Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o swyddi gwag y GIG Cymru yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng niferoedd staff wedi’u cyllidebu a gwirioneddol ar 31 Rhagfyr 2022.

Mae ystadegau swyddi gwag GIG Cymru yn cael eu cyhoeddi fel ystadegau arbrofol gan fod y broses sylfaenol ar gyfer casglu data newydd gael ei chreu ac yn parhau i gael ei datblygu wrth iddi ymwreiddio yn unffurf ar draws holl sefydliadau'r GIG.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn gan fod diddordeb eang o du'r cyhoedd. Rydym yn croesawu adborth ar eu haddasrwydd a'u hansawdd wrth i'r broses newydd hon gael ei datblygu.

Cynlluniwyd y broses casglu data a bydd yn cael ei datblygu ymhellach mewn ymgynghoriad â holl sefydliadau'r GIG.

Ar 31 Rhagfyr 2022, y nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar draws pob grŵp staff yn GIG Cymru oedd 4,966. Y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig oedd 5.3%.

Y nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn yn ôl pob grŵp staff oedd:

  • 426 mewn staff meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion), gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 8.9%
  • 2,409 mewn staff cofrestredig nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 8.9%
  • 813 mewn staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 6.2%
  • 833 yn y grwpiau cyfunol o ‘weinyddiaeth ac ystadau’, a ‘chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill’, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 2.9%
  • 362 yn y grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 2.2%
  • 122 yn y grŵp staff ambiwlans, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 3.6%

Mae'n debygol bod yr ystadegau hyn yn tanamcangyfrif nifer y swyddi gwag y GIG.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn gyda datganiad ansawdd data sy'n tynnu sylw at nifer o faterion ansawdd data. O'u cymryd ar eu pen eu hunain, effaith rhai o'r materion yw goramcangyfrif nifer y swyddi gwag ac effaith rhai yw tanamcangyfrif nifer y swyddi gwag. Pan ystyrir yr holl faterion hysbys yn eu crynswth, credir bod y materion sy'n arwain at danamcangyfrif nifer y swyddi gwag ar lefel Cymru, yn cael effaith fwy ar yr ystadegau na'r effeithiau goramcangyfrif.

Diffiniadau a dulliau

At ddibenion y datganiad ystadegol hwn, diffinnir ‘swydd wag’ fel y gwahaniaeth rhwng nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) a ariennir fel y'i cofnodir ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid, a nifer y staff FTE sydd yn eu swydd fel y'i cofnodir ar y Cofnod Staff Electronig (ESR) ar bwynt mewn amser. Y gyfradd swyddi gwag yw nifer y swyddi gwag wedi'u rhannu â nifer y swyddi FTE a ariennir sydd wedi'u cofnodi ar y cyfriflyfr cyffredinol.

Mae grwpiau staff yn cael eu pennu gan y cod goddrychol sy'n eitem ddata yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid a'r ESR. Mae ganddo'r un rhestr ddiffiniedig o werthoedd y dylid eu cymhwyso'n gyson rhwng y ddwy ffynhonnell.

Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys y staff hynny yn unig sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan GIG Cymru. Nid yw'r ystadegau'n cynnwys contractwyr gofal sylfaenol megis Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol.

Ansawdd data

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau arbrofol. Mae hyn yn golygu eu bod yn y cyfnod profi ac nad ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.

Rydym wedi nodi nifer o faterion ansawdd data y byddwn yn gweithio arnynt yn ystod y misoedd nesaf. Dylai defnyddwyr ystyried hyn wrth gymharu'r set nesaf o ddata cyhoeddedig ar swyddi gwag GIG Cymru. Cyhoeddir ystadegau swyddi gwag y GIG newydd bob chwarter ac fe gyhoeddwyd dros dro y caiff y rhifyn nesaf o'r datganiad hwn ei gyhoeddi ar 9 Awst 2023. Y bwriad yw cyhoeddi ystadegau ar lefel sefydliadau'r GIG mewn rhifynnau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, pan fydd gwiriadau pellach ar ansawdd data wedi'u rhoi ar waith.

