Neidio i'r prif gynnwy

Geirfa

Annedd

Adeilad neu ran o adeilad a feddiannir neu y bwriedir ei feddiannu fel cartref ar wahân yw annedd. At ddiben yr arolwg hwn, mae anheddau’n cynnwys tai amlfeddiannaeth fel y’u diffinnir yn Rhan 7 Deddf Tai 2004 (Gwefan deddfwriaeth y DU). Nid ydynt yn cynnwys fflatiau un stafell (ystafell sengl heb ddefnydd egscliwsif ar faddon/cawod neu doiled dan do) ond dylid ystyried grŵp o fflatiau un stafell sy’n rhannu cyfleusterau fel un annedd.

Tai Amlfeddiannaeth (HMOs)

Mae tŷ amlfeddiannaeth yn annedd sydd â mwy nag un cartref ynddo. Mae’r diffiniad yn cwmpasu ystod eang o fathau o dai, yn y sector rhentu preifat yn bennaf. Yn aml, pobl sengl incwm is ifanc sy’n byw ynddynt a gallent gynnwys grwpiau bregus a than anfantais. At ddibenion y broses casglu data hon, mae tŷ amlfeddiannaeth, fel y'i diffinnir yn Adrannau 254 i 259 o Ddeddf Tai 2004 (Gwefan deddfwriaeth y DU), yn cynnwys adeilad neu ran o adeilad sy'n:

  • Bodloni’r prawf safonol
  • Bodloni prawf y fflat hunangynhwysol
  • Bodloni prawf yr adeilad wedi'i drosi
  • Â datganiad HMO mewn grym
  • Yn floc o fflatiau wedi’i drosi

Cefndir

Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)

Defnyddir yr HHSRS i benderfynu a yw adeilad preswyl yn ddiogel i fyw ynddo. Cymerodd le'r hen Safon Ffitrwydd ym mis Gorffennaf 2006. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r system i benderfynu a oes perygl yn bodoli a allai achosi niwed i iechyd a diogelwch preswylydd posibl. Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y preswylwyr posib mwyaf bregus, er enghraifft, wrth asesu'r risg o 'ddisgyn ar risiau ac ati' - pobl hŷn a'r ifanc iawn fyddai’r rhain.

Mae'r risgiau a asesir yn cael sgôr ar raddfa. Gelwir y rhai sy'n sgorio'n uwch ar y raddfa (ac felly y mwyaf peryglus) yn beryglon Categori 1. Gelwir y rhai sy'n is ar y raddfa (ac yn achosi perygl llai) yn beryglon Categori 2. Os gwelir perygl Categori 1, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gymryd camau gorfodi priodol. Wrth benderfynu ar gamau gorfodi, gall yr awdurdod lleol ystyried y gwir breswylydd (yn hytrach na'r preswylydd posib mwyaf bregus). Os ceir perygl Categori 2, mae’r awdurdod lleol yn cael cymryd camau gorfodi.

Mae 29 o fathau o beryglon gwahanol yn cael eu hasesu

  1. Lleithder a llwydni
  2. Rhy oer
  3. Rhy gynnes
  4. Asbestos a ffibrau mwynol wedi’u gweithgynhyrchu (MMF)
  5. Bioladdwyr
  6. Carbon monocsidau a chynnyrch llosgi tanwydd
  7. Plwm
  8. Ymbelydredd
  9. Nwy tanwydd heb ei losgi
  10. Cyfansoddion organig anweddol
  11. Gorlenwi a lle
  12. Mynediad gan ddieithriaid
  13. Goleuni
  14. Sŵn
  15. Hylendid, plâu a sbwriel domestig
  16. Diogelwch bwyd
  17. Hylendid personol, glanweithdra a draeniau
  18. Y cyflenwad dŵr
  19. Disgyn wrth y baddon ac ati
  20. Disgyn ar arwynebau gwastad ac ati
  21. Disgyn ar risiau ac ati
  22. Disgyn rhwng lefelau
  23. Peryglon trydanol
  24. Tân
  25. Fflamau, arwynebau twym
  26. Gwrthdaro a chael eich dal
  27. Ffrwydradau
  28. Safle amwynderau a hwylustod ei weithio
  29. Yr adeiladwaith yn dymchwel a rhannau’n cwympo

Roedd yr HHSRS yn golygu newid sylweddol yn y ffordd yr oedd adeiladau preswyl yn cael eu hasesu. Yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflwr eiddo, golygai rhoi’r ffocws ar iechyd a diogelwch preswylwyr posibl. Am y rheswm hwn, nid yw'n briodol cymharu ystadegau a luniwyd o dan y safon ffitrwydd blaenorol â'r rhai a gynhyrchir gan HHSRS.

