Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019. Darperir rhagor o wybodaeth yn adran methodoleg ac ansawdd y cyhoeddiad hwn ar newidiadau i'r arolwg sy'n cyfyngu ar y gallu i gymharu â'r amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Gwelwch yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth am ragor o wybodaeth.

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau undydd domestig a wnaed gan breswylwyr Prydain yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr o fis Ebrill i fis Mehefin 2023. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o ddechrau mis Ebrill tan ddiwedd mis Mehefin 2023. Mae'r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion teithiau undydd yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno adroddiad ar ddau brif fesur ar gyfer teithiau undydd.

Teithiau Hamdden Undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio yw'r rhain, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy.

Teithiau Twristaidd Undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel taith dwristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar ddiffiniadau.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Cyhoeddwyd Amcangyfrifon o deithiau undydd domestig i Gymru yn 2021, 2022 (Ystadegau Twristiaeth Ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd yng Nghymru): 2022) a Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd): Ionawr i Fawrth 2023, a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn. Dylid ystyried newidiadau mewn gwariant yng ngoleuni costau cynyddol, gan nad yw'r amcangyfrifon hyn wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Caiff canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Prif bwyntiau

Teithiau Cymru

  • O fis Ebrill i fis Mehefin 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 42.9 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru gyda £1.5 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 42% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristaidd undydd gyda 17.8 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud yn ail chwarter 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £835 miliwn.
  • Roedd tua 6% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a 6% o’r teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yng Nghymru. Roedd y gyfran o gyfanswm gwariant Prydain Fawr yn 6% ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy, a 7% ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Yn ystod ail chwarter 2023 roedd nifer y teithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy ar ei uchaf ym mis Mai, tra bod y gwariant ar y teithiau hyn ar ei uchaf ym mis Mehefin. Roedd nifer y teithiau a’r gwariant ar gyfer teithiau twristaidd undydd ar eu huchaf ym mis Mehefin.
  • Yn ystod ail chwarter 2023 roedd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru, o’i gymharu ag ail chwarter 2022. I’r gwrthwyneb, roedd nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru ychydig yn uwch yn ail chwarter 2023 o’i gymharu ag ail chwarter 2022.   
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £35 o gymharu â £47 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru.

Teithiau Prydain Fawr

  • Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 760.0 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr gyda £25.8 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 39% o'r teithiau hamdden undydd ym Mhrydain Fawr yn deithiau twristaidd undydd gyda 294.3 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud yn ail chwarter 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £12.0 biliwn.
  • Yn ystod ail chwarter 2023 roedd nifer y teithiau a’r gwariant ar eu huchaf ym mis Mehefin, ar gyfer teithiau hamdden a barodd 3 awr neu fwy ac ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Roedd nifer y teithiau undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ail chwarter 2023 yn uwch nag yn ystod ail chwarter 2022, ar gyfer teithiau hamdden a barodd 3 awr neu fwy ac ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £34 o gymharu â £41 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr.

Teithiau a gwariant i wledydd Prydain Fawr

Tabl 1: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a gwariant i wledydd Prydain Fawr a Chymru: mis Ebrill i fis Mehefin 2023 [Nodyn 1]
Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy Prydain Fawr Lloegr Yr Alban Cymru
Teithiau (miliynau) 760.0 655.9 70.3 42.9
% Teithiau Prydain Fawr 100% 86% 9% 6%
Gwariant (£ miliynau) £25,836 £22,091 £2,231 £1,515
% Gwariant Prydain Fawr 100% 86% 9% 6%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ebrill i fis Mehefin 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau hamdden undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Tabl 2: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a gwariant i wledydd Prydain Fawr a Chymru: mis Ebrill i fis Mehefin 2023 [Nodyn 1]
Teithiau Twristaidd Undydd Prydain Fawr Lloegr Yr Alban Cymru
Teithiau (miliynau) 294.3 257.5 21.7 17.8
% Teithiau Prydain Fawr 100% 87% 7% 6%
Gwariant (£ miliynau) £11,970 £10,231 £904 £835
% Gwariant Prydain Fawr 100% 85% 8% 7%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ebrill i fis Mehefin 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau twristaidd undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

O fis Ebrill i fis Mehefin 2023, cafodd 760.0 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud ym Mhrydain Fawr gan breswylwyr Prydain gyda chyfanswm gwariant o £25.8 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 42.9 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud yng Nghymru gyda chyfanswm gwariant o £1.5 biliwn. Cafodd tua 6% o'r holl deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy gan breswylwyr Prydain eu gwneud yng Nghymru, o gymharu ag 86% a wnaed yn Lloegr a 9% a wnaed yn yr Alban. Roedd cyfran cyfanswm y gwariant yng Nghymru yn 6%.

