Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019. Darperir rhagor o wybodaeth yn adran methodoleg ac ansawdd y cyhoeddiad hwn ar newidiadau i'r arolwg sy'n cyfyngu ar y gallu i gymharu â'r amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Gwelwch yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth am ragor o wybodaeth cymharedd a chydlyniaeth.

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau undydd domestig a wnaed gan breswylwyr Prydain yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr o fis Hydref i fis Rhagfyr 2023. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023. Mae'r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion teithiau undydd yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno adroddiad ar ddau brif fesur ar gyfer teithiau undydd.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio yw'r rhain, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel taith dwristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar ddiffiniadau.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Mae amcangyfrifon o deithiau undydd domestig i Gymru o 2021 ymlaen wedi cael eu cyhoeddi ac maent yn gymaradwy â'r canlyniadau yn y datganiad hwn. Dylid ystyried newidiadau mewn gwariant yng ngoleuni costau cynyddol, gan nad yw'r amcangyfrifon hyn wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Mae canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban yn cael eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Prif bwyntiau

Teithiau yng Nghymru

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 40.31 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr a mwy yng Nghymru gyda £1.51 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn. 
  • Roedd 40% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristaidd undydd, gyda 16.00 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £665 miliwn.
  • O fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 167.77 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru gyda £5.43 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 35% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristaidd undydd, gyda 59.25 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £2.48 biliwn.
  • O fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 roedd tua 6% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a 5% o’r teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yng Nghymru. Yn ystod yr un cyfnod, y gyfran o gyfanswm gwariant Prydain Fawr oedd 5% ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd. 
  • O'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 7% yn is, ac roedd nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed 4% yn is. 
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £32 o gymharu â £42 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru.

Teithiau ym Mhrydain Fawr

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 744.43 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr a mwy ym Mhrydain Fawr gyda £31.10 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 42% o'r teithiau hamdden undydd ym Mhrydain Fawr yn deithiau twristaidd undydd, gyda 315.52 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £15.03 biliwn.
  • Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 2.96 biliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr gyda £109.10 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 39% o'r teithiau hamdden undydd ym Mhrydain Fawr yn deithiau twristaidd undydd, gyda 1.16 biliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £50.78 biliwn.
  • O'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr o fis Ionawr i fis Rhagfyr 6% yn uwch, ac roedd nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed 7% yn uwch.
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £37 o'i gymharu â £44 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr.

Teithiau a gwariant i wledydd Prydain Fawr

Tabl 1: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a gwariant i wledydd Prydain Fawr a Chymru: mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 [Nodyn 1]
Teithiau Hamdden Undydd 3 awr neu fwyPrydain FawrLloegrYr AlbanCymru
Teithiau (miliynau)2955.032533.70293.39167.77
% Teithiau Prydain Fawr100%86%10%6%
Gwariant (£ miliynau)£109,103£94,206£9,471£5,425
% Gwariant Prydain Fawr100%86%9%5%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau hamdden undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Tabl 2: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a gwariant i wledydd Prydain Fawr a Chymru: mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 [Nodyn 1]
Teithiau Twristaidd UndyddPrydain FawrLloegrYr AlbanCymru
Tripiau (miliynau)1160.261021.2692.9359.25
% Tripiau Prydain Fawr100%88%8%5%
Gwariant (£ miliynau)£50,784£44,430£3,879£2,475
% Gwariant Prydain Fawr100%87%8%5%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau twristaidd undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

O fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023, cafodd 2.96 biliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud ym Mhrydain Fawr gan breswylwyr Prydain Fawr gyda chyfanswm gwariant o £109.10 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 167.77 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud yng Nghymru gyda chyfanswm gwariant o £5.43 biliwn. Cafodd tua 6% o'r holl deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy gan breswylwyr Prydain eu gwneud yng Nghymru, o’i gymharu ag 86% a wnaed yn Lloegr a 10% a wnaed yn yr Alban. Roedd cyfran cyfanswm y gwariant yng Nghymru yn 5%.