Mae nifer yr asesiadau ac wedyn, nifer y peryglon sy'n cael eu darganfod, yn gallu amrywio bob blwyddyn gan ddibynnu ar y galw am asesiadau. Er enghraifft, fe all gaeafau eithriadol o oer arwain at nifer uwch o asesiadau am fod mwy o gwynion wedi dod i law am oerfel.

Ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi (FFHH)

Cyflwynwyd y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw ynddi (FFHH) ym mis Rhagfyr 2022 o dan Adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Gwefan deddfwriaeth y DU). Nod y Rheoliadau FFHH yw sicrhau bod landlordiaid yn cynnal a chadw anheddau rhag iddynt fynd yn anaddas i bobl fyw ynddynt. Mae’n bwysig cofio nad yw presenoldeb perygl mewn annedd o dan yr HHSRS yn golygu ei bod o reidrwydd yn anaddas i bobl fyw ynddi o dan y Rheoliadau FFHH. Er enghraifft, er y gellir ystyried amrywiad bychan yn arwyneb y llawr yn berygl o dan yr HHSRS, byddai hynny ar ei ben ei hun yn annhebygol iawn o arwain at benderfyniad bod yr annedd yn anaddas i bobl fyw ynddi.

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi’r drwydded sy’n orfodol ar gyfer rhai mathau o dai amlfeddiannaeth. Rhaid trwyddedu tai amlfeddiannaeth mwy, risg uwch, tri llawr neu fwy, gyda 5 neu fwy o bobl yn byw ynddynt. Cyflwynwyd y gofyn i drwyddedu tai amlfeddiannaeth o dan Ddeddf Tai 2004 (Gwefan deddfwriaeth y DU) i helpu i sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu rheoli'n dda. Y nod yw gwella cyflwr ffisegol gwahanol fathau o eiddo yn y sector rhentu preifat a’u rheoli’n well. Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i estyn y gofyn er mwyn trwyddedu mathau eraill o dai amlfeddiannaeth. Trwyddedu ychwanegol yw’r enw ar hyn ac mae'n galluogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phroblemau penodol a allai fodoli mewn eiddo llai neu mewn ardal benodol.

Trwyddedu dethol

Fe gyflwynodd Deddf Tai 2004 (Gwefan deddfwriaeth y DU) drwydded ddethol i allu delio â phroblemau penodol mewn ardal. Mae trwydded ddethol yn trwyddedu cartrefi un aelwyd (nad ydynt yn dai amlfeddiannaeth) ac yn canolbwyntio'n bennaf ar ardaloedd lle mae'r galw am dai yn isel ac ar ardaloedd sy'n dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) Cymru 2006 (Gwefan deddfwriaeth y DU) yn nodi’r amodau ychwanegol pan roddir trwydded ddethol yng Nghymru. Mae’r amodau hynny’n cynnwys, yn gyntaf, ardaloedd lle mae awdurdodau lleol wedi datgan ardal adnewyddu o dan Adran 89 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Gwefan deddfwriaeth y DU) neu wedi rhoi cymorth yn unol â pholisi adnewyddu tai cyhoeddedig. Yn ail, ardal lle gosodir o leiaf 25% o'r stoc dai gan landlordiaid sector preifat (nid yw'r diffiniad hwn yn cynnwys landlord cymdeithasol cofrestredig o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Dai 1996 (Gwefan deddfwriaeth y DU)). Dylai awdurdodau lleol allu dangos bod yr amodau hyn yn cael effaith andwyol ar y sector rhentu preifat ac y byddai dynodi trwydded ddethol yn ei datrys. Mae cynllun trwyddedu dethol yn dod i ben yn awtomatig ar ôl 5 mlynedd oni bai bod awdurdod lleol yn ei ddirymu cyn hynny. Does dim awdurdodau lleol wedi defnyddio’r cynllun hwn ers 2017-18.

