Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer swm a gwerth y teithiau undydd domestig a wnaed gan breswylwyr Prydain yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr yn 2022. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o ddechrau mis Ionawr tan ddiwedd mis Rhagfyr 2022. Mae'r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion teithiau undydd yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno adroddiad ar ddau brif fesur ar gyfer teithiau undydd.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio yw'r rhain, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel taith dwristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar ddiffiniadau.

Caiff canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Cyhoeddwyd Amcangyfrifon o deithiau undydd domestig i Gymru yn 2021 a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Cyfeiriwch at yr adran ar cymharedd a chydlyniaeth.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Teithiau Cymru

  • Yn 2022, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 180.0 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru gyda £5.48 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 34% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristaidd undydd gyda 62.0 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud yn 2022, gyda gwariant cysylltiedig o £2.37 biliwn.
  • Roedd tua 6% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a’r teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yng Nghymru. Roedd y gyfran o gyfanswm gwariant Prydain Fawr yn 6% ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy, a 5% ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Roedd swm y teithiau a’r gwariant ar eu huchaf rhwng mis Gorffennaf a mis Medi ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy.  Ar gyfer ymweliadau twristaidd undydd, roedd swm y teithiau a’r gwariant ar eu huchaf rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
  • Roedd swm yr ymweliadau hamdden undydd tair awr neu fwy a swm y teithiau twristaidd undydd a wnaed yn ystod ail a thrydydd chwarter 2022 yn uwch nag yn ystod y chwarteri hyn yn 2021. Roedd swm y teithiau twristaidd undydd a wnaed yn ystod chwarter olaf 2022 hefyd yn uwch na swm y teithiau twristaidd undydd a wnaed yn ystod chwarter olaf 2021. Fodd bynnag, roedd swm yr ymweliadau hamdden undydd tair awr neu fwy yn ystod chwarter olaf 2022 yn is na swm y teithiau hyn yn ystod chwarter olaf 2021.
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £30 o gymharu â £38 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru.

Teithiau Prydain Fawr

  • Yn 2022, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 2,788.4 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr gyda £95.33 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 39% o'r teithiau hamdden undydd ym Mhrydain Fawr yn deithiau twristaidd undydd gyda 1,086.2 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud yn 2022, gyda gwariant cysylltiedig o £45.04 biliwn.
  • Roedd 87% o'r teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yn Lloegr, roedd 9% yn cynnwys ymweliad yn yr Alban ac roedd 6% yn cynnwys ymweliad yng Nghymru.
  • Roedd swm y teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr yn 2022 ar ei anterth yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, tra bod gwariant ar deithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr ar ei uchaf yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr. Roedd swm y teithiau a’r gwariant ar eu huchaf ar gyfer teithiau hamdden undydd yn para 3 awr neu fwy rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.
  • Roedd swm yr ymweliadau hamdden undydd tair awr neu fwy a swm y teithiau twristaidd undydd a wnaed yn ystod ail, trydydd a phedwerydd chwarter 2022 oll yn uwch na swm y teithiau hyn a wnaed yn ystod y chwarteri hyn yn 2021.
  • Swm y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £34 o gymharu â £41 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr.

Teithiau a gwariant i wledydd Prydain Fawr, 2022

Tabl 1: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a gwariant i wledydd Prydain Fawr, 2022 [Nodyn 1]
Teithiau Hamdden Undydd 3 awr neu fwy Prydain Fawr Lloegr Yr Alban Cymru
Teithiau (miliynau) 2788.4 2360.7 290.5 180.0
% Teithiau Prydain Fawr 100% 85% 10% 6%
Gwariant (£miliynau) £95,333 £80,837 £9,021 £5,476
% Gwariant Prydain Fawr 100% 85% 9% 6%

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau hamdden undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Tabl 2: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a gwariant i wledydd Prydain Fawr, 2022 [Nodyn 1]
Teithiau twristaidd undydd Prydain Fawr Lloegr Yr Alban Cymru
Teithiau (miliynau) 1086.2 945.0 94.8 62.0
% Teithiau Prydain Fawr 100% 87% 9% 6%
Gwariant (£miliynau) £45,043 £38,740 £3,937 £2,365
% Gwariant Prydain Fawr 100% 86% 9% 5%

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau twristaidd undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Yn 2022, cafodd 2,788.4 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud ym Mhrydain Fawr gan breswylwyr Prydain gyda chyfanswm gwariant o £95.33 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 180.0 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud yng Nghymru gyda chyfanswm gwariant o £5.48 biliwn. Cafodd tua 6% o'r holl deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy gan breswylwyr Prydain eu gwneud yng Nghymru, o gymharu ag 85% a wnaed yn Lloegr a 10% a wnaed yn yr Alban. Roedd cyfran cyfanswm y gwariant yng Nghymru hefyd yn 6%.

