Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi, a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth. Diben y dreth yw lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau treth sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19 i 2023-24.

Gall fod amrywiadau a rhai effeithiau tymhorol ond yn gyffredinol, disgwylir y bydd pwysau'r gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn lleihau dros amser.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Gwarediadau Tirlenwi i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Nôl i dop y dudalen

Prif bwyntiau

Nid yw'r holl ddadansoddiadau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi. Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu swm bach iawn o dreth yn ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig. Oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yn hyn, nid yw’n bosibl cyhoeddi unrhyw ystadegau sy’n ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig eto. Byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau gwarediadau anawdurdodedig yn natganiadau’r dyfodol.

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Hydref i Ragfyr 2023:

  • Bu 277 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 2% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022. Gwrthbwyswyd gostyngiad mawr mewn gwarediadau cyfradd safonol gan gynnydd mwy mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau neu eu disgowntio, a chynnydd bach mewn gwarediadau cyfradd is.
  • Roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £7.1 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma’r 28% yn is na’r treth yn ddyledus ar gyfer yr un cyfnod in 2022. Ymhlith y rhesymau posibl am y duedd hon mae:
    • effeithiau polisi amgylcheddol sy’n annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff megis ailgylchu a llosgi
    • amrywioldeb yng nghyfaint y gwarediadau ar safleoedd penodol lle mae’r celloedd tirlenwi yn llawn neu bron yn llawn, a rhai safleoedd tirlenwi yn nesáu at ddiwedd eu hoes
  • Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau. 
  • Cyfrifodd gronynnau mân am 34% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is y ffigwr chwarterol isaf a welwyd hyd yma. Roedd pridd a cherrig i gyfrif am 31%. Nid yw’n glir a fydd patrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data hwn, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn y dyfodol.
  • Roedd 5 gweithredwr safle tirlenwi yn cyfrif 94% yr holl dreth yn ddyledus, y ganran uchaf a welwyd hyd yma. Mewn chwarterau cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%.

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Gostyngodd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a oedd yn ddyledus ar gyfer Hydref i Ragfyr dros chwarter o’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, yn bennaf oherwydd gostyngiad mawr mewn gwarediadau cyfradd safonol. 

“Cynnyddodd pwysau cyffredinol y gwastraff a waredwyd ychydig o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda gostyngiad mawr mewn gwarediadau cyfradd safonol yn cael ei wrthbwyso gan gynnydd mawr mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio a chynnydd bach mewn gwarediadau cyfradd is.

“Cawn weld a yw’r gostyngiadau diweddar mewn gwarediadau cyfradd safonol o ganlyniad i amgylchiadau mewn rhai safleoedd tirlenwi, neu’n ddychweliad at y duedd gyffredinol ar i lawr yr ydym wedi’i gweld ar ôl pandemig y coronafeirws.”

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad

Nid yw'r holl ddadansoddiadau yn y datganiad hwn yn cynnwys gwarediadau heb eu hawdurdodi. Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu swm bach iawn o dreth yn ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig. Oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yn hyn, nid yw’n bosibl cyhoeddi unrhyw ystadegau sy’n ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig eto. Byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau gwarediadau anawdurdodedig yn natganiadau’r dyfodol.

  • Pan fyddwn yn gwybod bod gwybodaeth ar ffurflen dreth yn anghywir a’n bod yn aros i ddiwygiad y trethdalwr gael ei gyflwyno i ni
  • Pan fo diwygiad y trethdalwr yn cael ei adolygu gan dîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i weld a yw'n ddilys, gallwn wneud cywiriadau ystadegol er mwyn dadwneud effaith y diwygiad yn ein hystadegau

Mae Tabl 1 a 2 yn dangos newidiadau canrannol ar gyfer y chwarter diweddaraf yn erbyn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae rhai newidiadau canrannol yn fawr gan eu bod yn seiliedig ar niferoedd bach, felly mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw newidiadau canrannol mawr a ddangosir.

Tabl 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt
Pwysau a waredwyd [mil tunnell]Hyd i Rhag 2022Hyd i Rhag 2023 [dros dro]Newid o ran %
Cyfradd safonol9666-32%
Cyfradd is, of which: 1351414%
Deunydd dirwyon [nodyn 1] 5948-19%
Priddoedd a cherrig [nodyn 2] 394310%
Teils, brics, concrid, a serameg [nodyn 2] 1913-31%
Arall cyfradd is [nodyn 2] 1837108%
Rhyddhad neu ddisgownt [nodyn 3] 397080%
Cyfanswm2702772%
Tabl 2: treth yn ddyledus a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt
Treth yn ddyledus [£ miliwn]Hyd i Rhag 2022Hyd i Rhag 2023 [dros dro]Newid o ran %
Cyfradd safonol9.46.7-29%
Cyfradd is0.40.58%
Cyfanswm9.97.1-28%
Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4] 0.10.2102%
Tabl 3: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl blwyddyn cafwyd gwared a wastraff [Nodyn 4]
Treth yn ddyledus [£ miliwn]Cyfradd isCyfradd safonolCyfanswmSwm y dreth a ryddhawyd [Nodyn 4] 
2018-19 1.547.148.60.9
2019-201.336.037.30.2
2020-21 1.630.432.00.3
2021-22 1.843.345.10.3
2022-23 1.840.442.10.7
2023-24 [hyd yn hyn] [p]1.422.023.40.6

