Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau twristiaeth domestig dros nos gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr yn 2022. Mae’r ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn berthnasol i’r cyfnod rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Rhagfyr 2022.

Mae'r amcangyfrifon yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ail-raddnodi data arolwg ar gyfer mis Ionawr i fis Ebrill 2022. Mae hyn oherwydd newid yn y cwestiynau arolwg GBTS a roddwyd ar waith ym mis Mai 2022, a arweiniodd at ostyngiad sylweddol ac annisgwyl o ran nifer y teithiau a adroddwyd o fis Mai i fis Rhagfyr 2022. Gwnaed yr ail-raddnodi nifer y teithiau a adroddwyd er mwyn cymharu holl amcangyfrifon yr arolwg ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022 â’r amcangyfrifon a adroddwyd o fis Mai 2022 ymlaen.  Darperir rhagor o wybodaeth am y dull ail-raddnodi yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer prif ddiben teithiau dros nos; gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a theithiau busnes, gyda'r diffiniadau ar gyfer pob un o'r rhain yn yr adran berthnasol o'r adroddiad hwn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion am deithiau dros nos yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu. Mae canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban yn cael eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser.  Mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Cyfeiriwch at yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Teithiau yng Nghymru

  • Yn 2022, aeth trigolion Prydain Fawr ar 8.71 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 26.10 miliwn o nosweithiau a gwario £1,919 miliwn yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 44% o deithiau dros nos yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn yn deithiau gwyliau, roedd 31% yn deithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ac roedd 6% at ddibenion busnes.
  • Roedd tua 7% o’r holl deithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, tra bod cyfran cyfanswm nosweithiau ym Mhrydain Fawr hefyd yn 7% a chyfran y gwariant yn is ar 6%.
  • Roedd y teithiau, y nosweithiau a’r gwariant i gyd ar eu huchaf yn y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, a oedd yn cyfrif am 32% o deithiau a 33% o'r gwariant yn 2022.
  • Cyfartaledd hyd teithiau yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd oedd 3.0 noson gyda gwariant cyfartalog o £220 fesul taith.
  • O'i gymharu â 2021, roedd nifer y teithiau yng Nghymru yn 2022 yn uwch ar gyfer y chwarteri o fis Ebrill i fis Mehefin a mis Hydref i fis Rhagfyr ond yn is ar gyfer y chwarter o fis Gorffennaf i fis Fedi. Roedd y gwariant yn uwch ar gyfer pob chwarter yn 2022.

Teithiau ym Mhrydain Fawr

  • Yn 2022, aeth trigolion Prydain Fawr ar 125.72 miliwn o deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 383.3 miliwn o nosweithiau a gwario £32.88 biliwn yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 34% o deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn yn deithiau gwyliau, roedd 36% yn deithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ac roedd 6% at ddibenion busnes.
  • Roedd 85% o’r teithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yn Lloegr, roedd 11% yn cynnwys aros dros nos yn yr Alban ac roedd 7% yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, sef yr un gyfran o deithiau a adroddwyd ar gyfer 2021.
  • Roedd y teithiau, y nosweithiau a’r gwariant i gyd ar eu huchaf yn y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, a oedd yn cyfrif am 30% o deithiau a 31% o'r gwariant yn 2022.
  • Cyfartaledd hyd teithiau ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod adrodd oedd 3.0 noson gyda gwariant cyfartalog o £262 fesul taith.

Teithiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, 2022

Tabl 1: Cyfanswm nifer y teithiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, 2022 [Nodyn 1]
 LloegrYr AlbanCymru
Teithiau (miliynau)106.8913.468.71
% Teithiau ym Mhrydain Fawr 85%11%7%
Nosweithiau (miliynau)316.2540.9126.10
% Nosweithiau ym Mhrydain Fawr83%11%7%
Gwariant (£ miliynau)£27,554£3,410£1,919
% Gwariant ym Mhrydain Fawr84%10%6%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Yn y cyfnod rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Rhagfyr 2022, aeth trigolion Prydain ar 125.7 miliwn o deithiau dros nos gyda chyfanswm o 383.3 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £32.88 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, roedd 8.71 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru gyda chyfanswm o 26.10 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £1.919 biliwn. Roedd tua 7% o holl deithiau domestig dros nos trigolion Prydain yn deithiau yng Nghymru, o’i gymharu ag 85% yn Lloegr ac 11% yn yr Alban, sef yr un cyfrannau i deithiau ag a adroddwyd yn 2021.  Roedd cyfran y nosweithiau ym Mhrydain Fawr a dreuliwyd yng Nghymru yn 7%, ac roedd cyfran y gwariant yn 6%, gyda’r ddau yr un fath â’r hyn a adroddwyd yn 2021.

