yn y data monitro, ni wnaeth pob unigolyn ddewis ateb y cwestiynau hynny.

Mae’r ffigur ar gyfer y gyfradd fanteisio yn seiliedig ar amcangyfrif o’r garfan sy’n gymwys gan awdurdodau lleol ym mis Chwefror 2022. Gall y ffigur ar gyfer y garfan sy’n gymwys newid yn dibynnu ar y bobl ifanc sy’n dod yn rhan o’r system ofal ac sy’n dod yn gymwys i gael taliad drwy’r Cynllun yn ystod blwyddyn gofrestru Gorffennaf 2022 i Mehefin 2023.

Cyswllt

Nia Jones (ymholiadau am y data)

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.