Cafodd 1.16 biliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr eu gwneud gan breswylwyr Prydain Fawr yn 2023, gyda chyfanswm gwariant o £50.78 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 59.25 miliwn o deithiau twristaidd undydd eu gwneud yng Nghymru gyda gwariant o £2.48 biliwn. Roedd teithiau twristaidd undydd yn cyfrif am 35% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru a 46% o'r gwariant.

Tabl 3: Gwariant cyfartalog ar gyfer teithiau undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023
MesurPrydain FawrCymru
Teithiau Hamdden Undydd 3 awr neu fwy£37£32
Teithiau twristaidd undydd£44£42

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Mae'r gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn is nag ym Mhrydain Fawr, gyda gwariant cyfartalog fesul taith o £32 ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy, ond y gwariant cyfartalog ar deithiau twristaidd undydd yw £42. Yn arbennig, ceir gwariant cyfartalog uwch ar deithiau twristaidd undydd na theithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Roedd y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 yn uwch na'r un cyfnod yn 2022, pan welwyd gwariant cyfartalog o £30 fesul taith ar gyfer teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru. Yn yr un modd, roedd y gwariant cyfartalog ar deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn uwch yn 2023, o’i gymharu â 2022, pan oedd y gwariant cyfartalog fesul taith ar deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn £38.  Dylid ystyried newidiadau mewn gwariant yng ngoleuni costau cynyddol, gan nad yw'r amcangyfrifon hyn wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant.

Gweithgareddau a wnaed

Tabl 4: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023
Y prif weithgaredd a wnaedTeithiau ym Mhrydain FawrTeithiau yng Nghymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau1003.3954.31
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol414.8822.20
Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau313.6518.53
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored260.6216.75
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd169.2313.10
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig197.4912.25
Mynd i atyniad i ymwelwyr 268.4112.25
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu137.848.20
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant74.403.14
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant37.002.81
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod78.104.24

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Ffigur 1: Cyfran y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Roedd 32% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru a 34% o’r teithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Yr ail brif weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru oedd at ddibenion bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol – dyma oedd y prif weithgaredd ar 13% o deithiau a wnaed yng Nghymru. Yn cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau oedd y prif weithgaredd mwyaf poblogaidd yn dilynol, ar gyfer teithiau yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr hefyd.

Yn ystod mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023, bu cynnydd yn nifer y teithiau a wnaed ar draws Prydain Fawr ar gyfer pob math o weithgarwch, ac eithrio at ddibenion cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden awyr agored, a ostyngodd 5% o gymharu â 2022. Mae hyn yn wahanol i Gymru, lle gostyngodd nifer y teithiau ar gyfer rhai gweithgareddau, megis ymweld â ffrindiau a pherthnasau, a ostyngodd 13% o’i gymharu â 2022. Y gostyngiadau mwyaf a welwyd y nifer y teithiau yng Nghymru oedd ar gyfer bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol (19%), cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant (20%) a mynd i atyniad i ymwelwyr (27%). Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd yng Nghymru a Phrydain Fawr yn nifer y teithiau lle mai’r prif weithgaredd oedd cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau yn 2023, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Tabl 5: Nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 [Nodyn 1]
Y prif weithgaredd a wnaedTeithiau ym Mhrydain FawrTeithiau yng Nghymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau305.3012.37
Mynd i atyniad i ymwelwyr 202.148.64
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd89.447.26
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu107.596.47
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol147.706.36
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored69.186.19
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig97.975.06
Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau64.533.20
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant38.921.77
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant10.140.54
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod27.361.39

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer 'Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant' a 'Chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod' - dylid trin y data’n ofalus.