Tabl 2: Teithiau, nosweithiau a gwariant i Gymru a Phrydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad, 2022 [Nodyn 1]
Pob PwrpasTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
GwyliauTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Ymweld â ffrindiau a pherthnasau Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
BusnesTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Amrywiol/arallTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Prydain Fawr125.72383.26£32,882
Cymru8.7126.10£1,919
Prydain Fawr42.96162.33£14,133
Cymru3.8414.12£1,039
Prydain Fawr44.71124.68£7,590
Cymru2.666.55£396
Prydain Fawr7.2219.74£2,318
Cymru0.520.97£100
Prydain Fawr30.8476.51£8,841
Cymru1.694.46£385

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer teithiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Ffigur 1: Cyfran y teithiau, y nosweithiau a’r gwariant yng Nghymru yn ôl prif bwrpas y daith, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far glystyrog yn dangos mai gwyliau oedd diben y mwyafrif o deithiau, nosweithiau a gwariant gan drigolion Prydain Fawr a aeth ar deithiau i Gymru.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

Teithiau gwyliau oedd y gyfran fwyaf o deithiau dros nos yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022. Yn dilyn hyn, roedd teithiau ymweld â ffrindiau a pherthnasau.  Teithiau busnes oedd y gyfran isaf o deithiau dros nos i Gymru ac i Brydain Fawr yn gyffredinol. Mae teithiau at ddibenion ‘amrywiol’ yn cynnwys amrywiaeth eang o deithiau (gweler yr adran diffiniadau), ond y nifer fwyaf o deithiau amrywiol oedd teithiau dramor a oedd yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, teithiau ar gyfer digwyddiadau personol a theithiau ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Roedd cyfran is o deithiau yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022 ar gyfer gwyliau (44%), o’i gymharu â 2021 (50%), tra bod cyfran uwch o deithiau amrywiol yng Nghymru yn 2022 (19%) o’i gymharu â 2021 (16%).

Nodweddion teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru

Tabl 3: Hyd arhosiad a gwariant cyfartalog ar gyfer prif bwrpas teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru, 2022 [Nodyn 1]
Pob PwrpasPrydain FawrCymru
Gwariant fesul taith ££262£220
Gwariant fesul noson ££86£74
Nosweithiau fesul taith3.03.0
GwyliauPrydain FawrCymru
Gwariant fesul taith ££329£270
Gwariant fesul noson ££87£74
Nosweithiau fesul taith3.83.7
Ymweld â Ffrindiau a PherthnasauPrydain FawrCymru
Gwariant fesul taith ££170£149
Gwariant fesul noson ££61£60
Nosweithiau fesul taith2.82.5
BusnesPrydain FawrCymru
Gwariant fesul taith  ££321£193
Gwariant fesul noson ££117£103
Nosweithiau fesul taith2.71.9

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer teithiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Roedd gostyngiad nodedig o ran hyd cyfartalog teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn 2022 (3.0 noson) o'i gymharu â 2021 pan oedd gan deithiau yng Nghymru hyd cyfartalog o 3.7 noson.  Mae'r gostyngiad mewn hyd teithiau cyfartalog yng Nghymru a Phrydain Fawr yn gyson ar draws pob math o daith.  Mae hyd cyfartalog teithiau yn 2022 yn uwch ar gyfer gwyliau yng Nghymru a Phrydain Fawr o'i gymharu â mathau eraill o deithiau.

Er bod hyd cyfartalog teithiau yn is yn 2022, bu cynnydd nodedig mewn gwariant fesul taith, sef £220 ar gyfer teithiau yng Nghymru yn 2022 o'i gymharu â £198 yn 2021. Gwelwyd cynnydd tebyg ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol gyda gwariant cyfartalog fesul taith o £262 yn 2022 o'i gymharu â £230 yn 2021. Mae'r gwariant cyfartalog yn 2022 yn uwch ar gyfer teithiau gwyliau o'i gymharu â mathau eraill o deithiau yn rhannol oherwydd hyd teithiau gwyliau hirach, ond teithiau busnes sydd â'r gwariant uchaf fesul noson.