Cafodd 1086.2 miliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr eu gwneud gan breswylwyr Prydain yn 2022,gyda chyfanswm gwariant o £45.04 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 62.0 miliwn o deithiau twristaidd undydd eu gwneud yng Nghymru gyda gwariant o £2.37 biliwn. Roedd teithiau twristaidd undydd yn cyfrif am 34% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru a 43% o'r gwariant.

Nodweddion teithiau Prydain Fawr a Chymru

Tabl 3: Gwariant cyfartalog ar gyfer teithiau undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru, 2022
Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy Prydain Fawr Cymru
Gwariant fesul taith £34 £30
Teithiau twristaidd undydd Prydain Fawr Cymru
Gwariant fesul taith £41 £38

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

Mae gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn is na Phrydain Fawr gyda gwariant cyfartalog fesul taith o £30 a £38, yn y drefn honno. Yn arbennig, ceir gwariant cyfartalog uwch ar deithiau twristaidd undydd na theithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Roedd gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd yn uwch yn 2022 nag yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021. Ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, y gwariant cyfartalog oedd £31 ar gyfer teithiau a wnaed ym Mhrydain, a £26 ar gyfer teithiau a wnaed yng Nghymru. Y gwariant cyfartalog ar deithiau twristaidd undydd oedd £40 ar gyfer teithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr, a £36 ar gyfer teithiau a wnaed yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021. Mae'r cynnydd hwn yn rhannol oherwydd cynnydd o ran swm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristiaeth undydd pan fo ‘bwyd, diod, noson allan neu siopa arbenigol’ yn brif weithgaredd a wnaed yn 2022. Mae'r teithiau hyn yn tueddu i gynhyrchu lefelau uwch o wariant – yn 2022, roedd teithiau twristaidd undydd a oedd yn cynnwys hwn fel y prif weithgaredd a wnaed yn cynhyrchu gwariant cyfartalog fesul taith o £81 ar gyfer teithiau a wnaed yng Nghymru, a £64 ar gyfer teithiau a wnaed ym Mhrydain.

Maint cyfartalog parti oedd 3.0 o oedolion a phlant ar deithiau hamdden 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru yn 2022 gyda 31% o deithiau'n cael eu gwneud gan deithwyr unigol, 34% gan 2 unigolyn a 35% gan bartïon teithio o 3 unigolyn neu fwy.

Tabl 4: Swm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau, 2022
Y prif weithgaredd a wnaed Teithiau Prydain Fawr Teithiau Cymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau  989.0 62.3
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol 397.8 27.6
Mynd i atyniad i ymwelwyr 236.3 16.7
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored 275.0 16.2
Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau 257.9 15.9
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd 158.7 13.2
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig 186.3 10.9
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu 127.1 6.4
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant 36.6 3.5
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant 56.4 3.0
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod 67.3 4.1

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

Ffigur 1: Cyfran y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart fariau glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

Roedd 35% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Yr ail brif weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru oedd bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol. Y trydydd gweithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr oedd cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored, tra bod mynd i atyniad i ymwelwyr y trydydd gweithgaredd mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae'r cymysgedd o wahanol fathau o weithgareddau a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru wedi bod yn debyg yn 2021 a 2022, ond mae arwyddion o gynnydd o ran swm y teithiau ar gyfer bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol, mynychu digwyddiadau cyhoeddus wedi'u trefnu ac ymweliadau ag atyniadau.

