Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiwyd rhai o’r amcangyfrifon yn y cyhoeddiad hwn o ganlyniad i gamgymeriad cyfrifo. Lle mae ffigur wedi’i ddiwygio, nodir hynny gyda (r).

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019. Darperir rhagor o wybodaeth yn adran methodoleg ac ansawdd y cyhoeddiad hwn ar newidiadau i'r arolwg sy'n cyfyngu ar y gallu i gymharu â'r amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Gwelwch yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth am ragor o wybodaeth.

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau undydd domestig a wnaed gan breswylwyr Prydain yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr o fis Ionawr i fis Mawrth 2023. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o ddechrau mis Ionawr tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae'r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion teithiau undydd yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno adroddiad ar ddau brif fesur ar gyfer teithiau undydd.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio yw'r rhain, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel taith dwristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar ddiffiniadau.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Cyhoeddwyd Amcangyfrifon o deithiau undydd domestig i Gymru yn 2021 a Ystadegau Twristiaeth Ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd yng Nghymru): 2022, a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Caiff canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Prif bwyntiau

Teithiau Cymru

  • O fis Ionawr i fis Mawrth 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 43.5 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru gyda £1.23 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 25% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristaidd undydd gyda 11.0 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud yn chwarter cyntaf 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £465 miliwn.
  • Roedd tua 6% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a 5% o’r teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yng Nghymru. Roedd y gyfran o gyfanswm gwariant Prydain Fawr yn 5% ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy, a 4% ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Yn ystod chwarter cyntaf 2023 roedd nifer y teithiau a’r gwariant ar eu huchaf ym mis Mawrth ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ac ar gyfer teithiau twristaidd undydd.   
  • Yn ystod chwarter cyntaf 2023 roedd cynnydd bach yn nifer yr ymweliadau hamdden undydd tair awr neu fwy a wnaed yng Nghymru, o’i gymharu â chwarter cyntaf 2022. I’r gwrthwyneb, roedd nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn is yn chwarter cyntaf 2023 o’i gymharu â chwarter cyntaf 2022.   
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £28 o gymharu â £42 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru.

Teithiau Prydain Fawr

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 676.4 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr gyda £24.9 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 35% o'r teithiau hamdden undydd ym Mhrydain Fawr yn deithiau twristaidd undydd gyda 239.7 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud yn chwarter cyntaf 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £10.4 biliwn.
  • Yn ystod chwarter cyntaf 2023 roedd nifer y teithiau a’r gwariant ar eu huchaf ar gyfer teithiau hamdden a barodd 3 awr neu fwy ac ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Roedd nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr yn chwarter cyntaf 2023 yn uwch nag yn ystod chwarter cyntaf 2023, ar gyfer teithiau hamdden a barodd 3 awr neu fwy ac ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Nifer y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £37 o gymharu â £43 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr.

Teithiau a gwariant i wledydd Prydain Fawr

Tabl 1: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a gwariant i wledydd Prydain Fawr a Chymru: mis Ionawr i fis Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Prydain Fawr

Lloegr

Yr Alban

Cymru

Teithiau (miliynau)

676.4

567.3

71.6

43.5

% Teithiau Prydain Fawr

100%

84%

11%

6%

Gwariant (£miliynau)

£24,852

£21,051

£2,569

£1,232

% Gwariant Prydain Fawr

100%

85%

10%

5%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau hamdden undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Tabl 2: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a gwariant i wledydd Prydain Fawr a Chymru: mis Ionawr i fis Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Teithiau twristaidd Undydd

Prydain Fawr

Lloegr

Yr Alban

Cymru

Teithiau (miliynau)

239.7

209.9

20.6

11.0

% Teithiau Prydain Fawr

100%

88%

9%

5%

Gwariant (£miliynau)

£10,417

£8,996

£956

£465

% Gwariant Prydain Fawr

100%

86%

9%

4%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau twristaidd undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

O fis Ionawr i fis Mawrth 2023, cafodd 676.4 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud ym Mhrydain Fawr gan breswylwyr Prydain gyda chyfanswm gwariant o £24.9 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 43.5 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud yng Nghymru gyda chyfanswm gwariant o £1.23 biliwn. Cafodd tua 6% o'r holl deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy gan breswylwyr Prydain eu gwneud yng Nghymru, o gymharu ag 84% a wnaed yn Lloegr a 10% a wnaed yn yr Alban. Roedd cyfran cyfanswm y gwariant yng Nghymru yn 5%.

