Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau twristiaeth domestig dros nos gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer prif ddiben teithiau dros nos; gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a theithiau busnes, gyda'r diffiniadau ar gyfer pob un o'r rhain yn yr adran berthnasol o'r adroddiad hwn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion am deithiau dros nos yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu. Mae canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban yn cael eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser.  Mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Cyfeiriwch at yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Teithiau yng Nghymru

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 1.74 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 5.05 miliwn o nosweithiau a gwario £341 miliwn yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 29% o deithiau dros nos yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn yn deithiau gwyliau, roedd 31% yn deithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, roedd 8.5% at ddibenion busnes ac roedd 32% at ddibenion amrywiol.
  • Roedd tua 7% o’r holl deithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, tra bod cyfran cyfanswm nosweithiau ym Mhrydain Fawr hefyd yn 7% a chyfran y gwariant yn is ar 5%.
  • Cyfartaledd hyd teithiau yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd oedd 2.9  noson gyda gwariant cyfartalog o £196 fesul taith.
  • O'i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y teithiau yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 4% yn uwch, tra bod y gwariant 35% yn uwch.

Teithiau ym Mhrydain Fawr

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 23.78 miliwn o deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 68.3 miliwn o nosweithiau a gwario £6.3 biliwn yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 24% o deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn yn deithiau gwyliau, roedd 42% yn deithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, roedd 7% at ddibenion busnes ac roedd 27% at ddibenion amrywiol.
  • Roedd 85% o’r teithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yn Lloegr, roedd 12% yn cynnwys aros dros nos yn yr Alban ac roedd 7% yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru.
  • Cyfartaledd hyd teithiau ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod adrodd oedd 2.9 noson gyda gwariant cyfartalog o £266 fesul taith.
  • O'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y teithiau ym Mhrydain  Fawr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 7% yn is, tra bod y gwariant 4% yn uwch.

Teithiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, Ionawr i Fawrth 2023

Tabl 1: Cyfanswm nifer y teithiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, Ionawr i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
 LloegrYr AlbanCymru
Teithiau (miliynau)20.262.741.74
% Teithiau ym Mhrydain Fawr 85%12%7%
Nosweithiau (miliynau)56.386.915.05
% Nosweithiau ym Mhrydain Fawr83%10%7%
Gwariant (£ miliynau)£5,335£641£341
% Gwariant ym Mhrydain Fawr84%10%5%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fawrth 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Yn y cyfnod rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Mawrth 2023, aeth trigolion Prydain ar 23.78 miliwn o deithiau dros nos gyda chyfanswm o 68.34 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £6.32 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, roedd 1.74 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru gyda chyfanswm o 5.05 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £341 miliwn. Roedd tua 7% o holl deithiau domestig dros nos trigolion Prydain yn deithiau yng Nghymru, o’i gymharu ag 85% yn Lloegr a 12% yn yr Alban, yn debyg i gyfrannau’r teithiau a adroddwyd yn 2022.  Roedd cyfran y nosweithiau ym Mhrydain Fawr a dreuliwyd yng Nghymru yn 7%, ac roedd cyfran y gwariant yn 5%, yn debyg i’r cyfrannau a adroddwyd yn 2022.

Tabl 2: Teithiau, nosweithiau a gwariant i Gymru a Phrydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad, Ionawr i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Pob PwrpasTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
GwyliauTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Ymweld â ffrindiau a pherthnasau Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
BusnesTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Amrywiol/arallTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Prydain Fawr23.7868.34£6,316
Cymru1.745.05£341
Prydain Fawr5.7317.72£1,812
Cymru0.501.22£115
Prydain Fawr9.9630.10£1,872
Cymru0.542.06£75
Prydain Fawr1.625.13£686
Cymru0.150.63£21
Prydain Fawr6.4715.38£1,947
Cymru0.551.14£129

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fawrth 2023

Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer teithiau busnes i Gymru, dylid trin y data’n ofalus

Ffigur 1: Cyfran y teithiau, y nosweithiau a’r gwariant yng Nghymru yn ôl prif bwrpas y daith, Ionawr i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far glystyrog yn dangos cyfrannau tebyg o wyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a theithiau amrywiol gan drigolion Prydain Fawr a aeth ar deithiau i Gymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fawrth 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau ar gyfer nosweithiau yng Nghymru yn dod i gyfanswm o 100% oherwydd mater talgrynnu.

Roedd cyfran gymharol debyg o deithiau yng Nghymru ar gyfer gwyliau (29%), ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau (31%) ac at ddibenion amrywiol (32%) rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.  Roedd teithiau amrywiol yn cyfrif am gyfran llawer uwch o deithiau yn chwarter cyntaf 2023 o'i gymharu â mis Ionawr i fis Mawrth 2022. Mae teithiau at ddibenion ‘amrywiol’ yn cynnwys ystod eang o deithiau (gweler yr adran diffiniadau), ond y nifer fwyaf o deithiau amrywiol yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 oedd teithiau tramor a oedd yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru (14%), teithiau ar gyfer digwyddiad personol (9%) a theithiau ar gyfer digwyddiad cyhoeddus (4%).