Tabl 5: Swm y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau, 2022 [Nodyn 1]
Y prif weithgaredd a wnaed Teithiau Prydain Fawr Teithiau Cymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau 313.5 17.3
Mynd i atyniad i ymwelwyr 174.0 11.5
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol 149.6 9.1
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd 87.5 5.9
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu 90.8 4.3
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored 70.6 4.0
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig 81.2 3.8
Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau 55.7 2.8
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant 28.6 1.2
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant 12.1 0.7
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod  22.6 1.4

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Meintiau sylfaen isel ar gyfer ‘Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant’, ‘Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod’, a ‘Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant’ - dylid trin y data yn ofalus.

Ffigur 2: Cyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart fariau glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Roedd 28% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru a 29% o’r holl deithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Mynd i weld atyniad i ymwelwyr a bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol oedd yr ail weithgaredd a’r trydydd gweithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau twristaidd undydd yng Nghymru a Phrydain Fawr. Roedd teithiau twristaidd undydd a oedd yn cynnwys mynd i atyniad i ymwelwyr neu fynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd fel y prif weithgareddau a wnaed yn gyfran uwch o deithiau twristaidd undydd yng Nghymru, o'i gymharu â theithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

Nodweddion manwl teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru

Bydd gweddill y datganiad hwn yn canolbwyntio ar nodweddion ymweliadau twristaidd undydd. Er mwyn cymhwyso fel ymweliad twristaidd undydd, rhaid iddo fodloni'r meini prawf ychwanegol, sef ei fod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'i fod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Ffigur 3: Swm a chyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif leoliad, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau glystyrog yn dangos mai teithiau i ddinasoedd mawr/trefi mawr oedd y gyfran fwyaf o deithiau ym Mhrydain Fawr a theithiau yng Nghymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed i bob prif leoliad mewn miliynau.  Er enghraifft, yn 2022, gwnaed 12.5 miliwn o deithiau twristaidd undydd i leoliad cefn gwlad/pentref yng Nghymru.

Roedd ychydig dros 6 o bob 10 taith dwristaidd undydd yng Nghymru i gyrchfannau trefol. Fodd bynnag, cafodd cyfran uwch o deithiau twristaidd yng Nghymru eu gwneud i ardaloedd glan môr ac arfordirol a threfi bach, ond gwnaed cyfran is i ddinasoedd a threfi mawr, o gymharu â Phrydain Fawr i gyd. Cynyddodd cyfran y teithiau a wnaed i ddinasoedd a threfi mawr ychydig yn 2022, ar gyfer y teithiau a wnaed i Brydain Fawr a theithiau a wnaed i Gymru. Yn ogystal, roedd gostyngiad bach yng nghyfran y teithiau a wnaed i ardaloedd glan môr ac arfordirol yng Nghymru, o 17% yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 i 14% yn 2022.

Roedd y gwariant cyfartalog fesul taith gryn dipyn yn uwch ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed mewn dinasoedd a threfi mawr yng Nghymru (£55) o gymharu â chyfartaledd o £38 ym mhob math o gyrchfan yng Nghymru.

Ffigur 4: Swm a chyfran y teithiau twristaidd undydd a gwariant lle mai un o ranbarthau Cymru yw'r prif leoliad yr ymwelwyd ag ef, 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofnau glystyrog yn dangos mai De-ddwyrain Cymru gafodd y nifer fwyaf o deithiau a'r gwariant uchaf gan breswylwyr Prydain Fawr, ymhlith rhanbarthau Cymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Maint sylfaen isel ar gyfer Canolbarth Cymru, dylid trin y data yn ofalus.

[Nodyn 2] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru mewn miliynau, a’r swm a wariwyd ar deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd, ar gyfer pob rhanbarth o Gymru. Er enghraifft, yn 2022, roedd 11.8 miliwn o deithiau twristaidd undydd i Dde-orllewin Cymru.

Mae'n bosibl y bydd teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn cynnwys rhanbarth o Gymru, neu ardal y tu allan i Gymru, fel prif gyrchfan y daith undydd. De-ddwyrain Cymru oedd prif gyrchfan 48% o'r teithiau twristaidd undydd yng Nghymru, gan gynyddu o 36% ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021. Gogledd Cymru a De-orllewin Cymru oedd y prif gyrchfannau ar gyfer 20% a 19% o deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn y drefn honno. Gostyngodd cyfran y teithiau lle roedd y prif gyrchfan yn y Gogledd neu'r De-orllewin ychydig yn 2022, o 24% ar gyfer y ddau ranbarth yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021.  Canolbarth Cymru oedd y prif gyrchfan ar gyfer 5% o'r teithiau a wnaed. Bydd meintiau poblogaeth perthynol rhanbarthau Cymru yn dylanwadu ar y patrwm hwn.