Deddf Dai (Cymru) 2014

Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 (Gwefan deddfwriaeth y DU) welliannau sylweddol ar draws y sector tai i sicrhau bod pobl yn gallu cael cartref gweddus a fforddiadwy a gwasanaethau tai gwell. Mae'r Ddeddf yn ategu ystod eang o ddatblygiadau polisi ac o adnoddau i gynyddu'r cyflenwad tai a gwella ansawdd tai a gwasanaethau tai.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Defnyddwyr a dibenion

Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r data am beryglon mewn tai i fonitro ansawdd anheddau sector preifat ac i asesu faint sydd wedi cael eu gwella at lefel dderbyniol yn ystod y flwyddyn. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i lywio polisi a deddfwriaeth tai preifat ac yn dystiolaeth i werthuso eu heffeithiolrwydd.

Defnyddir y data am drwyddedau tai amlfeddiannaeth i fonitro faint o dai o’r fath a geir yng Nghymru, a beth yw’r drefn drwyddedu ar draws Cymru. Fe'i defnyddir hefyd i asesu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn cefnogi blaenoriaethau tai cenedlaethol. Casglwyd gwybodaeth am nifer y tai amlfeddiannaeth hysbys am y tro cyntaf yn 2009-10.

Cywirdeb

Weithiau, nid yw awdurdodau lleol wedi gallu darparu data, am resymau a ddisgrifir isod.

Wrth gasglu data 2021-22, nid oedd Sir Benfro wedi gallu darparu’r wybodaeth gyfan. Amcangyfrif felly yw data 2021-22.  Rhaid wrth ofal felly wrth gymharu data blynyddol yr awdurdod hwn a data Cymru gyfan.

Yn ystod 2020-21, cafodd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) a'r mesurau iechyd cyhoeddus a gyflwynwyd yn ei sgil gan Lywodraethau Cymru a’r DU effaith sylweddol ar allu awdurdodau lleol i gynnal archwiliadau. Yn benodol, cynhaliwyd lawer llai o archwiliadau a lle roedd modd eu cynnal, canolbwyntiwyd ar archwilio safleoedd uchel eu risg. Adlewyrchir hyn yn y data a gasglwyd ar gyfer 2020-21.

Yn 2019-20, ni chafodd data eu casglu oherwydd pandemig Coronafeirws (COVID-19).

Wrth gasglu data 2018-19, nid oedd Castell-nedd Port Talbot wedi gallu darparu data am y peryglon gafodd eu hunioni yn ystod y flwyddyn. Felly amcangyfrif yw’r ffigur a ddarparwyd, yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd yn y 3 blynedd cyn hynny. Rhaid wrth ofal felly wrth gymharu data blynyddol yr awdurdod hwn a data Cymru gyfan.

Wrth gasglu data 2017-18, nid oedd Caerdydd wedi gallu darparu data cyflawn am yr asesiadau a gynhaliwyd yn y flwyddyn. Defnyddiwyd data 2016-17 felly i greu amcangyfrif. Rhaid wrth ofal felly wrth gymharu data blynyddol yr awdurdod hwn a data Cymru gyfan.

Wrth gasglu data 2016-17, nid oedd dau awdurdod lleol (Wrecsam a Sir Ddinbych) wedi gallu darparu data cyflawn oherwydd newidiadau i'w systemau cofnodi data. Rhoddodd Wrecsam wybodaeth am gyfanswm yr asesiadau ond ni allodd ddadansoddi’r ffigurau hyn. Defnyddiwyd ffigurau 2015-16 i ddadansoddi ffigurau 2016-17. Doedd Sir Ddinbych ddim wedi gallu darparu data ar gyfer 2016-17 ac felly defnyddiwyd data 2015-16 i greu amcangyfrif. Rhaid wrth ofal felly wrth gymharu data blynyddol yr awdurdodau hyn a data Cymru gyfan.

Wrth gasglu data 2014-15, nid oedd Sir y Fflint wedi gallu darparu data am nifer yr asesiadau a ddatgelodd beryglon Categori 1 a 2 na nifer yr anheddau lle cafodd yr holl beryglon Categori 1 eu hunioni o ganlyniad i weithredu gan yr awdurdod lleol. Defnyddiwyd data 2013-14 i greu amcangyfrif. Rhaid wrth ofal felly wrth gymharu data blynyddol yr awdurdodau hyn a data Cymru gyfan.