Ffigur 2: Cyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Roedd ymweld â theulu a ffrindiau yn cynrychioli 26% o'r teithiau ar draws Prydain Fawr a 21% o'r teithiau yng Nghymru. Mynd i atyniad i ymwelwyr oedd yr ail weithgaredd mwyaf poblogaidd ar deithiau twristaidd undydd, ar gyfer teithiau yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr, gyda 15% o deithiau yng Nghymru yn cynnwys hyn fel eu prif weithgarwch. Gweld golygfeydd ac archwilio ardaloedd oedd y prif weithgaredd mwyaf poblogaidd nesaf yng Nghymru, a wnaed ar 12% o'r teithiau yng Nghymru, tra mai bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol oedd y trydydd gweithgaredd mwyaf poblogaidd ar gyfer teithiau ym Mhrydain Fawr.

Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, cynyddodd nifer y teithiau ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau o'i gymharu â 2022, ar gyfer teithiau twristaidd undydd yng Nghymru a theithiau twristaidd undydd ar draws Prydain Fawr. Fodd bynnag, roedd gostyngiadau yn nifer y teithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant, at ddibenion bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol, ar gyfer y ddau fath o deithiau yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr. Roedd y gostyngiadau hyn yn fwy ar gyfer teithiau yng Nghymru nag ar gyfer teithiau ar draws Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd. Yn ogystal, bu gostyngiad yn nifer y teithiau yng Nghymru i weld atyniad i ymwelwyr, a gostyngiad yn y teithiau ar draws Prydain Fawr i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden awyr agored.

Nodweddion manwl teithiau twristaidd undydd Prydain Fawr a Chymru

Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar nodweddion ymweliadau twristaidd undydd. I fod yn gymwys fel ymweliad twristaidd undydd, rhaid i ymweliadau o'r fath fodloni'r meini prawf ychwanegol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu cynnal yn llai aml nag unwaith yr wythnos a rhaid iddynt gynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol lle cychwynnodd y daith.

Ffigur 3: Nifer a chyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl prif leoliad, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau bentyrrog yn dangos mai teithiau i ddinasoedd mawr/trefi mawr oedd cyfran fwyaf y teithiau yn Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

[Nodyn 1] Y nifer yn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd a wnaed i bob prif leoliad mewn miliynau. Er enghraifft, o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023, gwnaed 13.26 miliwn o deithiau twristaidd undydd i gefn gwlad/pentref yng Nghymru.

Roedd ychydig o dan 6 o bob 10 taith twristaidd undydd yng Nghymru i gyrchfannau trefol. Roedd cyfran uwch o'r teithiau twristaidd yng Nghymru i'r ardaloedd glan môr ac arfordirol, ond roedd cyfran is o deithiau i ddinasoedd a threfi mawr, o'u cymharu â Phrydain Fawr. Arhosodd cyfran y teithiau i'r ardaloedd glan môr ac arfordirol yn sefydlog i raddau helaeth yn 2023, o'i chymharu â 2022, ar gyfer y ddau fath o daith yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr. Yn ogystal, gostyngodd cyfran y teithiau i drefi bach yn 2023, ar gyfer y ddau fath o daith yng Nghymru ac ar draws Prydain. Fodd bynnag, roedd cyfran uwch o'r teithiau ym Mhrydain i ddinasoedd a threfi mawr yn 2023, o'i chymharu â 2022. Roedd cyfran y teithiau yng Nghymru i ddinasoedd a threfi mawr yn parhau i fod yn sefydlog i raddau helaeth. Gwelwyd cyfran ychydig yn uwch o deithiau yng Nghymru i gyrchfannau cefn gwlad a phentrefi yn 2023, o'i chymharu â 2022. Roedd cyfran y teithiau ar draws Prydain i gyrchfannau cefn gwlad a phentrefi yn parhau i fod yn sefydlog i raddau helaeth.

Roedd y gwariant cyfartalog fesul taith yn arbennig o uwch ar gyfer teithiau twristaidd undydd mewn dinasoedd a threfi mawr yng Nghymru (£50) o'i gymharu â chyfartaledd o £42 ar draws pob math o gyrchfan yng Nghymru.