Roedd tua 8% o'r teithiau undydd yng Nghymru yn cynnwys prif leoliad yr ymwelwyd ag ef a oedd y tu allan i Gymru.

Proffil yr ymwelwyr sy'n gwneud teithiau twristaidd undydd yng Nghymru

Tabl 6: Swm y teithiau twristaidd undydd a chyfanswm gwariant yng Nghymru yn ôl gwlad breswyl ymwelwyr, 2022 ) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
  Teithiau (miliynau) Gwariant (£miliynau) % teithiau Cymru
Lloegr 24.4 £933 39%
Yr Alban 1.0 £80 2%
Cymru 36.2 £1,342 58%

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Nid yw canrannau'n dod i gyfanswm o 100%, gan fod rhai ymatebwyr wedi nodi eu bod yn byw mewn Parc Cenedlaethol.

[Nodyn 2] Maint sylfaen isel ar gyfer yr Alban, dylid trin y data yn ofalus.

Preswylwyr o Gymru oedd yn gyfrifol am bron i 6 o bob 10 o'r holl deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru. Mae hynny’n gynnydd o'r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, pan oedd preswylwyr o Gymru yn gyfrifol am ychydig dros hanner y teithiau i Gymru. Mae hyn yn cael ei ysgogi gan gynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Chymru sy'n byw yn Ne-ddwyrain Cymru. Preswylwyr o Loegr oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r teithiau a oedd yn weddill i Gymru yn 2022, er bod cyfran y teithiau i Gymru a wnaed gan breswylwyr Lloegr wedi gostwng o 47% yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 i 39% yn 2022. Ymhlith preswylwyr Lloegr a ymwelodd â Chymru yn 2022, roedd y mwyafrif yn byw yn ardaloedd cyfagos Gogledd-orllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a De-orllewin Lloegr. Roedd cyfran y gwariant a gynhyrchwyd gan breswylwyr o Gymru yn 2022 yn cyd-fynd yn agos â chyfran y teithiau a wnaed, gyda 57% o gyfanswm y gwariant ar deithiau twristaidd undydd yn cael ei gynhyrchu gan breswylwyr Cymru.

Ffigur 5: Swm a chyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl grŵp oedran, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofnau glystyrog yn dangos mai ymwelwyr 55 oed neu’n hŷn oedd y grŵp oedran mwyaf ymhlith ymwelwyr domestig â Phrydain Fawr, ond yng Nghymru, y grŵp oedran mwyaf oedd 25-34 oed.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2022

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed gan bob grŵp oedran mewn miliynau. Er enghraifft, yn 2022, gwnaeth ymwelwyr rhwng 45 a 54 oed 8.9 miliwn o deithiau twristaidd undydd i Gymru.

Roedd ymwelwyr o'r grŵp oedran 55 oed neu'n hŷn yn cynrychioli cyfran uwch o ymwelwyr â Phrydain Fawr na Chymru, tra bod ymwelwyr rhwng 16 a 34 oed yn cynrychioli cyfran uwch o ymwelwyr â Chymru na Phrydain Fawr. Er bod cyfran yr ymwelwyr â Chymru rhwng 16 a 34 oed wedi aros yn sefydlog o'r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 ar 47%, ymwelodd mwy o ymwelwyr rhwng 35 a 44 oed â Chymru yn 2022 nag a wnaeth hynny yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gyda chyfran yr ymwelwyr yn y grŵp oedran hwn yn cynyddu o 16% i 25%. Yn ogystal, gostyngodd cyfran yr ymwelwyr â Chymru oedd yn 45 oed neu'n hŷn o 36% yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 i 29% yn 2022. Ymhlith ymwelwyr â Phrydain Fawr, mae cyfrannau'r ymwelwyr o wahanol grwpiau oedran wedi aros yn sefydlog, ar wahân i ostyngiad bach yng nghyfran yr ymwelwyr rhwng 16 a 24 oed, gan ostwng o 16% yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 i 13% yn 2022. Mae hyn yn awgrymu bod ymwelwyr â Chymru yn gynyddol yn cynnwys pobl iau, yn enwedig o gymharu â Phrydain Fawr.