Cafodd 294.3 miliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr eu gwneud gan breswylwyr Prydain yn ail chwarter 2023, gyda chyfanswm gwariant o £12.0 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 17.8 miliwn o deithiau twristaidd undydd eu gwneud yng Nghymru gyda gwariant o £835 miliwn. Roedd teithiau twristaidd undydd yn cyfrif am 42% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru a 55% o'r gwariant.

Tabl 3: Gwariant cyfartalog ar gyfer teithiau undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru, mis Ebrill i fis Mehefin 2023
Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy  Prydain Fawr Cymru
Gwariant fesul taith £34 £35
Teithiau twristaidd undydd Prydain Fawr Cymru
Gwariant fesul taith £41 £47

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ebrill i fis Mehefin 2023

Mae gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru ychydig yn uwch na Phrydain Fawr gyda gwariant cyfartalog fesul taith o £35 a £47, yn y drefn honno. Yn arbennig, ceir gwariant cyfartalog uwch ar deithiau twristaidd undydd na theithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Roedd gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru yn ail chwarter 2023 yn uwch nag yn ail chwarter 2022, pan oedd gwariant cyfartalog o £26 fesul taith ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru. Yn yr un modd, roedd y gwariant cyfartalog ar deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn uwch yn ystod ail chwarter 2023, o’i gymharu ag ail chwarter 2022, pan oedd y gwariant cyfartalog fesul taith ar deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn £38. Mae’r gwariant uwch ar deithiau twristaidd undydd yn ail chwarter 2023 o ganlyniad i’r gwariant ar deithiau a wnaed ym mis Mehefin 2023.

Gweithgareddau a wnaed

Tabl 4: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau, mis Ebrill i fis Mehefin 2023 [Nodyn 1]
Y prif weithgaredd a wnaed Teithiau Prydain Fawr Teithiau Cymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau  258.6 14.2
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol  94.3 5.7
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored 73.0 4.2
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd 48.0 4.0
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu  39.1 3.9
Cymryd rhan mewn hobïau neu ddiddordebau  81.1 3.6
Mynd i atyniad i ymwelwyr  72.1 2.9
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig 47.8 2.4
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant 15.7 0.7
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant  10.1 0.6
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod  20.2 0.7

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ebrill i fis Mehefin 2023

[Nodyn 1] Roedd y samplau ar gyfer ‘Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant’, ‘Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod’, ‘Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant’ a ‘Mynd i atyniad i ymwelwyr’ yn fach – dylid trin y data’n ofalus.

Ffigur 1: Canran y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, mis Ebrill i fis Mehefin 2023

Image

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ebrill i fis Mehefin 2023

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Roedd 33% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru a 34% o’r teithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Yr ail brif weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru oedd bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol – dyma oedd y prif weithgaredd ar 13% o deithiau a wnaed yng Nghymru. Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored oedd y prif weithgaredd mwyaf poblogaidd nesaf – dyma oedd y prif weithgaredd ar 10% o deithiau yng Nghymru, tra bod cymryd rhan mewn hobïau neu ddiddordebau y trydydd gweithgaredd mwyaf poblogaidd ar gyfer teithiau ym Mhrydain Fawr.

Tueddiadau teithiau ar gyfer Prydain Fawr a Chymru

Tabl 5: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a’r gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mehefin 2023
Mis yr ymweliad Teithiau Prydain Fawr (miliynau) Gwariant Prydain Fawr (£ miliynau)
Ionawr 221.7 £7,450
Chwefror 217.3 £7,584
Mawrth 237.4 £9,818
Ebrill 249.0 £7,809
Mai 250.7 £8,180
Mehefin 260.3 £9,847

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2023

Ffigur 2: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Image

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofn yn dangos ar draws ail chwarter 2023 bod niferoedd misol y teithiau twristaidd undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr yn uwch na niferoedd misol y teithiau yn ail chwarter 2022, gyda niferoedd y teithiau ar eu huchaf ym mis Mehefin.