Y broses casglu data

Mae Llywodraeth Cymru’n casglu data am beryglon a thrwyddedau bob blwyddyn gan ddefnyddio taenlenni Excel, a lawrlwythir o wefan ffeiliau Afon sy'n gyfrwng diogel i ddefnyddwyr ddarparu data. Mae'r taenlenni'n caniatáu i'r ymatebwyr ddilysu peth o’r data cyn eu cyflwyno. Mae ymatebwyr yn cael darparu gwybodaeth gyd-destunol hefyd os gwelir bod newidiadau mawr wedi digwydd (er enghraifft, newid blynyddol o fwy na 10%). Mae hyn yn eu galluogi i lanhau rhywfaint ar y data cyn eu cyflwyno gan leihau ymholiadau dilynol.

Rhoddir gwybod i awdurdodau lleol am yr amserlen casglu data ymlaen llaw, gan roi digon o amser iddynt gasglu’r wybodaeth, a chodi unrhyw faterion sydd ganddynt. Mae canllawiau sydd wedi’u hatodi gyda’r daenlen yn esbonio wrth y defnyddwyr sut i lenwi'r ffurflen. 

Mae copïau o’r ffurflenni Casglu data am beryglon mewn tai a thrwyddedau i’w cael ar wefan Llywodraeth Cymru. Cewch ragor o wybodaeth am y cylch prosesu data yn yr Adroddiad ar Ansawdd Ystadegau Tai.

Dilysu a chadarnhau

Pan fydd y data wedi’n cyrraedd, bydd archwiliadau dilysu a chadarnhau pellach yn cael eu cynnal, gan gynnwys:

  • archwiliadau synnwyr cyffredin i chwilio am ddata sy’n anghywir neu’n eisiau heb esboniad
  • archwilio’r rhifyddeg
  • cymharu’r data â rhai’r flwyddyn cynt
  • cymharu’r data â chasgliadau data perthnasol eraill
  • archwiliadau goddefedd trylwyr
  • cadarnhau bod y data sydd y tu allan i’r goddefiadau’n gywir

Os bydd archwiliad dilysu yn dangos bod yna gamgymeriad, cysylltir â’r awdurdod lleol i’w unioni. Os na cheir ymateb o fewn amser rhesymol, cywirwn y gwall ein hunan. Hysbysir yr awdurdod lleol am hyn. Disgrifir y cywiriad a nodir y data dan sylw yn adran ‘Cywirdeb’ yr adroddiad hwn.

Sicrhau ansawdd

Mae’r datganiad hwn wedi'i sgorio yn unol â matrics Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Awdurdod Ystadegau'r DU. Y matrics yw safon rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU ar gyfer sicrhau ansawdd data gweinyddol. Mae'r Safon yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol data gweinyddol wrth gynhyrchu ystadegau swyddogol ac yn egluro'r hyn y dylai cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ei wneud i sicrhau ansawdd y data hyn. Mae'r pecyn cymorth sy'n ei chefnogi yn rhoi canllawiau defnyddiol i gynhyrchwyr ystadegol ynghylch yr hyn y gallent ei wneud i sicrhau ansawdd y data y maent yn eu derbyn ac yn nodi'r safonau ar gyfer asesu ystadegau yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.

Mae’r matrics yn asesu’r datganiad yn ôl nifer o feini prawf:

  • Cyd-destun ei weithredu a chasglu data gweinyddol
  • Cyfathrebu â phartneriaid cyflenwi data
  • Egwyddorion, safonau ac archwiliadau sicrhau ansawdd gan gyflenwyr y data
  • Ymchwiliadau a dogfennau sicrhau ansawdd y cynhyrchydd

Mae’r datganiad hwn yn cael sgôr dros dro o ‘A2 – Sicrhad Uwch’ ar gyfer pob un o’r tri chategori cyntaf ac ‘A3: Sicrhad Cynhwysfawr’ ar gyfer y categori terfynol.

Newidiadau

Bydd sawl rheswm dros newid y datganiad, megis pan fydd awdurdod lleol yn cyflwyno’r data’n hwyr, neu pan fydd cyflenwr data'n hysbysu Llywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir. O bryd i'w gilydd, bydd angen newidiadau oherwydd gwallau yn ein prosesau ystadegol. Bryd hynny, bydd angen penderfynu a yw'r newid yn ddigon mawr i gyfiawnhau cyhoeddi datganiad ystadegol diwygiedig.

