Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am raglenni dysgu Twf Swyddi Cymru+ a'r dysgwyr sydd wedi cofrestru arnynt ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2023.

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn cwmpasu chwarter 3 2023-24 (Hydref i Ragfyr 2023). Ffigurau dros dro yw’r rhain ac mae’n debygol y byddant yn cael eu hadolygu mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol wrth i ddata gael eu diweddaru. Cafodd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ei lansio ar 1 Ebrill 2022.

Y prif bwyntiau

  • Yn ystod Hydref i Ragfyr 2023 roedd 3,790 o raglenni’n weithredol drwy  Twf Swyddi Cymru+. O’r rhain, roedd 2,585 wedi parhau o’r  chwarter blaenorol, ac 1,205 yn ddechreuadau newydd. Ar ddiwedd Rhagfyr, roedd 2,965 o'r rhaglenni hyn yn parhau.
  • Roedd nifer y dechreuadau yn ystod Hydref i Ragfyr 2023 19% yn uwch na’r un cyfnod yn 2022 (1,205 o'i gymharu â 1,005).
  • Daeth 825 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ i ben yn ystod Hydref i Ragfyr 2023, gyda 485 ohonynt wedi'u cwblhau. O'r rhaglenni a ddaeth i ben, cafodd 46% o’r bobl ifanc ganlyniad cadarnhaol yn seiliedig ar eu cyrchfan o fewn pedair wythnos ar ôl cwblhau'r rhaglen.
  • Erbyn diwedd Rhagfyr 2023, roedd 9,635 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ wedi cychwyn ers i’r rhaglen ddechrau yn Ebrill 2022. Roedd 6,670 o’r rhaglenni hynny wedi dod i ben a 4,475 wedi’u cwblhau. 

Ffigur 1: Cyrchfan ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru+, Hydref i Ragfyr 2023 (dros dro)

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart gylch hon yn dangos cyfran y rhai sy'n gadael Twf Swyddi Cymru+ mewn nifer o gyrchfannau ar ôl cwblhau'r rhaglen. Y categori unigol mwyaf yw 'Chwilio am waith/di-waith' ar 45% ond yn gyffredinol roedd gan 46% o'r rhai sy'n gadael ganlyniad cadarnhaol.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)

Cefndir a chyd-destun

Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ yw darparu hyfforddiant, datblygiad a chefnogaeth gyflogadwyedd gyfunol ac unigol i bobl ifanc 16-18 oed sy'n cael eu hasesu’n NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ar yr adeg y maent yn dechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

Bydd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r canlyniadau a'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phobl ifanc yn NEET, sy'n rhan annatod o'r Gwarant i Bobl Ifanc, Cymru gryfach, decach a gwyrddach (y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau), y Rhaglen Lywodraethu a’n Hamcanion Llesiant.

Amcanion rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yw:

  • Cyfrannu tuag at leihau nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n NEET.
  • Sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc 16 i 18 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET
  • Cyfrannu at gyflawni amcanion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ddarparu cymorth cyflogadwyedd i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cynnig cyfle cyfartal (gan gynnwys y Gymraeg), yn hybu lles a gwaith teg, ac yn helpu i ymgorffori dulliau amgylcheddol sy'n lleihau niwed.

Roedd y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2022 a 31 Mawrth 2022 yn gyfnod pontio i ddysgwyr a oedd yn arfer bod ar y rhaglen Hyfforddeiaethau.

Canlyniadau cadarnhaol

Caiff canlyniadau cadarnhaol eu mesur yn ôl cyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru+. I ddysgwyr ar y llinynnau Ymgysylltu a Datblygu, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth. I ddysgwyr ar y llinyn Cyflogaeth, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser (16 awr neu fwy yr wythnos) neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth.

I ddysgwyr anabl, mae cyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos hefyd yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol.

Mae gwaith gwirfoddol, dysgu pellach ar yr un lefel neu lefel is, a chyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos yn cael eu hystyried yn ganlyniadau niwtral. Caiff dysgwyr â'r canlyniadau hyn eu heithrio o'r enwadur wrth gyfrifo cyfraddau canlyniadau cadarnhaol.

Mae chwilio am waith/di-waith a phob canlyniad arall (gan gynnwys lle nad yw'r gyrchfan o fewn pedair wythnos yn hysbys) yn cael eu hystyried yn ganlyniadau negyddol.

Ffynhonnell ddata 

Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Chwefror 2024 ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Rhaid i Gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru yn fisol o leiaf ar bob person ifanc a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau o dan raglen Twf Swyddi Cymru+.

Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf. Cyfrifir y canrannau ar sail y ffigurau heb eu talgrynnu.

Cyswllt

Aaron Thomas

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.