Yn ail chwarter 2023, ym mis Mehefin roedd y nifer uchaf o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy, gyda 260.3 miliwn o deithiau wedi’u gwneud ym Mhrydain Fawr. Creodd y teithiau hyn dros £9.8 biliwn o wariant, ac ym mis Mehefin roedd y gwariant uchaf ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr yn ail chwarter 2023. Roedd nifer y teithiau yn ystod ail chwarter 15% yn uwch na nifer y teithiau ar gyfer yr un cyfnod yn 2022, ac roedd gwariant 7% yn uwch.

Tabl 6: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a’r gwariant yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mehefin 2023
Mis yr ymweliad Teithiau yng Nghymru (miliynau) Gwariant yng Nghymru (£ miliynau)
Ionawr 13.3 £320
Chwefror 12.1 £353
Mawrth 18.0 £558
Ebrill 13.6 £494
Mai 16.0 £462
Mehefin 13.3 £559

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2023

Ffigur 3: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Image

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn yn dangos er bod nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru ym mis Mai 2023 yn uwch na’r niferoedd ar gyfer mis Mai 2022, roedd nifer y teithiau ym mis Ebrill a mis Mehefin 2023 yn is nag ym mis Ebrill a mis Mehefin 2022.

Gwnaed 16.0 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru yn ystod mis Mai 2023, gan olygu mai ym mis Mai roedd nifer uchaf teithiau o’r fath yn ail chwarter 2023. Gan wrthgyferbynnu â hynny, ym mis Mehefin roedd y gwariant uchaf, gyda £559 miliwn yn cael ei greu gan y teithiau hyn. Roedd nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru yn ystod ail chwarter 2023 9% yn is na nifer teithiau o’r fath a wnaed yng Nghymru yn ail chwarter 2022, ac roedd y gwariant 23% yn uwch. Dylid ystyried newidiadau mewn gwariant yng ngoleuni costau cynyddol, gan nad yw'r amcangyfrifon hyn wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant.

Tabl 7: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a’r gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mehefin 2023
Mis yr ymweliad Teithiau ym Mhrydain Fawr (miliynau) Gwariant ym Mhrydain Fawr (£ miliynau)
Ionawr 78.3 £3,015
Chwefror 78.7 £3,266
Mawrth 82.7 £4,137
Ebrill 99.7 £3,597
Mai 89.6 £3,743
Mehefin 105.0 £4,630

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2023

Ffigur 4: Nifer y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Image

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofn yn dangos, yn ystod ail chwarter 2023, fod nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr bob mis yn uwch na nifer y teithiau bob mis yn ail chwarter 2022, gyda niferoedd ar eu huchaf ym mis Mehefin.

Gwnaed 105.0 miliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn ystod mis Mehefin 2023. Roedd gwariant hefyd ar ei uchaf ym mis Mehefin, gyda gwariant o £4.6 biliwn yn cael ei wneud ar ymweliadau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr. Roedd nifer y teithiau yn ystod ail chwarter 2023 12% yn uwch na nifer y teithiau yn yr un cyfnod yn 2022, ac roedd gwariant 5% yn uwch.

Tabl 8: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a’r gwariant yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mehefin 2023
Mis yr ymweliad Teithiau yng Nghymru (miliynau) Gwariant yng Nghymru (£ miliynau)
Ionawr 3.2 £88
Chwefror 2.7 £110
Mawrth 5.1 £267
Ebrill 5.2 £229
Mai 6.1 £261
Mehefin 6.5 £345

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2023

Ffigur 5: Nifer y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Image

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mehefin 2022 a 2023

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofn yn dangos er bod nifer yr ymweliadau twristaidd undydd yng Nghymru ym mis Mehefin 2023 yn is nag ym mis Mehefin 2022, roedd nifer y teithiau ar gyfer mis Ebrill a mis Mai 2023 yn uwch nag ym mis Ebrill a mis Mai 2022.