Cafodd 239.7 miliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr eu gwneud gan breswylwyr Prydain yn chwarter cyntaf 2023, gyda chyfanswm gwariant o £10.4 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 11.0 miliwn o deithiau twristaidd undydd eu gwneud yng Nghymru gyda gwariant o £465 miliwn. Roedd teithiau twristaidd undydd yn cyfrif am 25% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru a 38% o'r gwariant.

Tabl 3: Gwariant cyfartalog ar gyfer teithiau undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru, mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Prydain Fawr

Cymru

Gwariant fesul taith

£37

£28

Teithiau twristaidd undydd

Prydain Fawr

Cymru

Gwariant fesul taith

£43

£42

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Mae gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn is na Phrydain Fawr gyda gwariant cyfartalog fesul taith o £28 a £42, yn y drefn honno. Yn arbennig, ceir gwariant cyfartalog uwch ar deithiau twristaidd undydd na theithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Roedd gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru yn chwarter cyntaf 2023 ychydig yn is nag yn chwarter cyntaf 2022, pan oedd gwariant cyfartalog o £29 fesul trip ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru. I’r gwrthwyneb, roedd y gwariant cyfartalog ar deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn uwch yn ystod chwarter cyntaf 2023, o’i gymharu â chwarter cyntaf 2022, pan oedd y gwariant cyfartalog fesul taith ar deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn £38. Mae’r gwariant uwch ar deithiau twristaidd undydd yn chwarter cyntaf 2023 o ganlyniad i’r gwariant ar deithiau a wnaed ym mis Mawrth 2023.

Gweithgareddau a wnaed

Tabl 4: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau, mis Ionawr i fis Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Y prif weithgaredd a wnaed Teithiau Prydain Fawr Teithiau Cymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau  242.3 14.2
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol 106 5.8
Cymryd rhan mewn hobïau neu ddiddordebau 79.6 5.3
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored 59.8 4.6
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd 30.4 4.3
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig 42.5 3.5
Mynd i atyniad i ymwelwyr 47.3 2.6
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu 22.9 1
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant 12.0 0.7
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant 18.2 0.6
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod 15.4 0.9

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

[Nodyn 1] Roedd y samplau ar gyfer ‘Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu’, ‘Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant’, ‘Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod’, ‘Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant’ a ‘Mynd i atyniad i ymwelwyr’ yn fach – dylid trin y data’n ofalus.

Ffigur 1: Canran y teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart fariau glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Roedd 33% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru a 36% o’r teithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Yr ail brif weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru oedd bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol – dyma oedd y prif weithgaredd ar 13% o deithiau a wnaed yng Nghymru. Cymryd rhan mewn hobïau neu ddiddordebau oedd y prif weithgaredd mwyaf poblogaidd nesaf – dyma oedd y prif weithgaredd ar 12% o deithiau yng Nghymru.

Tueddiadau teithiau ar gyfer Prydain Fawr a Chymru

Tabl 5: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a’r gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Y prif weithgaredd a wnaed

Teithiau Prydain Fawr (miliynau)

Teithiau Cymru (miliynau)

