Neidio i'r prif gynnwy

2021 i 2023: crynodeb

Rhwng 2011 a 2019, roedd ystadegau twristiaeth ddomestig dros nos ar gyfer Prydain Fawr yn cael eu casglu drwy Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Yn 2019, yn dilyn adolygiad o'r gofynion a'r dulliau ar gyfer cynhyrchu'r ystadegau hyn, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfunol newydd a oedd yn casglu data ar deithiau domestig dros nos yn ogystal â theithiau domestig undydd. Mae hyn yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd mae data'n cael eu casglu ar gyfer ymweliadau dros nos, a thoriad yn y gyfres ystadegol. Felly, ni ellir cymharu amcangyfrifon twristiaeth ddomestig dros nos ar gyfer 2019 ac yn gynharach ag amcangyfrifon ar gyfer 2021 ac yn ddiweddarach.

Y bwriad oedd rhoi'r fethodoleg newydd ar waith yn 2020. Fodd bynnag, effeithiwyd ar hyn gan bandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau symud canlyniadol. Gan fod y cyfyngiadau symud yn atal pobl rhag teithio ac nad oeddent yn caniatáu teithiau hamdden, defnyddiwyd 2020 yn flwyddyn beilot, gan ganiatáu i'r fethodoleg newydd gael ei phrofi ac i gynnal dadansoddiadau ychwanegol.

Mae'r holl amcangyfrifon a gyhoeddwyd o dan y fethodoleg newydd wedi'u labelu yn 'ystadegau arbrofol', ac yn ddiweddarach 'ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu', er mwyn galluogi profi ac addasu ymhellach i ddiwallu anghenion defnyddwyr [troednodyn 1]. Mae rhagor o wybodaeth am ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Adroddiadau Ansawdd Cefndir yn disgrifio'r fethodoleg a oedd yn cael ei defnyddio o 2021 ymlaen, yn ogystal ag unrhyw ddiwygiadau a wnaed, y rhesymau dros y diwygiadau hynny a'u heffaith ar amcangyfrifon.

Adolygiad methodolegol

Pan ddaeth amcangyfrifon blwyddyn lawn ar gael ar gyfer 2023, adolygodd dadansoddwyr o VisitEngland, VisitScotland a Croeso Cymru y data ar gyfer 2022 a 2023, gyda'r bwriad o gael golwg gliriach ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn twristiaeth ddomestig yn y cyfnod ôl-bandemig. Cytunwyd bod anwadalrwydd sylweddol yn y data hyn, a bod yr anwadalrwydd hwn weithiau'n cynhyrchu amcangyfrifon a thueddiadau nad ydynt i'w gweld yn ganfyddiadau credadwy ac sy'n gwrth-ddweud canfyddiadau eraill, megis y Domestic Sentiment Tracker (Visit Britain), yn ogystal â data deiliadaeth llety twristiaeth ar gyfer Cymru ac i Brydain Fawr yn ei chyfanrwydd (Visit Britain). Er enghraifft, mae'r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer mis Hydref i fis Rhagfyr 2023 yn dangos gostyngiad o 20% yn nifer y teithiau domestig dros nos a wnaed ym Mhrydain Fawr, o'u cymharu â mis Hydref i fis Rhagfyr 2022. Cytunwyd hefyd y byddai gadael yr anwadalrwydd hwn heb ei gywiro'n cael effaith negyddol ar gywirdeb amcangyfrifon, y gyfres amser, ac unrhyw dueddiadau a nodwyd sy'n dod i'r amlwg. Felly, penderfynwyd dechrau adolygiad methodolegol.

Bydd yr adolygiad methodolegol yn archwilio agweddau allweddol ar y fethodoleg bresennol ac yn ystyried sut y gellir gwella'r fethodoleg bresennol. Bydd yr adolygiad yn broses gydweithredol, a fydd yn cynnwys dadansoddwyr yn VisitEngland, VisitScotland a Croeso Cymru. Oherwydd natur gynhwysfawr yr adolygiad, a chymhlethdod y fethodoleg, nid yw'n bosibl penderfynu beth fydd yn cael ei newid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, o ystyried yr anwadalrwydd a welwyd yn y data, mae'n debygol y bydd gwella perfformiad capiau yn cael sylw yn yr adolygiad.

Ar ôl i'r adolygiad ddod i ben, bydd data ar gyfer teithiau domestig dros nos yn 2022 a 2023 yn cael eu hailbrosesu a'u diwygio yn unol â hynny. Nid yw'n bosibl dweud sut y bydd amcangyfrifon ar gyfer 2022 a 2023 yn newid, ond rhagwelir y bydd amcangyfrifon diwygiedig yn rhoi golwg fwy cywir ar dueddiadau dros amser, oherwydd y bydd llai o anwadalrwydd yn y data.  Bydd yr adolygiad yn archwilio teithiau domestig dros nos, ond bydd yr hyn a ddysgir o'r adolygiad hwn yn cael ei gymhwyso i deithiau domestig undydd lle bo hynny'n briodol.

Y camau nesaf

Hyd nes y cyhoeddir amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer teithiau domestig dros nos yn 2022 a 2023, cynghorir defnyddwyr i fod yn ofalus wrth ddefnyddio a dehongli amcangyfrifon cyfredol. Disgwylir i'r adolygiad methodolegol gymryd o leiaf deg wythnos i'w gwblhau. O ganlyniad, mae cyhoeddiadau rheolaidd yn y gyfres ystadegol hon wedi cael eu gohirio. Disgwylir y bydd cyhoeddiadau rheolaidd yn cael eu cyhoeddi tua thri mis yn hwyrach na'r bwriad.

Troednodiadau

[1] Ym mis Medi 2023, disodlwyd y term 'ystadegau arbrofol' ag 'ystadegau sy'n cael eu datblygu'. Mae rhagor o wybodaeth am y newid hwn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r corff perthnasol isod.

VisitEngland

Richard Nicholls
Head of Research and Forecasting
VisitEngland
4th Floor
Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4BP

E-bost: Richard.Nicholls@visitengland.org 

Rhif ffôn: +44 207 578 1416

VisitScotland

Lesley Whitehill
Senior Tourism Insights Manager
VisitScotland
Insight Department
Waverley Court
4 East Market Street
Edinburgh
EH8 8BG

E-bost: research@visitscotland.com 

Rhif ffôn: +44 131 472 2222

Croeso Cymru

Joanne Starkey
Pennaeth Datblygu Twristiaeth
Croeso Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: tourismresearch@llyw.cymru

Rhif ffôn: +44 300 061 6110