Roedd nifer y teithiau undydd a’r gwariant a grëwyd gan deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn ystod ail chwarter 2023 ar eu huchaf ym mis Mehefin, gyda 6.5 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud a £345 miliwn yn cael ei wario yn ystod y cyfnod hwn. Roedd nifer y teithiau yn ystod ail chwarter 2023 1% yn uwch na’r un cyfnod yn 2022, ond roedd y gwariant 24% yn uwch.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Defnyddir dau brif fesur ar gyfer teithiau undydd yn yr adroddiad hwn.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy. Ni chaiff unrhyw deithiau dros nos eu cynnwys, na theithiau dydd o leoliad llety gwyliau.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel teithiau twristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo. Mae'r gofyniad i deithio i awdurdod lleol gwahanol yn cwmpasu'r rhan fwyaf o weithgareddau ac eithrio teithiau lle mai'r prif weithgaredd yw gwylio digwyddiadau chwaraeon byw, mynd i atyniadau i ymwelwyr neu fynd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn gymwys fel ymweliadau twristaidd undydd hyd yn oed os cânt eu gwneud yn yr un awdurdod lleol.

Gweithgareddau hamdden cymwys

  • Ymweld â ffrindiau neu berthnasau
  • Mynd i atyniad i ymwelwyr, fel tŷ hanesyddol, parc thema neu amgueddfa
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored
  • Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd
  • Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau
  • Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant
  • Mynd i ddigwyddiad neu ddathliad arbennig (fel priodas neu ben-blwydd)
  • Mynd i ddigwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu (fel arddangosfa neu chwaraeon byw)
  • Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant (fel amgueddfa)
  • Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o beth fyddai nifer gros y teithiau undydd a wneir gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o beth fyddai cyfanswm y gwariant ar deithiau undydd gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg cyfunol newydd Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr/Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr er mwyn bod yn gyson â'r safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon o'r teithiau domestig undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2023 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o'r gofynion a'r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristaidd domestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn sicrhau bod y dulliau casglu data yn addas ar gyfer y dyfodol, ond gan gynnal dibynadwyedd a chadernid y wybodaeth a gyflwynir. O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfunol newydd a oedd yn casglu data ar deithiau dros nos domestig, yn ogystal â theithiau dydd domestig.

Mae'r sampl ar gyfer yr arolwg ar-lein cyfunol newydd wedi'i dylunio heb ystyried tebygolrwydd ac fe'i darparwyd gan 4 darparwr panel ar-lein a achredwyd gan ESOMAR. Mae'n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn sicrhau bod y sampl gyffredinol yn cynrychioli poblogaeth Prydain Fawr cystal â phosibl. Maint y sampl flynyddol darged ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 35,000 o gyfweliadau wedi'u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg newydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2023 a nifer y cyfweliadau a gyflawnwyd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023 yw 9,390 o gyfweliadau ar gyfer preswylwyr Prydain Fawr, gan gynnwys 1,021 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru. Ni fydd pob unigolyn y cyfwelir ag ef wedi gwneud taith undydd gymwys, felly, mae maint y samplau ar gyfer teithiau cymwys a wnaed a ddefnyddiwyd i amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau.

Maint y samplau: Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Y wlad yr ymwelwyd â hi

Ebrill 2023

Mai 2023

Mehefin 2023

Cyfanswm Chwarter 2

Prydain Fawr

3,119

2,380

3,059

8,558

Cymru

359

239

303

901

Maint y samplau: Teithiau twristaidd undydd

Y wlad yr ymwelwyd â hi

Ebrill 2023

Mai 2023

Mehefin 2023

Cyfanswm Chwarter 2

Prydain Fawr

1,196

842

1,216

3,254

Cymru

126

88

123

337

Darperir meintiau sampl eraill ar gyfer 2023 yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS, a gyhoeddir yn gynnar yn 2024.