Mae'r fethodoleg wedi'i chymhwyso'n gyson ar draws y mwyafrif o sefydliadau'r GIG. Nid oedd un bwrdd iechyd lleol yn gallu darparu nifer y swyddi FTE a ariennir drwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid, ond fe ddarparodd nifer y staff FTE cyflogedig mewn swydd trwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid fel bras amcan. Mae hyn yn debygol o arwain at danadrodd swyddi gwag yn y bwrdd iechyd hwn gan fod nifer y staff FTE cyflogedig yn debygol o fod yn is na nifer y staff FTE sydd wedi'u cyllidebu.

Roedd y dull casglu data hefyd yn golygu bod dau fwrdd iechyd arall yn adrodd nifer isel iawn o swyddi gwag ar draws rhai grwpiau staff. Rydym yn ymchwilio i'r rhesymau dros hyn ond mae'n annhebygol bod y data a ddarperir yn adlewyrchiad gyfan gwbl gywir o swyddi gwag ar y pryd ac mae'n golygu bod tanadrodd tebygol ar swyddi gwag yn y byrddau iechyd hyn.  

Nid yw unrhyw staff a gofnodir fel meddygon o dan hyfforddiant, deintyddion o dan hyfforddiant, neu fferyllwyr cyn-gofrestru, wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn. Mae cymhlethdodau wrth gyfrif ‘swyddi gwag’ o'r mathau hyn gan fod gan y byrddau iechyd lleol gyllideb i'r staff hyn ond bydd y mwyafrif yn cael eu cyflogi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru drwy'r cynllun Cyflogwr Arweiniol Sengl. Gall byrddau iechyd hefyd gyflogi staff sydd wedi'u codio fel hyfforddeion yn uniongyrchol, heb iddynt fod yn hyfforddeion ffurfiol drwy'r Cyflogwr Arweiniol Sengl. Bydd mesur swyddi gwag o'r mathau hyn o staff yn cael eu datblygu yn y misoedd i ddod, ond gellir mesur ‘y nifer sy'n manteisio’ ar y mathau hyn o swyddi yn fwy cywir gan ddefnyddio ‘cyfraddau llenwi’ sy'n cael eu casglu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Gall fod nifer negyddol o swyddi gwag neu gyfradd swyddi gwag os yw'r nifer o staff mewn swydd ar ESR yn fwy na'r nifer a gyllidebwyd o staff trwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Gall hyn ddigwydd pan fo un o sefydliadau'r GIG yn gor-recriwtio yn wybodus a/neu lle nad yw rhywfaint o gyllid anghylchol neu dymor byr penodol wedi'i gynnwys yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Lle bo cyllid ar gyfer swyddi yn bodoli nad yw wedi'i recordio ar y cyfriflyfr cyffredinol a lle mae staff wedi'u cyflogi trwy'r cyllid hwnnw, byddai nifer y swyddi gwag yr adroddir arnynt yn tanamcangyfrif o nifer gwirioneddol y swyddi gwag yn y cyfnod cyfeirio.

Efallai y bydd nifer y swyddi gwag yn y grŵp staff meddygol a deintyddol yn cael ei oramcangyfrif oherwydd gwahaniaethau o ran sut mae FTEs yn cael eu cyfrif rhwng y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ESR. Gall aelod llawn amser o'r grŵp staff hwn gyfrif fel 1 FTE ar ESR trwy eu contract a ddiffinnir fel 10 sesiwn yr wythnos. Er hynny, yn ymarferol gall rhai staff weithio 12 sesiwn yr wythnos a gellir eu cofnodi fel 1.2 FTE ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Byddai hyn yn creu ‘swydd wag’ o 0.2 drwy'r broses hon o gasglu data, ond yn ymarferol nid oedd swydd wag gan fod yr aelod o staff yn gweithio'n hirach na'u horiau wedi'u contractio.