Ffigur 2: Nifer a chyfran y teithiau i Brydain Fawr a Chymru yn ôl prif leoliad yr ymwelwyd ag ef, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofn glystyrog yn dangos mai teithiau i ddinasoedd mawr/trefi mawr oedd y gyfran fwyaf o deithiau ym Mhrydain Fawr, ond yng Nghymru roedd y teithiau wedi’u gwasgaru’n fwy cyfartal rhwng gwahanol fathau o leoliadau.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

‘[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau i bob prif leoliad mewn miliynau. Er enghraifft, yn 2022, roedd 2.20 miliwn o deithiau i leoliadau cefn gwlad / pentrefi yng Nghymru.

Roedd y teithiau wedi’u gwasgaru i wahanol fathau o leoliadau ar draws Cymru yn 2022, ond bu cynnydd yng nghyfran y teithiau i ddinasoedd a threfi mawr yn 2022 (28%) o'i gymharu â 2021 (23%). Roedd cyfran llawer uwch o'r teithiau yng Nghymru yn 2021 a 2022 i'r ardaloedd glan môr ac arfordirol o'i gymharu â Phrydain Fawr yn gyffredinol. Mae hyn yn adlewyrchu'r gyfran uwch o deithiau gwyliau yng Nghymru. Mae teithiau i ddinasoedd a threfi mawr yn cyfrif am gyfran llawer uwch o deithiau ar draws Prydain yn gyffredinol, gyda chyfran y teithiau hyn yn cynyddu yn 2022.

Ffigur 3: Nifer a chyfran y teithiau a’r gwariant lle mai rhanbarth yng Nghymru yw prif leoliad yr ymweliad, 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn glystyrog yn dangos mai De-ddwyrain Cymru gafodd y nifer fwyaf o deithiau a’r gwariant uchaf gan drigolion Prydain Fawr.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Meintiau sylfaen isel ar gyfer rhai rhanbarthau, dylid trin y data’n ofalus.

[Nodyn 2] Y rhifau yn y segmentau lliw yw nifer y teithiau yng Nghymru mewn miliynau, a'r swm a wariwyd ar deithiau yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd, ar gyfer pob rhanbarth o Gymru. Er enghraifft, yn 2022, roedd 1.77 miliwn o deithiau i Dde-orllewin Cymru.

Yn 2022, De-ddwyrain Cymru oedd y rhanbarth yr ymwelwyd â hi fwyaf yng Nghymru, a Gogledd Cymru oedd y rhanbarth yr ymwelwyd â hi fwyaf yn 2021. Gallai'r newid hwn fod yn rhannol oherwydd cyfran uwch o deithiau i ddinasoedd a threfi mawr a adroddwyd yn 2022.  De-ddwyrain Cymru oedd y brif gyrchfan ar gyfer 30% o’r teithiau yn 2022. Mae hyn yn cymharu â Gogledd Cymru, sef y brif gyrchfan ar gyfer 26% o deithiau yng Nghymru. De-orllewin Cymru oedd prif gyrchfan 20% o deithiau, a Chanolbarth Cymru oedd prif gyrchfan 10% o deithiau yng Nghymru. Roedd gweddill y teithiau yng Nghymru i gyrchfannau amrywiol lle’r oedd y prif le yr ymwelwyd ag ef y tu allan i Gymru. Gogledd Cymru gafodd y gyfran uchaf o wariant yn 2022.

Ffigur 4: Nifer a chyfran y teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif fath o lety a ddefnyddiwyd, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far glystyrog yn dangos mai llety â gwasanaeth oedd y math mwyaf cyffredin o lety ar gyfer trigolion Prydain Fawr a oedd yn mynd ar deithiau ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr mewn miliynau, lle defnyddiwyd math penodol o lety fel y prif fath o lety. Er enghraifft, yn 2022, llety â gwasanaeth oedd y prif fath o lety a ddefnyddiwyd ar 3.35 miliwn o deithiau i Gymru.

Roedd ymwelwyr ar deithiau i Gymru yn 2022 yn fwyaf tebygol o fod yn aros mewn llety â gwasanaeth ac yna carafán/gwersylla/glampio a chartref preifat (gan gynnwys cartrefi ffrindiau/perthnasau ac ail gartrefi). O'i gymharu â 2021, roedd ymwelwyr yn fwy tebygol o fod yn aros mewn llety â gwasanaeth, gyda 38% yn defnyddio'r math hwn o lety o'i gymharu â 21% yn aros mewn carafán a gwersylla, 21% yn aros mewn cartrefi preifat a 12% yn aros mewn llety hunanddarpar a oedd yn cael ei rentu.