Ionawr

221.7

£7,450

Chwefror

217.3

£7,584

Mawrth

237.4

£9,818

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Ffigur 2: Nifer y teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad (mewn miliynau), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofn yn dangos er bod nifer y teithiau twristaidd undydd tair awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ym mis Ionawr yn parhau i fod yn sefydlog yn ystod 2022 a 2023, roedd y niferoedd misol ar gyfer mis Chwefror 2023 a mis Mawrth 2023 yn uwch na’r misoedd cyfatebol yn 2022, gyda niferoedd ar eu huchaf ym mis Mawrth.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Yn chwarter cyntaf 2023, ym mis Mawrth roedd y nifer uchaf o deithiau hamdden undydd tair awr neu fwy, gyda 237.4 miliwn o deithiau wedi’u gwneud ym Mhrydain Fawr. Creodd y teithiau hyn dros £9.82 biliwn o wariant, ac ym mis Mawrth roedd y gwariant uchaf ar deithiau hamdden undydd tair awr neu fwy ym Mhrydain Fawr yn chwarter cyntaf 2023. Roedd nifer y teithiau yn ystod chwarter cyntaf 9%(r) yn uwch na nifer y teithiau ar gyfer yr un cyfnod yn 2022, ac roedd gwariant 28%(r) yn uwch.

(r) Diwygiwyd ar 19 Medi 2023.

Tabl 6: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy a’r gwariant yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Mis yr ymweliad

Teithiau i Gymru (miliynau)

Gwariant yng Nghymru (£miliynau)

Ionawr

13.3

£320

Chwefror

12.1

£353

Mawrth

18.0

£558

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Ffigur 3: Nifer y teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad (mewn miliynau), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn yn dangos er bod nifer y teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy a wnaed yng Nghymru ym mis Ionawr a mis Chwefror 2022 yn is na’r niferoedd ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror 2022, roedd nifer y teithiau ym mis Mawrth 2023 yn uwch nag ym mis Mawrth 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Gwnaed dros 18 miliwn o deithiau hamdden undydd tair awr neu fwy yng Nghymru yn ystod mis Mawrth 2023, gan olygu mai ym mis Mawrth roedd nifer uchaf teithiau o’r fath yn chwarter cyntaf 2023. Ym mis Mawrth roedd y gwariant uchaf hefyd, gyda £558 miliwn yn cael ei greu gan y teithiau hyn. Roedd nifer y teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy a wnaed yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf 2023 3% yn uwch na nifer teithiau o’r fath a  wnaed yng Nghymru yn chwarter cyntaf 2022, ac roedd y gwariant 1% yn uwch.

Tabl 7: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a’r gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Mis yr ymweliad

Teithiau ym Mhrydain Fawr (miliynau)

Gwariant ym Mhrydain Fawr (£miliynau)

Ionawr

78.3

£3,015

Chwefror

78.7

£3,266

Mawrth

82.7

£4,137

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Ffigur 4: Nifer y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad (mewn miliynau), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofn yn dangos, yn ystod chwarter cyntaf 2023, fod nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr bob mis yn uwch na nifer y teithiau bob mis yn chwarter cyntaf 2022, gyda niferoedd ar eu huchaf ym mis Mawrth.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Gwnaed 82.7 miliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn ystod mis Mawrth 2023. Roedd gwariant hefyd ar ei uchaf ym mis Mawrth, gyda gwariant o £4.14 biliwn yn cael ei wneud ar ymweliadau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr. Roedd nifer y teithiau yn ystod chwarter cyntaf 2023 21%(r) yn uwch na nifer y teithiau yn yr un cyfnod yn 2022, ac roedd gwariant 20%(r) yn uwch.

(r) Diwygiwyd ar 19 Medi 2023.

Tabl 8: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a’r gwariant yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad, mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Mis yr ymweliad

Teithiau yng Nghymru (miliynau)

Gwariant yng Nghymru (£miliynau)

Ionawr 2023

3.2

£88

Chwefror 2023

2.7

£110

Mawrth 2023

5.1

£267

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2023

Ffigur 5: Nifer y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad (mewn miliynau), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofn yn dangos, yn ystod rhan gychwynnol chwarter cyntaf 2023, fod nifer y teithiau twristaidd undydd bob mis yn is na’r misoedd cyfatebol yn 2022, cyn codi ym mis Mawrth i lefelau uwch na mis Mawrth 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Mawrth 2022 a 2023

Roedd nifer y teithiau undydd a’r gwariant a grëwyd gan deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf 2023 ar eu huchaf ym mis Mawrth, gyda 5.1 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud a £267 miliwn yn cael ei wario yn ystod y cyfnod hwn. Roedd nifer y teithiau yn ystod chwarter cyntaf 2023 8%(r) yn is na’r un cyfnod yn 2022, ond roedd gwariant 3% yn uwch.