Tabl 6: Nifer y teithiau twristaidd undydd a chyfanswm y gwariant yng Nghymru yn ôl gwlad breswyl ymwelwyr, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Gwlad breswylTeithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)% y teithiau yng Nghymru 
Lloegr23.34£1,01139%
Yr Alban0.77£731%
Cymru34.78£1,37259%

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100%, gan fod rhai ymatebwyr wedi nodi eu bod yn byw mewn Parc Cenedlaethol.

[Nodyn 2] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer yr Alban felly dylid trin y data yn ofalus.

Roedd preswylwyr Cymru yn gyfrifol am 6 o bob 10 o'r holl deithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn 2023. Cafodd y rhan fwyaf o'r gweddill eu gwneud gan breswylwyr Lloegr. Mae’r cyfrannau o deithiau i Gymru o bob un o wledydd Prydain wedi aros yn sefydlog yn 2023, o'u cymharu â 2022. O breswylwyr Lloegr a ymwelodd â Chymru yn 2022, roedd y mwyafrif yn byw yng ngogledd-orllewin Lloegr, gorllewin canolbarth Lloegr, de-orllewin Lloegr, neu Lundain. Roedd cyfran y gwariant a gynhyrchwyd gan breswylwyr Cymru yn 2023 yn cyd-fynd yn agos â chyfran y teithiau a wnaed, gyda 55% o gyfanswm y gwariant ar deithiau twristaidd undydd yn cael ei gynhyrchu gan breswylwyr Cymru.

Ffigur 4: Nifer a chyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl grŵp oedran, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofnau bentyrrog yn dangos mai ymwelwyr 55 oed neu hŷn oedd y grŵp oedran mwyaf ymhlith ymwelwyr twristaidd undydd i Brydain Fawr, ond yng Nghymru, pobl 25-34 oed oedd y grŵp oedran mwyaf.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

[Nodyn 1] Y nifer yn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed gan bob grŵp oedran mewn miliynau. Er enghraifft, o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2023, gwnaeth ymwelwyr rhwng 45 a 54 oed 8.06 miliwn o deithiau twristaidd undydd i Gymru.

Roedd ymwelwyr o'r grŵp oedran 55 oed neu'n hŷn yn cynrychioli cyfran uwch o'r ymwelwyr â Phrydain nag ymwelwyr â Chymru, ac roedd ymwelwyr rhwng 16 a 34 oed yn cynrychioli'r cyfran uwch o'r ymwelwyr â Chymru nag ymwelwyr â Phrydain Fawr.

Tueddiadau teithiau ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr

Tabl 7: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a’r gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl chwarter yr ymweliad, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023
Chwarter yr ymweliadTeithiau ym Mhrydain Fawr (miliynau)Gwariant ym Mhrydain Fawr (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth676.42£24,852
Ebrill i Fehefin759.97£25,836
Gorffennaf i Fedi774.22£27,316
Hydref i Ragfyr744.43£31,098

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Ffigur 5: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru yn ôl chwarter yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofn yn dangos bod nifer yr ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr o fis Hydref i fis Rhagfyr 2023 ychydig yn is o'i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, yn wahanol i weddill 2023, lle roedd y niferoedd chwarterol yn uwch nag yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Roedd nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ystod pedwerydd chwarter 2023 1% yn is o'i gymharu â phedwerydd chwarter 2022, ac roedd y gwariant 21% yn uwch. Fodd bynnag, roedd nifer y teithiau yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023 6% yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod yn 2022, ac roedd gwariant 14% yn uwch. Roedd nifer y teithiau a'r gwariant yn ystod pedwerydd chwarter 2023 yn is na’r ail chwarter a’r trydydd chwarter, ond roedd gwariant yn ystod y pedwerydd chwarter ar ei uchaf yn 2023.