Proffil yr ymwelwyr a fu ar deithiau i Gymru

Tabl 4: Nifer y teithiau a chyfanswm y gwariant yng Nghymru yn ôl gwlad breswyl yr ymwelwyr, 2022 [Nodyn 1]
 Teithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)% o deithiau Cymru
Lloegr6.22£1,45671%
Yr Alban0.28£833%
Cymru2.19£37625%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Maint sylfaen isel ar gyfer yr Alban – dylid trin y data’n ofalus

Roedd trigolion Prydain Fawr sy’n byw y tu allan i Gymru yn cyfrif am dri chwarter yr holl deithiau dros nos yng Nghymru yn 2022, gyda thrigolion o Loegr yn cyfrif am y mwyafrif o’r teithiau a’r gwariant. Roedd trigolion Cymru yn cyfrif am 1 o bob 4 taith yng Nghymru yn 2022. Dyma batrwm tebyg iawn i deithiau yng Nghymru yn 2021.

Ffigur 5: Nifer a chyfran y teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl grŵp oedran, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofn glystyrog yn dangos mai’r rheini rhwng 25 a 34 oed oedd y grŵp oedran mwyaf ymhlith ymwelwyr domestig i Gymru a Phrydain Fawr.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau gan bob grŵp oedran mewn miliynau. Er enghraifft, yn 2022, aeth ymwelwyr 45 i 54 oed ar 1.82 miliwn o deithiau i Gymru.

Roedd y teithiau i Gymru wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol grwpiau oedran, ond y rheini rhwng 25 a 34 oed oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o deithiau yng Nghymru yn 2022. Roedd ymwelwyr o’r grŵp oedran 55 oed neu hŷn yn cyfrif am gyfran uwch o ymwelwyr â Phrydain Fawr nag â Chymru. Roedd cynnydd yn y gyfran o ymwelwyr iau (rhwng 16-34) yn 2022, sef 50% o’r holl deithiau yng Nghymru o’i gymharu â 44% yn 2021.  Roedd nifer yr ymwelwyr â Chymru yn 3.0 o ymwelwyr ar gyfartaledd, o’i gymharu â 2.7 o ymwelwyr ar gyfer Prydain Fawr, ac roedd 36% o’r teithiau yng Nghymru yn cynnwys plant yn y grŵp o’i gymharu â 32% ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol.

Tabl 5: Nifer y teithiau dros nos, nosweithiau a gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl chwarter yr ymweliad, 2022
 Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth25.5775.21£6,085
Ebrill i Fehefin27.6785.16£7,175
Gorffennaf i Fedi 37.25123.16£10,259
Hydref i Ragfyr35.2399.74£9,363

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

Roedd cynnydd graddol o ran nifer y teithiau dros nos domestig ym Mhrydain Fawr o fis Ionawr 2022 ymlaen, gyda theithiau ar eu huchaf yn ystod y chwarter o fis Mehefin i fis Medi, sef y chwarter uchaf hefyd ar gyfer nosweithiau a arhoswyd a gwariant. Gostyngodd y teithiau yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr.

Tabl 6: Nifer y teithiau dros nos, nosweithiau a gwariant yng Nghymru yn ôl chwarter yr ymweliad, 2022
 Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth1.674.17£252
Ebrill i Fehefin2.085.95£413
Gorffennaf i Fedi2.789.72£637
Hydref i Ragfyr2.186.26£617

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), 2022

Yn debyg i'r patrwm ar draws Prydain Fawr, bu cynnydd graddol yn nifer y teithiau domestig dros nos yng Nghymru o fis Ionawr ymlaen, gyda theithiau ar eu huchaf rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, a chofnodwyd hefyd y nifer uchaf o nosweithiau a’r gwariant uchaf. Gostyngodd nifer y teithiau yn ystod chwarter olaf y flwyddyn, ond fe wnaethant aros yn uwch na'r lefelau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022.