(r) Diwygiwyd ar 19 Medi 2023.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Defnyddir dau brif fesur ar gyfer teithiau undydd yn yr adroddiad hwn.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy. Ni chaiff unrhyw deithiau dros nos eu cynnwys, na theithiau dydd o leoliad llety gwyliau.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel teithiau twristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo. Mae'r gofyniad i deithio i awdurdod lleol gwahanol yn cwmpasu'r rhan fwyaf o weithgareddau ac eithrio teithiau lle mai'r prif weithgaredd yw gwylio digwyddiadau chwaraeon byw, mynd i atyniadau i ymwelwyr neu fynd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn gymwys fel ymweliadau twristaidd undydd hyd yn oed os cânt eu gwneud yn yr un awdurdod lleol.

Gweithgareddau hamdden cymwys

  • Ymweld â ffrindiau neu berthnasau
  • Mynd i atyniad i ymwelwyr, fel tŷ hanesyddol, parc thema neu amgueddfa 
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored
  • Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd
  • Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau
  • Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant
  • Mynd i ddigwyddiad neu ddathliad arbennig (fel priodas neu ben-blwydd)
  • Mynd i ddigwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu (fel arddangosfa neu chwaraeon byw)
  • Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant (fel amgueddfa)
  • Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o beth fyddai nifer gros y teithiau undydd a wneir gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o beth fyddai cyfanswm y gwariant ar deithiau undydd gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg cyfunol newydd Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr/Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr er mwyn bod yn gyson â'r safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon o'r teithiau domestig undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2023 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o'r gofynion a'r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristaidd domestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn sicrhau bod y dulliau casglu data yn addas ar gyfer y dyfodol, ond gan gynnal dibynadwyedd a chadernid y wybodaeth a gyflwynir. O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfunol newydd a oedd yn casglu data ar deithiau dros nos domestig, yn ogystal â theithiau dydd domestig.

Mae'r sampl ar gyfer yr arolwg ar-lein cyfunol newydd wedi'i dylunio heb ystyried tebygolrwydd ac fe'i darparwyd gan 4 darparwr panel ar-lein a achredwyd gan ESOMAR. Mae'n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn sicrhau bod y sampl gyffredinol yn cynrychioli poblogaeth Prydain Fawr cystal â phosibl. Maint y sampl flynyddol darged ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 35,000 o gyfweliadau wedi'u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg newydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2023 a nifer y cyfweliadau a gyflawnwyd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 yw 8,208 o gyfweliadau ar gyfer preswylwyr Prydain Fawr, gan gynnwys 4,298 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru. Ni fydd pob unigolyn y cyfwelir ag ef wedi gwneud taith undydd gymwys, felly, mae maint y samplau ar gyfer teithiau cymwys a wnaed a ddefnyddiwyd i amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau.

Maint y samplau: Teithiau hamdden undydd tair awr neu fwy

Y wlad yr ymwelwyd â hi

Ionawr 2023

Chwefror 2023

Mawrth 2023

Cyfanswm Chwarter 1

Prydain Fawr

2,094

2,311

2,286

6,691

Cymru

254

264

306

824

Maint y samplau: Teithiau twristaidd undydd

Y wlad yr ymwelwyd â hi

Ionawr 2023

Chwefror 2023

Mawrth 2023

Cyfanswm Chwarter 1

Prydain Fawr

706

794

763

2,263

Cymru

58

52

74

184

Darperir meintiau sampl eraill ar gyfer 2023 yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS, a gyhoeddir yn gynnar yn 2024.