Tabl 8: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a’r gwariant yng Nghymru yn ôl chwarter yr ymweliad, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023
Chwarter yr ymweliadTeithiau yng Nghymru (miliynau)Gwariant yng Nghymru (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth43.47£1,232
Ebrill i Fehefin42.90£1,515
Gorffennaf i Fedi41.10£1,170
Hydref i Ragfyr40.31£1,509

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Ffigur 6: Nifer y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy yng Nghymru yn ôl chwarter yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofn yn dangos bod nifer yr ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru o fis Hydref i fis Rhagfyr 2023 yn is o'i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, sy’n parhau’r duedd a welwyd o fis Ebrill i fis Mehefin 2023.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Roedd nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn ystod pedwerydd chwarter 2023 1% yn is o'i gymharu â phedwerydd chwarter 2022, tra bo gwariant wedi parhau’s sefydlog. Fodd bynnag, roedd nifer y teithiau yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 7% yn is o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, ond roedd gwariant 1% yn is. Roedd nifer y teithiau a'r gwariant yn ystod pedwerydd chwarter 2023 y nifer chwarterol isaf a welwyd yn 2023, ac yn is nag unrhyw niferoedd chwarterol yn 2022. Fodd bynnag, wrth gymharu ffigyrau chwarterol ar draws 2022 a 2023, roedd mwy o ostyngiad mewn nifer yn ail chwarter a thrydydd chwarter 2023, o’i gymharu â phedwerydd chwarter 2023. Gwelwyd gostyngiad tebyg ym mhedwerydd chwarter 2023 hefyd yn nifer y teithiau ar draws Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd (gweler Ffigur 5).

Tabl 9: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a’r gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl chwarter yr ymweliad, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023
Chwarter yr ymweliadTeithiau ym Mhrydain Fawr (miliynau)Gwariant ym Mhrydain Fawr (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth239.71£10,417
Ebrill i Fehefin294.30£11,970
Gorffennaf i Fedi310.74£13,363
Hydref i Ragfyr315.52£15,034

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Ffigur 7: Nifer y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn ôl chwarter yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart golofn yn dangos, o’u cymharu â 2022, fod y niferoedd chwarterol o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn uwch ystod chwe mis cyntaf 2023, ond o fis Gorffennaf i fis Rhagfyr, roedd y niferoedd chwarterol ar gyfer 2023 fwy neu lai’n cyd-fynd â niferoedd chwarterol 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Roedd nifer y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn ystod pedwerydd chwarter 2023 1% yn uwch o'i gymharu â phedwerydd chwarter 2022, tra bo gwariant 20% yn uwch. Fodd bynnag, roedd nifer y teithiau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023 7% yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod yn 2022, ac roedd gwariant 13% yn uwch. Roedd nifer y teithiau a gwariant yn ystod pedwerydd chwarter 2023 ar eu huchaf yn 2023.

Tabl 10: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a’r gwariant yng Nghymru yn ôl chwarter yr ymweliad, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023
Chwarter yr ymweliadTeithiau yng Nghymru (miliynau)Gwariant yng Nghymru (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth11.03£465
Ebrill i Fehefin17.83£835
Gorffennaf i Fedi14.39£510
Hydref i Ragfyr16.00£665

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2023

Ffigur 8: Nifer y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn ôl chwarter yr ymweliad mewn miliynau, mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart golofn yn dangos bod niferoedd chwarterol y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn uwch yn ail a phedwerydd chwarter 2023, o’u cymharu â 2022, ond roedd y niferoedd ar gyfer y chwarter cyntaf a’r trydydd chwarter yn is.

Ffynhonnell: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS), mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022 a 2023