Fel rhan o'r newidiadau i'r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoliad diwygiedig i wella effeithlonrwydd, ac i wneud y canlyniadau mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'r defnydd o sampl ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu ar y graddau y mae ymatebion yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth lawn Prydain Fawr, cyfyngiad sy'n gyffredin i arolygon sampl ar-lein tebyg. Mae'r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi'i fapio i raddau cymdeithasol bras at ddiben cwotâu a phwysoliadau mewn perthynas â phoblogaeth Prydain Fawr. Bydd y newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau'r boblogaeth yn effeithio ar y broses o amcangyfrif a chyflwyno adroddiadau ar deithiau o gymharu â'r dull adrodd graddau cymdeithasol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol. Rydym yn dal i asesu effaith y newidiadau hyn, ac mae'n bosibl y bydd y broses hon yn arwain at ailgyhoeddi'r ystadegau ar gyfer 2021. Rydym wedi cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau a gymerwyd gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer teithiau undydd Prydain Fawr wedi cael eu casglu mewn ffordd gymharol debyg ers 2011. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Roedd yr amcangyfrifon o niferoedd o 2021 ymlaen yn cynnwys teithiau gan oedolion Prydain Fawr a phlant a oedd yn teithio gyda nhw, ond teithiau gan oedolion yn unig oedd yn cael eu hamcangyfrif gan nifer y teithiau undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o'r arolwg, gofynnwyd i ymatebwyr am unrhyw deithiau undydd a wnaed ganddynt yn ystod y 7 diwrnod cyn dyddiad eu cyfweliad (cyfnod cyfeirio). Cyflwynir amcangyfrifon teithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol, yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio cyfweliadau yn cyfateb yn union â misoedd calendr, caiff addasiad ei wneud gan ddefnyddio ‘ffactor lliniaru tymhorol’ i wella'r cymariaethau misol o fewn blynyddoedd a rhyngddynt. Mae'r amcangyfrifon misol yn destun cyfyngiadau o ran maint y sampl ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau a wneir drwy gydol y flwyddyn. Bydd unrhyw gyfyngiadau yn sgil COVID-19 (Senedd Cymru) hefyd wedi dylanwadu ar batrwm misol yr ymweliadau yn 2021 a wnaeth gyfyngu ar deithio ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, yn ogystal â hyder y cyhoedd i ymgymryd â gweithgareddau hamdden gwahanol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau hyn wrth wneud cymariaethau misol neu chwarterol.

Cywirdeb

Cafodd yr ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol eu dynodi'n ystadegau swyddogol, sy'n rhoi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr y caiff yr ystadegau eu cynhyrchu i'r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Ystadegau Gwladol) Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, cafodd canlyniadau'r arolwg ar gyfer 2021, 2022 a 2023 eu labelu fel ystadegau arbrofol’ (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r arolwg a'r ystadegau newydd wedi bod yn destun rhaglen gynhwysfawr o waith sicrhau ansawdd, sy'n cynnwys treialu'r arolwg, dadansoddi newidiadau i ddiffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygiad o derfynau a rheolau priodoli. Mae newidiadau i fethodoleg a dulliau amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a roddwyd gan Wasanaeth Ymgynghori ar Fethodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir terfynau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Darperir rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a meintiau sylfaen teithiau yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Bydd yr amcangyfrifon ar gyfer 2021 yn rhoi gwybodaeth am effaith COVID-19 ar lefelau ymwelwyr ac yn darparu llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad ar draws blynyddoedd dilynol.

Cyn belled â phosibl, mae arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn darparu cysondeb â'r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cofnodi gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir a phroffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd y wybodaeth ychwanegol hon o werth i ddefnyddwyr amrywiol yr arolwg. Caiff yr holiadur presennol ei gynnwys yn adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau er mwyn cadarnhau bod y wybodaeth o'r arolwg newydd yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a'r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r holl allbynnau yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi dyddiad y cyhoeddiad ymlaen llaw drwy'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau. Anelwn at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser ymchwil perthnasol. Mae'r tarfu a fu ar arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr oherwydd COVID-19 a'r profion cynhwysfawr a'r dulliau sicrhau ansawdd a roddwyd ar waith ar gyfer yr ystadegau newydd wedi arwain at gyflwyno adroddiad ar ystadegau 2021, 2022 a 2023 yn hwyrach na'r arfer. Bydd canlyniadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol er mwyn sicrhau y caiff yr amcangyfrifon eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol i Gymru ryw 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Siân Hughes
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 78/2023