Tueddiadau Teithiau ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr

Ffigur 6: Nifer y teithiau i Gymru mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofn glystyrog yn dangos nifer y teithiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda theithiau yn uwch ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Rhagfyr yn 2022 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Roedd cynnydd o 13% yn nifer y teithiau rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, gyda 7.02 miliwn o deithiau yng Nghymru, o'i gymharu â 6.21 miliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2021. Roedd y teithiau yn uwch ar gyfer chwarteri o fis Ebrill i fis Mehefin ac o fis Hydref i fis Rhagfyr yn 2022 na 2021, ond ar gyfer cyfnod brig yr haf o fis Gorffennaf i fis Medi, roedd nifer y teithiau yn uwch yn 2021 o'i gymharu â 2022.

Ffigur 7: Cyfanswm y gwariant ar deithiau yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart golofn glystyrog yn dangos y gwariant yng Nghymru ar gyfer pob chwarter yn cyrraedd brig rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Roedd cynnydd o 35% mewn gwariant i £1.666 biliwn a wariwyd ar deithiau yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022 o'i gymharu â £1.231 biliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2021. Roedd y gwariant yn uwch ar gyfer pob chwarter yn 2022 o'i gymharu â 2021.

Ffigur 8: Nifer y teithiau ym Mhrydain Fawr mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart golofn glystyrog yn dangos nifer y teithiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda theithiau'n uwch ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr yn 2022 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Roedd cynnydd o 16% yn nifer y teithiau rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, gyda 100.15 miliwn o deithiau ym Mhrydain, o'i gymharu ag 86.16 miliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2021. Roedd nifer y teithiau yn uwch ar gyfer chwarteri Ebrill i Fehefin a Hydref i Ragfyr yn 2022 na 2021, ond ar gyfer cyfnod brig yr haf o fis Gorffennaf i fis Medi roedd nifer y teithiau ychydig yn uwch ar gyfer 2021.

Ffigur 9: Cyfanswm y gwariant ar deithiau ym Mhrydain Fawr mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart golofn glystyrog yn dangos y gwariant ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter yn cyrraedd brig rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Roedd cynnydd o 35% mewn gwariant i £26.8 biliwn a wariwyd ar deithiau ym Mhrydain Fawr o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2022 o'i gymharu â £19.8 biliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2021. Roedd y gwariant yn uwch ar gyfer pob chwarter yn 2022 na 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

I gael ei hystyried yn Daith Ddomestig Dros Nos gymwys ym Mhrydain Fawr, roedd yn rhaid iddi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Roedd y daith yn cynnwys aros am o leiaf un noson yn un neu fwy o wledydd Prydain Fawr; Cymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Nid yw’r daith yn digwydd yn rheolaidd (yn llai aml nag unwaith yr wythnos).
  • Ar gyfer Teithiau Gwyliau Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd gwyliau, pleser neu hamdden.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ymweld â ffrindiau a pherthnasau, gan gynnwys teithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau a oedd wedi’u cyfuno â gwyliau.
  • Ar gyfer Teithiau Busnes Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer busnes.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos Amrywiol/Eraill ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer math arall o daith nad yw’r dosbarthiadau uchod yn ymdrin â hi, gan gynnwys digwyddiadau personol, digwyddiadau cyhoeddus, neu ar gyfer astudio, dibenion meddygol, crefyddol, neu unrhyw arhosiad dros nos ym Mhrydain Fawr fel rhan o daith dramor.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o nifer y teithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn mynd arnynt os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant sy’n gysylltiedig â nifer yr ymweliadau dros nos a fyddai’n cael eu gwneud gan y boblogaeth os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Nifer y nosweithiau gwely

Amcangyfrif o faint o nosweithiau ar deithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn eu treulio os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg GBTS/GBDVS cyfun newydd i gyd-fynd â safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon twristiaeth ddomestig dros nos a gyhoeddwyd ar gyfer 2022 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o’r gofynion a’r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristiaeth ddomestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn diogelu’r dulliau casglu data yn y dyfodol, gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a adroddir.  O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfun newydd sy’n casglu data am deithiau domestig dros nos yn ogystal â theithiau undydd domestig. Mae hyn yn newid sylfaenol o ran y ffordd mae data’n cael eu casglu ar gyfer ymweliadau dros nos, gan gynnwys newid o ddefnyddio’r dull arolwg blaenorol wyneb yn wyneb yn y cartref a dechrau defnyddio arolwg cyfun newydd ar-lein sy’n cynnwys teithiau dros nos domestig a theithiau undydd domestig.