Fel rhan o'r newidiadau i'r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoliad diwygiedig i wella effeithlonrwydd, ac i wneud y canlyniadau mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'r defnydd o sampl ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu ar y graddau y mae ymatebion yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth lawn Prydain Fawr, cyfyngiad sy'n gyffredin i arolygon sampl ar-lein tebyg. Mae'r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi'i fapio i raddau cymdeithasol bras at ddiben cwotâu a phwysoliadau mewn perthynas â phoblogaeth Prydain Fawr. Bydd y newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau'r boblogaeth yn effeithio ar y broses o amcangyfrif a chyflwyno adroddiadau ar deithiau o gymharu â'r dull adrodd graddau cymdeithasol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol. Rydym yn dal i asesu effaith y newidiadau hyn, ac mae'n bosibl y bydd y broses hon yn arwain at ailgyhoeddi'r ystadegau ar gyfer 2021. Rydym wedi cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau a gymerwyd gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn Adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer teithiau undydd Prydain Fawr wedi cael eu casglu mewn ffordd gymharol debyg ers 2011. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Roedd yr amcangyfrifon o niferoedd o 2021 ymlaen yn cynnwys teithiau gan oedolion Prydain Fawr a phlant a oedd yn teithio gyda nhw, ond teithiau gan oedolion yn unig oedd yn cael eu hamcangyfrif gan nifer y teithiau undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o'r arolwg, gofynnwyd i ymatebwyr am unrhyw deithiau undydd a wnaed ganddynt yn ystod y 7 diwrnod cyn dyddiad eu cyfweliad (cyfnod cyfeirio). Cyflwynir amcangyfrifon teithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol, yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio cyfweliadau yn cyfateb yn union â misoedd calendr, caiff addasiad ei wneud gan ddefnyddio ‘ffactor lliniaru tymhorol’ i wella'r cymariaethau misol o fewn blynyddoedd a rhyngddynt. Mae'r amcangyfrifon misol yn destun cyfyngiadau o ran maint y sampl ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau a wneir drwy gydol y flwyddyn. Bydd unrhyw gyfyngiadau yn sgil COVID-19 (Senedd Cymru) hefyd wedi dylanwadu ar batrwm misol yr ymweliadau yn 2021 a wnaeth gyfyngu ar deithio ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, yn ogystal â hyder y cyhoedd i ymgymryd â gweithgareddau hamdden gwahanol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau hyn wrth wneud cymariaethau misol neu chwarterol.

Cywirdeb

Cafodd yr ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol eu dynodi'n ystadegau swyddogol, sy'n rhoi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr y caiff yr ystadegau eu cynhyrchu i'r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Ystadegau Gwladol) Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, cafodd canlyniadau'r arolwg ar gyfer 2021, 2022 a 2023 eu labelu fel ystadegau arbrofol’ (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r arolwg a'r ystadegau newydd wedi bod yn destun rhaglen gynhwysfawr o waith sicrhau ansawdd, sy'n cynnwys treialu'r arolwg, dadansoddi newidiadau i ddiffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygiad o derfynau a rheolau priodoli. Mae newidiadau i fethodoleg a dulliau amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a roddwyd gan Wasanaeth Ymgynghori ar Fethodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir terfynau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Darperir rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a meintiau sylfaen teithiau yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn Adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Bydd yr amcangyfrifon ar gyfer 2021 yn rhoi gwybodaeth am effaith COVID-19 ar lefelau ymwelwyr ac yn darparu llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad ar draws blynyddoedd dilynol.

Cyn belled â phosibl, mae arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn darparu cysondeb â'r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cofnodi gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir a phroffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd y wybodaeth ychwanegol hon o werth i ddefnyddwyr amrywiol yr arolwg. Caiff yr holiadur presennol ei gynnwys yn Adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau er mwyn cadarnhau bod y wybodaeth o'r arolwg newydd yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a'r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r holl allbynnau yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi dyddiad y cyhoeddiad ymlaen llaw drwy'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau. Anelwn at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser ymchwil perthnasol. Mae'r tarfu a fu ar arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr oherwydd COVID-19 a'r profion cynhwysfawr a'r dulliau sicrhau ansawdd a roddwyd ar waith ar gyfer yr ystadegau newydd wedi arwain at gyflwyno adroddiad ar ystadegau 2021, 2022 a 2023 yn hwyrach na'r arfer. Bydd canlyniadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol er mwyn sicrhau y caiff yr amcangyfrifon eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol i Gymru ryw 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Siân Hughes
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 67/2023