Fel arfer, nid yw staff FTE mewn swydd ar ESR yn cynnwys staff banc, asiantaeth, contractwyr neu staff eraill nad ydynt ar y gyflogres. Gall hyn arwain at oramcangyfrif bach o nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag gan y gallai staff fod yn darparu gwasanaethau ond heb gael eu cofnodi ar ESR ar y dyddiad cyfeirio.

Mae swyddi gwag ar gyfer ‘gweinyddiaeth ac ystadau’, a ‘chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill’ wedi'u cyhoeddi fel grŵp staff cyfun ar gyfer 31 Rhagfyr 2022 gan y gallai fod rhai anghysondebau o ran sut mae rhai rolau staff yn cael eu codio rhwng y ddau grŵp staff hyn ar draws sefydliadau'r GIG.

Nid yw'r data ar gyfer 31 Rhagfyr 2022 yn cynnwys yr Uned Cyflawni Ariannol na Chydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru (a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru), lle'r oedd ychydig o dan 180 o staff FTE yn cael eu cyflogi. Bwriedir i'r unedau hyn cael eu cynnwys mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol hwn yn y dyfodol.

Wrth i staff symud swyddi, gall diweddariadau i FTEs fesul cod goddrychol fod yn fwy amserol ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid nag ydynt i niferoedd y staff mewn swydd trwy ESR. Felly, efallai y bydd anghysondeb bach yn nifer y swyddi gwag yr adroddir amdanynt a nifer gwirioneddol y swyddi gwag ar y dyddiad cyfeirio.

Nid yw pob gwasanaeth o fewn byrddau iechyd lleol yn anelu at recriwtio'r nifer llawn o staff FTE sydd wedi'u cyllidebu. Gall rhai gwasanaethau ddewis defnyddio cyllideb eu staff yn hyblyg i gyflawni eu blaenoriaethau a/neu gallant ddewis defnyddio eu cronfa o staff dros dro (banc nyrsys, staff locwm, asiantaeth) yn hyblyg drwy gydol y flwyddyn wrth i'r galw ar y gwasanaeth newid. Felly, mae nifer bach o'r ‘swyddi gwag’ yr adroddwyd arnynt wedi'u cynllunio mewn rhai amgylchiadau.

Mae dyrannu staff i god goddrychol yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ar ESR yn cynnwys prosesau llaw a gall arwain at gamgymhariad bach o godau goddrychol rhwng y ddwy ffynhonnell.

Mae'n debygol y bydd effeithiau tymhorol ar nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag, sy'n effeithio'n benodol ar grwpiau staff ‘meddygol a deintyddol’ a ‘nyrsys, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig’ wrth i staff sydd newydd gymhwyso raddio (a dod ar gael i'w recriwtio) ar adegau penodol o'r flwyddyn yn unig.

Mae ystadegau ar swyddi gwag y GIG yn cael eu cyhoeddi gan wledydd eraill y DU: ystadegau swyddi gwag GIG Lloegr; ystadegau gweithlu GIG yr Alban; ac ystadegau swyddi gwag Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Mae pedair gwlad y DU yn defnyddio dulliau casglu data gwahanol i gynhyrchu'r ystadegau hyn, gan adlewyrchu'r her gymhleth o gynhyrchu ystadegau swyddi gwag, ac felly nid oes modd eu cymharu'n uniongyrchol. Mae GIG Lloegr yn cynhyrchu pedwar dull gwahanol i gyfrifo swyddi gwag a safbwyntiau ar wybodaeth recriwtio ar gyfer GIG Lloegr. O'r holl ddulliau a ddefnyddir yn nhair gwlad arall y DU, dull GIG Lloegr (NHSE) yw’r mwyaf tebyg i'r ffordd y casglwyd y data yng Nghymru ac mae mwy o waith wedi'i gynllunio i asesu'r gymhariaeth rhwng y ddau ddull hyn.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Sherwood

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.