Roedd nifer y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn ystod pedwerydd chwarter 2023 4% yn uwch o'i gymharu â phedwerydd chwarter 2022, tra bo gwariant yn parhau'n sefydlog. Fodd bynnag, roedd nifer y teithiau yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 4% yn is o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, tra bo gwariant 5% yn uwch. Roedd nifer y teithiau a'r gwariant yn ystod pedwerydd chwarter 2023 yn is na'r ail chwarter, ond yn uwch na chwarter cyntaf a thrydydd chwarter y flwyddyn. Mae nifer chwarterol y teithiau i Gymru yn 2023 yn wahanol i nifer y teithiau ar draws Prydain Fawr, sydd wedi cynyddu'n olynol drwy gydol y flwyddyn (gweler Ffigur 7). Ar y llaw arall, ym mis Ebrill i fis Mehefin gwelwyd y nifer uchaf o deithiau i Gymru, ac yna cwymp yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, ac yna'n codi eto yn ystod chwarter olaf 2023.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Defnyddir dau brif fesur ar gyfer teithiau undydd yn yr adroddiad hwn.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy. Ni chaiff unrhyw deithiau dros nos eu cynnwys, na theithiau dydd o leoliad llety gwyliau.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel teithiau twristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo. Mae'r gofyniad i deithio i awdurdod lleol gwahanol yn cwmpasu'r rhan fwyaf o weithgareddau ac eithrio teithiau lle mai'r prif weithgaredd yw gwylio digwyddiadau chwaraeon byw, mynd i atyniadau i ymwelwyr neu fynd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn gymwys fel ymweliadau twristaidd undydd hyd yn oed os cânt eu gwneud yn yr un awdurdod lleol.

Gweithgareddau hamdden cymwys

  • Ymweld â ffrindiau neu berthnasau
  • Mynd i atyniad i ymwelwyr, fel tŷ hanesyddol, parc thema neu amgueddfa
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored
  • Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd
  • Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau
  • Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant
  • Mynd i ddigwyddiad neu ddathliad arbennig (fel priodas neu ben-blwydd)
  • Mynd i ddigwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu (fel arddangosfa neu chwaraeon byw)
  • Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant (fel amgueddfa)
  • Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o beth fyddai nifer gros y teithiau undydd a wneir gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o beth fyddai cyfanswm y gwariant ar deithiau undydd gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr.

Mae’r diffiniadau hyn a’r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi cael eu diwygio fel rhan o’r arolwg GBTS/GBDVS cyfun newydd i gyd-fynd â safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon o'r teithiau domestig undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2023 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o'r gofynion a'r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristaidd domestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn sicrhau bod y dulliau casglu data yn addas ar gyfer y dyfodol, ond gan gynnal dibynadwyedd a chadernid y wybodaeth a gyflwynir.  O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfunol newydd a oedd yn casglu data ar deithiau dros nos domestig, yn ogystal â theithiau dydd domestig. 

Mae'r sampl ar gyfer yr arolwg ar-lein cyfunol newydd wedi'i dylunio heb ystyried tebygolrwydd ac fe'i darparwyd gan 4 darparwr panel ar-lein a achredwyd gan ESOMAR. Mae'n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn sicrhau bod y sampl gyffredinol yn cynrychioli poblogaeth Prydain Fawr cystal â phosibl. Maint y sampl flynyddol darged ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 35,000 o gyfweliadau wedi'u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer y chwarter hwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2023, a nifer y cyfweliadau a gynhaliwyd ar gyfer y cyfnod o fis Hydref i fis Rhagfyr 2023 oedd 7,479 o gyfweliadau ar gyfer preswylwyr Prydain Fawr, gan gynnwys 966 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru. Ni fydd pob unigolyn y cyfwelir ag ef wedi gwneud taith undydd gymwys, felly, mae maint y samplau ar gyfer teithiau cymwys a wnaed a ddefnyddiwyd i amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau.

Maint y samplau: Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy
Y wlad yr ymwelwyd â hiHydref 2023Tachwedd 2023Rhagfyr 2023Cyfanswm Chwarter 4
Prydain Fawr2,2192,1642,2936,676
Cymru226265262753
Maint y samplau: Teithiau twristaidd undydd
Y wlad yr ymwelwyd â hiHydref 2023Tachwedd 2023Rhagfyr 2023Cyfanswm Chwarter 4
Prydain Fawr9167878972,600
Cymru759182248

Darperir meintiau sampl eraill ar gyfer 2023 yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS, a gyhoeddir yn 2024.