Nodweddion teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru

Tabl 3: Hyd arhosiad a gwariant cyfartalog ar gyfer prif bwrpas teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru, Ionawr i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Pob PwrpasPrydain FawrCymru
GwyliauPrydain FawrCymru
Ymweld â Ffrindiau a PherthnasauPrydain FawrCymru
BusnesPrydain FawrCymru
Gwariant fesul taith ££266£196
Gwariant fesul noson ££92£67
Nosweithiau fesul taith2.92.9
Gwariant fesul taith ££316£231
Gwariant fesul noson £102£95
Nosweithiau fesul taith3.12.4
Gwariant fesul taith ££188£140
Gwariant fesul noson £62£37
Nosweithiau fesul taith3.03.8
Gwariant fesul taith ££423£142
Gwariant fesul noson £134£33
Nosweithiau fesul taith3.24.3

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fawrth 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer teithiau busnes i Gymru, dylid trin y data’n ofalus.

Hyd cyfartalog y teithiau yng Nghymru a Phrydain Fawr yn gyffredinol oedd 2.9 noson, ychydig yn is na'r cyfartaledd ar gyfer 2022 gyfan, sef 3.0 noson. Mae'r gwariant fesul taith a’r gwariant fesul noson ar deithiau yng Nghymru yn is nag ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol, sy’n gyson â'r canfyddiadau ar gyfer 2022. Mae'r gwariant cyfartalog fesul taith i Gymru yn ystod chwarter cyntaf 2023 yn llawer uwch na'r lefel ar gyfer yr un cyfnod yn 2022, gan barhau â'r duedd gyffredinol o gynyddu gwariant ar deithiau a wnaed. Mae'r gwariant cyfartalog fesul noson ar ei uchaf ar gyfer teithiau gwyliau yng Nghymru, tra ei fod ar ei uchaf ar gyfer teithiau busnes ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol yn ystod y cyfnod adrodd.

Tueddiadau teithiau ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr

Ffigur 2: Nifer y teithiau i Gymru mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofn glystyrog yn dangos nifer y teithiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda’r teithiau’n uwch ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Roedd cynnydd o 4% yn nifer y teithiau rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gyda 1.74 miliwn o deithiau yng Nghymru, o'i gymharu â 1.67 miliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2022.

Ffigur 3: Cyfanswm y gwariant ar deithiau yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn glystyrog yn dangos y gwariant ar deithiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda’r gwariant yn uwch ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Roedd cynnydd o 35% mewn gwariant ar deithiau dros nos yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gyda £341 miliwn wedi’i wario, o'i gymharu â £252 miliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2022.

Ffigur 4: Nifer y teithiau dros nos ym Mhrydain Fawr mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofn glystyrog yn dangos nifer y teithiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda theithiau'n is ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Roedd gostyngiad o 7% yn nifer y teithiau rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gyda 23.78 miliwn o deithiau ym Mhrydain Fawr o'i gymharu â 25.57 miliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2022.

Ffigur 5: Cyfanswm y gwariant ar deithiau ym Mhrydain Fawr mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofn glystyrog yn dangos y gwariant ar deithiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda'r gwariant yn uwch ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Roedd cynnydd o 4% mewn gwariant ar deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gyda £6.32 biliwn yn cael ei wario, o'i gymharu â £6.01 biliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2022.

Proffil y teithiau yng Nghymru a Phrydain Fawr

Ffigur 6: Nifer a chyfran y teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl prif leoliad yr ymwelwyd ag ef, Ionawr i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofn glystyrog yn dangos mai teithiau i ddinasoedd mawr/trefi mawr oedd y gyfran fwyaf o deithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fawrth 2023

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau i bob prif leoliad mewn miliynau. Er enghraifft, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, roedd 0.42 miliwn o deithiau i leoliadau cefn gwlad / pentrefi yng Nghymru.

Roedd bron i 2 o bob 3 taith (63%) yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 i ddinas, tref fawr neu dref fach. Mewn cymhariaeth, roedd 72% o'r teithiau ar draws Prydain Fawr yn gyffredinol yn deithiau i'r cyrchfannau trefol hyn. Roedd 24% o'r teithiau yng Nghymru yn deithiau i gefn gwlad neu bentrefi, tra bod 13% o’r teithiau i lan y môr. Mae'r cymysgedd o leoliadau yr ymwelwyd â hwy yng Nghymru yn debyg iawn i'r un cyfnod yn 2022.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

I gael ei hystyried yn Daith Ddomestig Dros Nos gymwys ym Mhrydain Fawr, roedd yn rhaid iddi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Roedd y daith yn cynnwys aros am o leiaf un noson yn un neu fwy o wledydd Prydain Fawr; Cymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Nid yw’r daith yn digwydd yn rheolaidd (yn llai aml nag unwaith yr wythnos).
  • Ar gyfer Teithiau Gwyliau Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd gwyliau, pleser neu hamdden.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ymweld â ffrindiau a pherthnasau, gan gynnwys teithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau a oedd wedi’u cyfuno â gwyliau.
  • Ar gyfer Teithiau Busnes Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer busnes.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos Amrywiol/Eraill ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer math arall o daith nad yw’r dosbarthiadau uchod yn ymdrin â hi, gan gynnwys digwyddiadau personol, digwyddiadau cyhoeddus, neu ar gyfer astudio, dibenion meddygol, crefyddol, neu unrhyw arhosiad dros nos ym Mhrydain Fawr fel rhan o daith dramor.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o nifer y teithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn mynd arnynt os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant sy’n gysylltiedig â nifer yr ymweliadau dros nos a fyddai’n cael eu gwneud gan y boblogaeth os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Nifer y nosweithiau gwely