Tabl 7: Swm y teithiau twristaidd undydd a gwariant ym Mhrydain Fawr fesul chwarter yr ymweliadau, 2022
  Teithiau Prydain Fawr (miliynau) Gwariant Prydain Fawr (£miliynau)
Ebrill i Fehefin 2021 147.3 £4,309
Gorffennaf i Fedi 2021 246.7 £10,254
Hydref i Ragfyr 2021 229.7 £10,379
Ionawr i Fawrth 2022 198.4 £8,699
Ebrill i Fehefin 2022 261.8 £11,413
Gorffennaf i Fedi 2022 313.3 £12,359
Hydref i Ragfyr 2022 312.7 £12,572

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2021 i 2022

Ffigur 6: Swm y teithiau twristaidd undydd mewn miliynau ym Mhrydain Fawr fesul chwarter yr ymweliadau, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofnau yn dangos bod swm y teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr yn dilyn patrwm tebyg ar draws 2021 a 2022, gan godi o'r gwanwyn i'r haf, gan gyrraedd uchafbwynt yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2021 i 2022

Gwnaed ychydig dros 313 miliwn o deithiau yn ystod y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2022. Roedd gwariant ar ei uchaf ar gyfer y chwarter olaf, sef mis Hydref i fis Rhagfyr 2022, gyda gwariant o £12.57 biliwn ar ymweliadau twristaidd undydd Prydain Fawr. Roedd swm y teithiau ar gyfer mis Ebrill i fis Rhagfyr 2022 42% yn uwch na swm y teithiau ar gyfer yr un cyfnod yn 2021. Roedd swm y teithiau ar gyfer ail, trydydd a phedwerydd chwarter 2022 i gyd yn uwch na swm y teithiau ar gyfer y chwarteri hyn yn 2021 (nid yw swm y teithiau ar gyfer chwarter cyntaf 2021 ar gael ac felly ni ellir eu cymharu â swm y teithiau ar gyfer chwarter cyntaf 2022). Roedd y cynnydd mwyaf o ran symiau teithiau chwarterol rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a welodd gynnydd o ran swm y teithiau o 147.3 miliwn o ymweliadau yn 2021 i 261.8 miliwn o ymweliadau yn 2022, sy'n gynnydd o 78%. Mae'r cynnydd sydyn hwn yn adlewyrchu llacio cyfyngiadau teithio COVID-19 yn gynnar yn 2021, gan achosi cynnydd araf o ran swm y teithiau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn 2021.

Tabl 8: Swm y teithiau twristaidd undydd a gwariant yng Nghymru fesul chwarter yr ymweliadau, mis Ebrill 2021 i fis Rhagfyr 2022
  Teithiau Cymru (miliynau) Gwariant Cymru (£miliynau)
Ebrill i Fehefin 2021 8.3 £273
Gorffennaf i Fedi 2021 16.3 £540
Hydref i Ragfyr 2021 12.8 £520
Ionawr i Fawrth 2022 12.0 £451
Ebrill i Fehefin 2022 17.6 £675
Gorffennaf i Fedi 2022 17.0 £576
Hydref i Ragfyr 2022 15.3 £664

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2021 i 2022

Ffigur 7: Swm y teithiau twristaidd undydd mewn miliynau yng Nghymru fesul chwarter yr ymweliadau, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart golofnau yn dangos bod swm y teithiau twristaidd undydd i Gymru yn dilyn patrwm tebyg ar draws 2021 a 2022, gan godi o'r gwanwyn i'r haf, a gostwng yn ystod cyfnod y gaeaf.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2021 i 2022