Fel rhan o'r newidiadau i'r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoliad diwygiedig i wella effeithlonrwydd, ac i wneud y canlyniadau mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'r defnydd o sampl ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu ar y graddau y mae ymatebion yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth lawn Prydain Fawr, cyfyngiad sy'n gyffredin i arolygon sampl ar-lein tebyg. Mae'r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi'i fapio i raddau cymdeithasol bras at ddiben cwotâu a phwysoliadau mewn perthynas â phoblogaeth Prydain Fawr. Bydd y newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau'r boblogaeth yn effeithio ar y broses o amcangyfrif a chyflwyno adroddiadau ar deithiau o gymharu â'r dull adrodd graddau cymdeithasol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol. Rydym wedi cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau a gymerwyd gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer teithiau undydd Prydain Fawr wedi cael eu casglu mewn ffordd gymharol debyg ers 2011. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Roedd yr amcangyfrifon o niferoedd o 2021 ymlaen yn cynnwys teithiau gan oedolion Prydain Fawr a phlant a oedd yn teithio gyda nhw, ond teithiau gan oedolion yn unig oedd yn cael eu hamcangyfrif gan nifer y teithiau undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. 

Fel rhan o'r arolwg, gofynnwyd i ymatebwyr am unrhyw deithiau undydd a wnaed ganddynt yn ystod y 7 diwrnod cyn dyddiad eu cyfweliad (cyfnod cyfeirio).  Cyflwynir amcangyfrifon teithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol, yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio cyfweliadau yn cyfateb yn union â misoedd calendr, caiff addasiad ei wneud gan ddefnyddio ‘ffactor lliniaru tymhorol’ i wella'r cymariaethau misol o fewn blynyddoedd a rhyngddynt. Mae'r amcangyfrifon misol yn destun cyfyngiadau o ran maint y sampl ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau a wneir drwy gydol y flwyddyn. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau hyn wrth wneud cymariaethau misol neu chwarterol.

Cywirdeb

Cafodd yr ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol eu dynodi'n ystadegau swyddogol, sy'n rhoi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr y caiff yr ystadegau eu cynhyrchu i'r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, mae canlyniadau'r arolwg ar gyfer 2021, 2022 a 2023 wedi'u labelu yn 'ystadegau arbrofol' (y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r arolwg a'r ystadegau newydd wedi bod yn destun rhaglen gynhwysfawr o waith sicrhau ansawdd, sy'n cynnwys treialu'r arolwg, dadansoddi newidiadau i ddiffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygiad o derfynau a rheolau priodoli. Mae newidiadau i fethodoleg a dulliau amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a roddwyd gan Wasanaeth Ymgynghori ar Fethodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir terfynau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Darperir rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a meintiau sylfaen teithiau yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2023 GBDVS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Bydd yr amcangyfrifon ar gyfer 2023 yn rhoi gwybodaeth am lefelau ymwelwyr, i fesur perfformiad a deall tueddiadau ymwelwyr.

Cyn belled â phosibl, mae arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn darparu cysondeb â'r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cofnodi gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir a phroffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd y wybodaeth ychwanegol hon o werth i ddefnyddwyr amrywiol yr arolwg. Mae'r holiadur cyfredol wedi'i gynnwys yn adroddiad ansawdd cefndir 2022 GBDVS.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth newydd am yr arolwg yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a’r allbwn hwn yn YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r holl allbynnau yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi dyddiad y cyhoeddiad ymlaen llaw drwy'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau. Anelwn at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser ymchwil perthnasol. Mae'r tarfu a fu ar arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr oherwydd COVID-19 a'r profion cynhwysfawr a'r dulliau sicrhau ansawdd a roddwyd ar waith ar gyfer yr ystadegau newydd wedi arwain at gyflwyno adroddiad ar ystadegau 2021, 2022 a 2023 yn hwyrach na'r arfer. Bydd canlyniadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol er mwyn sicrhau y caiff yr amcangyfrifon eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol i Gymru ryw 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Siân Hughes
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 17/2024