Amcangyfrif o faint o nosweithiau ar deithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn eu treulio os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg GBTS/GBDVS cyfun newydd i gyd-fynd â safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon twristiaeth ddomestig dros nos a gyhoeddwyd ar gyfer 2021, 2022 a 2023 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o’r gofynion a’r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristiaeth ddomestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn diogelu’r dulliau casglu data yn y dyfodol, gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a adroddir.  O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfun newydd sy’n casglu data am deithiau domestig dros nos yn ogystal â theithiau undydd domestig. Mae hyn yn newid sylfaenol o ran y ffordd mae data’n cael eu casglu ar gyfer ymweliadau dros nos, gan gynnwys newid o ddefnyddio’r dull arolwg blaenorol wyneb yn wyneb yn y cartref a dechrau defnyddio arolwg cyfun newydd ar-lein sy’n cynnwys teithiau dros nos domestig a theithiau undydd domestig.

Mae’r sampl ar gyfer yr arolwg cyfun ar-lein newydd yn ddyluniad nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd a gafwyd gan 4 darparwr panel ar-lein sydd wedi’u hachredu gan ESOMAR ac mae’n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn gwneud y sampl gyfan mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Maint y sampl blynyddol targed ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 60,000 o gyfweliadau wedi’u cwblhau. Nid yw pob person sy’n cael ei gyfweld wedi bod ar daith dros nos gymwys, ac felly mae meintiau’r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau.

Fel rhan o’r newidiadau i’r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoli diwygiedig i wella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae defnyddio sampl ar-lein nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu i ba raddau y mae’r ymatebion i’r arolwg yn wirioneddol gynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr, sy’n gyfyngiad ar arolygon sampl tebyg ar-lein. Mae’r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi’i fapio i raddau cymdeithasol bras ar gyfer ystadegau poblogaeth, at ddibenion cwotâu a phwysoliad i boblogaeth Prydain Fawr. Bydd newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau’r boblogaeth yn effeithio ar amcangyfrif ac adrodd ar deithiau o’i gymharu â’r adroddiadau blaenorol ar y radd gymdeithasol a ddefnyddiwyd ar gyfer GBTS yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ac ail-raddnodi ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer twristiaeth ddomestig dros nos wedi cael eu casglu mewn ffordd debyg iawn ers 1989. Fodd bynnag, mae’r newidiadau ym methodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â’r ymyriadau o ran casglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o’r arolwg, gofynnir i ymatebwyr am unrhyw deithiau dros nos maent wedi bod arnynt yn ystod y 4 wythnos lawn cyn dyddiad y cyfweliad (cyfnod cyfeirio).  Adroddir ar amcangyfrifon o deithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio’r cyfweliad yn cyfateb yn union â’r misoedd calendr, gwneir addasiad gan ddefnyddio ‘ffactor llyfnhau tymhorol’ i wella cymariaethau misol o fewn a rhwng blynyddoedd. Mae’r amcangyfrifon misol yn amodol ar gyfyngiadau ar faint y samplau ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau yn ystod y flwyddyn.

Cywirdeb

Mae’r ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol, sy’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod yr ystadegau’n cael eu cynhyrchu i’r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, fel y nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, mae canlyniadau’r arolwg ar gyfer 2021 wedi cael eu labelu fel ‘ystadegau arbrofol’ (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r arolwg a’r ystadegau newydd wedi dilyn rhaglen gynhwysfawr o sicrhau ansawdd gan gynnwys treialu’r arolwg, dadansoddi newidiadau i’r diffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygu’r capiau a’r rheolau cyfrifyddu. Mae newidiadau i fethodoleg ac amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a ddarparwyd gan Wasanaeth Cynghori Methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r GBTS eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir capiau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro’r galw ym maes twristiaeth ddomestig ac i fesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Un o brif ddibenion yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau yn y farchnad dros amser.

Cyn belled ag y bo modd, mae’r arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd yn darparu cysondeb â’r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cynnwys gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir, dulliau archebu a phroffiliau ymatebwyr, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i wahanol ddefnyddwyr yr arolwg. Mae’r holiadur presennol wedi’i gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth newydd am yr arolwg yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a’r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y calendr sydd i ddod. Hefyd, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohirio. Rydym yn anelu at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod ymchwil perthnasol. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn sicrhau bod amcangyfrifon yn cael eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gyfer Cymru tua 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio teithiau 4 wythnos yr arolwg ac i ganiatáu ar gyfer amserlenni adrodd a sicrhau ansawdd.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 72/2023