Cyrhaeddodd swm y teithiau undydd a'r gwariant a gynhyrchwyd gan deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn 2022 uchafbwynt yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, gyda 17.6 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud a £675 miliwn wedi'i wario yn ystod y cyfnod hwn. Roedd swm y teithiau rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022 34% yn uwch na swm y teithiau ar gyfer yr un cyfnod yn 2021. Roedd swm y teithiau ar gyfer ail, trydydd a phedwerydd chwarter 2022 i gyd yn uwch na swm y teithiau ar gyfer y chwarteri hyn yn 2021 (nid yw swm y teithiau ar gyfer chwarter cyntaf 2021 ar gael ac felly ni ellir eu cymharu â swm y teithiau ar gyfer chwarter cyntaf 2022). Roedd y cynnydd mwyaf o ran symiau teithiau chwarterol rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a welodd gynnydd o ran swm y teithiau o 8.3 miliwn o ymweliadau yn 2021 i 17.6 miliwn o ymweliadau yn 2022, sy'n gynnydd o 112%. Mae'r cynnydd sydyn hwn yn adlewyrchu llacio cyfyngiadau teithio COVID-19 yn gynnar yn 2021, gan achosi cynnydd araf o ran swm y teithiau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Defnyddir dau brif fesur ar gyfer teithiau undydd yn yr adroddiad hwn.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy. Ni chaiff unrhyw deithiau dros nos eu cynnwys, na theithiau dydd o leoliad llety gwyliau.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel teithiau twristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo. Mae'r gofyniad i deithio i awdurdod lleol gwahanol yn cwmpasu'r rhan fwyaf o weithgareddau ac eithrio teithiau lle mai'r prif weithgaredd yw gwylio digwyddiadau chwaraeon byw, mynd i atyniadau i ymwelwyr neu fynd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn gymwys fel ymweliadau twristaidd undydd hyd yn oed os cânt eu gwneud yn yr un awdurdod lleol.

Gweithgareddau Hamdden Cymwys

  • Ymweld â ffrindiau neu berthnasau.
  • Mynd i atyniad i ymwelwyr, fel tŷ hanesyddol, parc thema neu amgueddfa.
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored.
  • Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd.
  • Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau.
  • Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant.
  • Mynd i ddigwyddiad neu ddathliad arbennig (fel priodas neu ben-blwydd).
  • Mynd i ddigwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu (fel arddangosfa neu chwaraeon byw).
  • Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant (fel amgueddfa).
  • Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Swm

Amcangyfrif o beth fyddai nifer gros y teithiau undydd a wneir gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr. Mae swm y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o beth fyddai cyfanswm y gwariant ar deithiau undydd gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg cyfunol newydd Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr/Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr er mwyn bod yn gyson â'r safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon o'r teithiau domestig undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2022 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o'r gofynion a'r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristaidd domestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn sicrhau bod y dulliau casglu data yn addas ar gyfer y dyfodol, ond gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a gyflwynir. O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfunol newydd a oedd yn casglu data ar deithiau dros nos domestig, yn ogystal â theithiau dydd domestig.

Mae'r sampl ar gyfer yr arolwg ar-lein cyfunol newydd wedi'i dylunio heb ystyried tebygolrwydd ac fe'i darparwyd gan 4 darparwr panel ar-lein a achredwyd gan ESOMAR. Mae'n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn sicrhau bod y sampl gyffredinol yn cynrychioli poblogaeth Prydain Fawr cystal â phosibl. Maint y sampl flynyddol darged ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 35,000 o gyfweliadau wedi'u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg newydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2022 a nifer y cyfweliadau a gyflawnwyd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022 yw 34,093 o gyfweliadau ar gyfer preswylwyr Prydain Fawr, gan gynnwys 4,298 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru. Ni fydd pob unigolyn y cyfwelir ag ef wedi gwneud taith undydd gymwys ac felly mae'r meintiau sylfaen a ddefnyddiwyd ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau. Caiff y meintiau sylfaen eu cyhoeddi yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2022 GBDVS.