Mae’r sampl ar gyfer yr arolwg cyfun ar-lein newydd yn ddyluniad nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd a gafwyd gan 4 darparwr panel ar-lein sydd wedi’u hachredu gan ESOMAR ac mae’n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn gwneud y sampl gyfan mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Maint y sampl blynyddol targed ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 60,000 o gyfweliadau wedi’u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg newydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2022, a chynhaliwyd 61,610 o gyfweliadau ar gyfer trigolion Prydain Fawr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022, gan gynnwys 7,877 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru. Nid yw pob person sy’n cael ei gyfweld wedi bod ar daith dros nos gymwys, ac felly mae meintiau’r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau. Mae meintiau sylfaen yn cael eu cyhoeddi yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Fel rhan o’r newidiadau i’r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoli diwygiedig i wella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae defnyddio sampl ar-lein nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu i ba raddau y mae’r ymatebion i’r arolwg yn wirioneddol gynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr, sy’n gyfyngiad ar arolygon sampl tebyg ar-lein. Mae’r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi’i fapio i raddau cymdeithasol bras ar gyfer ystadegau poblogaeth, at ddibenion cwotâu a phwysoliad i boblogaeth Prydain Fawr. Bydd newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau’r boblogaeth yn effeithio ar amcangyfrif ac adrodd ar deithiau o’i gymharu â’r adroddiadau blaenorol ar y radd gymdeithasol a ddefnyddiwyd ar gyfer GBTS yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ac ail-raddnodi ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer twristiaeth ddomestig dros nos wedi cael eu casglu mewn ffordd debyg iawn ers 1989. Fodd bynnag, mae’r newidiadau ym methodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â’r ymyriadau o ran casglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o’r arolwg, gofynnir i ymatebwyr am unrhyw deithiau dros nos maent wedi bod arnynt yn ystod y 4 wythnos lawn cyn dyddiad y cyfweliad (cyfnod cyfeirio).  Adroddir ar amcangyfrifon o deithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio’r cyfweliad yn cyfateb yn union â’r misoedd calendr, gwneir addasiad gan ddefnyddio ‘ffactor llyfnhau tymhorol’ i wella cymariaethau misol o fewn a rhwng blynyddoedd. Mae’r amcangyfrifon misol yn amodol ar gyfyngiadau ar faint y samplau ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau yn ystod y flwyddyn. Byddai unrhyw gyfyngiadau teithio a oedd ar waith oherwydd COVID-19 ar wahanol adegau o’r flwyddyn hefyd wedi dylanwadu ar y patrwm ymweliadau misol yn 2022. Cynghorir bod defnyddwyr yn ymwybodol o’r cyfyngiadau hyn wrth gymharu o fis i fis.

Cywirdeb

Mae’r ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol, sy’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod yr ystadegau’n cael eu cynhyrchu i’r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, fel y nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, mae canlyniadau’r arolwg ar gyfer 2021 wedi cael eu labelu fel ‘ystadegau arbrofol’ (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r arolwg a’r ystadegau newydd wedi dilyn rhaglen gynhwysfawr o sicrhau ansawdd gan gynnwys treialu’r arolwg, dadansoddi newidiadau i’r diffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygu’r capiau a’r rheolau cyfrifyddu. Mae newidiadau i fethodoleg ac amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a ddarparwyd gan Wasanaeth Cynghori Methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r GBTS eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir capiau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Mae rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a maint sylfaen teithiau ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro’r galw ym maes twristiaeth ddomestig ac i fesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Un o brif ddibenion yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau yn y farchnad dros amser.

Cyn belled ag y bo modd, mae’r arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd yn darparu cysondeb â’r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cynnwys gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir, dulliau archebu a phroffiliau ymatebwyr, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i wahanol ddefnyddwyr yr arolwg. Mae’r holiadur presennol wedi’i gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth newydd am yr arolwg yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a’r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y calendr sydd i ddod. Hefyd, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohirio. Rydym yn anelu at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod ymchwil perthnasol. Mae tarfu ar yr arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd oherwydd COVID-19 a phrofion cynhwysfawr a sicrhau ansawdd yr ystadegau newydd wedi golygu bod yr adroddiadau ar ystadegau 2022 yn hwyrach na’r arfer. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn sicrhau bod amcangyfrifon yn cael eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gyfer Cymru tua 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio teithiau 4 wythnos yr arolwg ac i ganiatáu ar gyfer amserlenni adrodd a sicrhau ansawdd.

Further information

Manylion cyswllt

Ystadegydd: David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 71/2023