Lle ystyrir nad yw’r newidiadau'n sylweddol, h.y. mân newidiadau, cânt eu hymgorffori yn natganiad ystadegol y flwyddyn ganlynol. Ond fe all mân newidiadau gael eu hymgorffori yn nhablau StatsCymru cyn y datganiad nesaf hwnnw.

Nodir data diwygiedig gyda (r) yn y datganiad ystadegol.

Cydlyniant ag ystadegau eraill

Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS)

Cyflwynwyd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yn 2002 ac mae'n gosod safon darged i bob annedd fod o ansawdd da ac yn addas i anghenion preswylwyr, nawr ac yn dyfodol. Datblygwyd y Safon i ddarparu safon darged gyffredin ar gyfer holl dai Cymru ond fe'i defnyddir yn bennaf i asesu'r tai cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai (landlordiaid cymdeithasol). Byddai pob annedd y ceir Perygl Categori 1 yr HHSRS ynddo yn 'methu' y WHQS yn awtomatig.

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (WHCS)

Cyhoeddwyd prif ganlyniadau’r HHSRS yn adroddiad penawdau WHCS 2017-18. Mae'r wybodaeth a ddangosir ynddo yn ymdrin â’r anheddau preswyl ac nid dim ond y rhai a gafodd eu hasesu yn ystod y flwyddyn. Mae manylion llawn ynglŷn â mesur a modelu'r peryglon hyn ar gael yn yr Adroddiad Technegol yr Arolwg.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2019

 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Cafodd y mynegai diweddaraf ei gyhoeddi yn Nachwedd 2019.  Mae’r WIMD ar hyn o bryd yn mesur wyth gwahanol fath o amddifadedd, gan gynnwys tai. Mesurir pob math gan ddefnyddio nifer o ddangosyddion gwahanol.

Yn 2019, cyflwynwyd dangosydd wedi’i fodelu ar gyfer tai o ansawdd gwael a oedd yn mesur y tebygolrwydd y byddai tŷ mewn cyflwr gwael neu â pheryglon difrifol ynddo (er enghraifft, perygl o ddisgyn neu dai oer). Caiff y dangosydd newydd ei gyfrifo gan ddefnyddio model a adeiladwyd o ddata arolygon, sy'n gwneud rhagfynegiadau o debygolrwydd ynghylch anheddau unigol yng Nghymru, gan ddefnyddio ystod o setiau data gweinyddol fel mewnbynnau. Mae hyn yn caniatáu cyfrifo amcangyfrifon o'r tebygolrwydd y bydd anheddau’r ardal honno naill ai â pherygl Categori 1 neu mewn cyflwr gwael.

Ystadegau cysylltiedig ar gyfer gwledydd eraill y DU

Caiff gwybodaeth yr HHSRS yn Lloegr ei chasglu a'i chyhoeddi gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) yn Adran F data ystadegau tai awdurdodau lleol (Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau a'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol). Nid oes HHSRS yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Mae'r diffiniadau o dai amlfeddiannaeth yn weddol debyg ledled y DU, ond ceir rheolau trwyddedu gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwybodaeth am dai amlfeddiannaeth Lloegr, a gyhoeddwyd gan DLUHC, hefyd i'w gweld yn Adran F data ystadegau tai awdurdodau lleol (Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau a'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol). Mae'r Alban yn casglu gwybodaeth yn unig am dai amlfeddiannaeth sydd â thrwydded fandadol (Llywodraeth yr Alban).  Nid yw Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau o gwbl am dai amlfeddiannaeth. Mae'r gwahaniaethau yn y gofynion trwyddedu a'r ystadegau sy'n cael eu cynhyrchu yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau rhwng gwledydd y DU.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol yn 2022 yn dilyn asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Esboniadau manylach gan gynnwys mwy o gyd-destun polisi a gweithredu
  • Cyhoeddiadau ar wahân am beryglon mewn tai a thrwyddedau a dymchweliadau i wneud y data’n fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio.
  • Hybu dibynadwyedd trwy gyfyngu ar y rheini sy’n cael eu gweld cyn eu cyhoeddi

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad yn cynnwys un dangosydd cyd-destunol, sef ‘(31) Canran yr anheddau sydd heb beryglon’. Cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad llesiant yn y ddolen flaenorol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.