Fel rhan o'r newidiadau i'r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoliad diwygiedig i wella effeithlonrwydd, ac i wneud y canlyniadau mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'r defnydd o sampl ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu ar y graddau y mae ymatebion yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth lawn Prydain Fawr, cyfyngiad sy'n gyffredin i arolygon sampl ar-lein tebyg. Mae'r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi'i fapio i raddau cymdeithasol bras at ddiben cwotâu a phwysoliadau mewn perthynas â phoblogaeth Prydain Fawr. Bydd y newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau'r boblogaeth yn effeithio ar y broses o amcangyfrif a chyflwyno adroddiadau ar deithiau o gymharu â'r dull adrodd graddau cymdeithasol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol. Rydym yn dal i asesu effaith y newidiadau hyn, ac mae'n bosibl y bydd y broses hon yn arwain at ailgyhoeddi'r ystadegau ar gyfer 2021. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau a gymerwyd gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2022 GBDVS.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer teithiau undydd Prydain Fawr wedi cael eu casglu mewn ffordd gymharol debyg ers 2011. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Roedd yr amcangyfrifon o symiau ar gyfer 2021 a 2022 yn cynnwys teithiau gan oedolion Prydain Fawr a phlant a oedd yn teithio gyda nhw, ond teithiau gan oedolion yn unig oedd yn cael eu hamcangyfrif gan y symiau teithiau undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o'r arolwg, gofynnwyd i ymatebwyr am unrhyw deithiau undydd a wnaed ganddynt yn ystod y 7 diwrnod cyn dyddiad eu cyfweliad (cyfnod cyfeirio). Cyflwynir amcangyfrifon teithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol, yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio cyfweliadau yn cyfateb yn union â misoedd calendr, caiff addasiad ei wneud gan ddefnyddio ‘ffactor lliniaru tymhorol’ i wella'r cymariaethau misol o fewn blynyddoedd a rhyngddynt. Mae'r amcangyfrifon misol yn destun cyfyngiadau o ran maint y sampl ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau a wneir drwy gydol y flwyddyn. Bydd unrhyw gyfyngiadau yn sgil COVID-19 hefyd wedi dylanwadu ar batrwm misol yr ymweliadau yn 2021 a wnaeth gyfyngu ar deithio ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, yn ogystal â hyder y cyhoedd i ymgymryd â gweithgareddau hamdden gwahanol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau hyn wrth wneud cymariaethau misol neu chwarterol.

Cywirdeb

Cafodd yr ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol eu dynodi'n ystadegau swyddogol, sy'n rhoi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr y caiff yr ystadegau eu cynhyrchu i'r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Ystadegau Gwladol) Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, cafodd canlyniadau'r arolwg ar gyfer 2021 a 2022 eu labelu fel ystadegau arbrofol’ (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r arolwg a'r ystadegau newydd wedi bod yn destun rhaglen gynhwysfawr o waith sicrhau ansawdd, sy'n cynnwys treialu'r arolwg, dadansoddi newidiadau i ddiffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygiad o derfynau a rheolau priodoli. Mae newidiadau i fethodoleg a dulliau amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a roddwyd gan Wasanaeth Ymgynghori ar Fethodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir terfynau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Defnyddiwyd capiau pellach ar gyfer y datganiad diwygiedig hwn, er mwyn lliniaru effaith teithiau unigol a nodwyd fel rhai sy'n cael effaith anghymesur ar swm amcangyfrifedig y teithiau a’r gwariant. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Darperir rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a meintiau sylfaen teithiau yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2022 GBDVS.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Bydd yr amcangyfrifon ar gyfer 2021 yn rhoi gwybodaeth am effaith COVID-19 ar lefelau ymwelwyr ac yn darparu llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad ar draws blynyddoedd dilynol.

Cyn belled â phosibl, mae arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn darparu cysondeb â'r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cofnodi gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir a phroffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i ddefnyddwyr amrywiol yr arolwg. Caiff yr holiadur presennol ei gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2022 GBDVS.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau er mwyn cadarnhau bod yr wybodaeth o'r arolwg newydd yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a'r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r holl allbynnau yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi dyddiad y cyhoeddiad ymlaen llaw drwy'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau. Anelwn at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser ymchwil perthnasol. Mae'r tarfu a fu ar arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr oherwydd COVID-19 a'r profion cynhwysfawr a'r dulliau sicrhau ansawdd a roddwyd ar waith ar gyfer yr ystadegau newydd wedi arwain at gyflwyno adroddiad ar ystadegau 2021 a 2022 yn hwyrach na'r arfer. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol er mwyn sicrhau y caiff yr amcangyfrifon eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol i Gymru ryw 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 49/2023