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[Nodyn 3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[Nodyn 4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

Ffigur 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos, ers mis Ebrill 2018, bod amrywiadau tymhorol wedi’u gweld yn gyffredinol ym mhwysau chwarterol gwarediadau cyfradd safonol, ond gyda gostyngiadau sylweddol yn y 4 chwarter diweddaraf o'i gymharu â'r un cyfnodau flwyddyn ynghynt. Amrywiodd gwarediadau cyfradd is, gan ymddangos fel pe na bai'n dilyn unrhyw batrwm gosodedig, tra bod gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio’n gyffredinol isel yn y tair blynedd flaenorol cyn y niferoedd uwch yn gyffredinol a welwyd ers Ebrill 2022. 

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol. 

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae Tabl 1 yn dangos bod yn Hydref i Ragfyr 2023, roedd 277 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 2% yn uwch na'r un cyfnod yn 2022. 

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 66 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn 32% yn is na'r un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt a’r gwerth chwarterol ail isaf a welwyd hyd yma, oni bai am 2020-21 a gafodd ei effeithio’n fawr gan y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae'r rhesymau posibl dros y gostyngiad sylweddol o flwyddyn ynghynt yn cynnwys:

Mae tîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi’n parhau i ymgysylltu â gweithredwyr safleoedd tirlenwi er mwyn deall y rhesymau dros dueddiadau ac i gefnogi sylwebaeth yn y dyfodol.

Roedd y 141 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 4% yn uwch nag yn Hydref i Ragfyr 2022. Mae'r esboniad o dan Ffigurau 3 and 4 yn dadansoddi'r categorïau o fewn data cyfradd is sy'n cyfrannu at y duedd hon.

Yn Hydref i Ragfyr 2023, roedd y 70 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau neu disgowntio yn is na’r 39 mil tunnell a welwyd yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt. Hwn oedd yr ffigwr ail uchaf a welwyd ers mis Mawrth 2019, ac eithrio mis Ebrill i fis Mehefin 2022. Mae lefel y gwastraff wedi'i ryddhau neu ddisgowntio wedi amrywio'n fawr dros amser. Nid yw'n syml pennu a fydd symiau tebyg o wastraff wedi'i ryddhau neu ddisgowntio yn codi neu'n gostwng yn y dyfodol.

Ffigur 2: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod treth chwarterol oedd ddyledus o warediadau cyfradd safonol yn dilyn tuedd dymhorol debyg i bwysau’r gwarediadau a ddangosir yn y siart blaenorol. Roedd y dreth a oedd yn ddyledus o warediadau cyfradd is yn amrywio rhwng £0.3 miliwn a £0.5 miliwn bob chwarter. 

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 at £7.1 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn 28% yn is na'r un cyfnod yn 2022. Roedd y duedd hon yn bennaf oherwydd y gostyngiad o 40% ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol dros yr un cyfnod. Disgrifir y tueddiadau ym mhwysau'r gwastraff a waredwyd a rhai rhesymau posibl am hyn yn Ffigur 1.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau. 

Ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 94% yr holl dreth a dalwyd. Dyma'r ganran chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Mewn chwarterau cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%. 

Nid yw’r swm treth a ryddhawyd yn cael ei ddangos ar y siart ond mae wedi amrywio o ychydig iawn hyd at £0.3 miliwn bob chwarter. £0.2 miliwn oedd y gwerth hwn yn Hydref i Ragfyr 2023.

Diwygiadau i bwysau’r gwastraff a warediwyda’r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023

Fel y disgrifir yn adran Dulliau'r datganiad hwn, mae ein prosesau amcangyfrif yn arwain at ddiwygio amcangyfrifon dros dro a wnaethpwyd ar gyfer y chwarter diweddaraf fel mater o drefn yn rhifyn nesaf y datganiad ystadegol. Fel arfer, mae'r diwygiadau hyn yn gymharol fach.

O’i gymharu ag amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn ein datganiad ystadegol blaenorol, rydym wedi diwygio data Gorffennaf i Fedi 2023 fel a ganlyn:

  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd safonol wedi’i ddiwygio i fyny o 72 mil tunnell i 73 mil tunnell.
  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is wedi'i ddiwygio i lawr o 144 mil tunnell i 142 mil tunnell.
  • roedd cyfanswm y dreth a oedd ddyledus wedi’i ddiwygio i fyny o £7.8 miliwn i £7.9 miliwn.

Ffigur 3: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Yn Hydref i Ragfyr 2023, mae'r siart llinell yn dangos bod, pwysau’r deunydd gronynnau mân a waredwyd yw'r ffigwr chwarterol ail isaf a welwyd hyd yma. Roedd pwysau'r pridd a'r cerrig a waredwyd yn ychydig uwch nag yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt. Roedd pwysau’r gwastraff a waredwyd a ddosbarthwyd fel 'concrit, brics,' teils a serameg' a 'chyfradd is arall' ar lefel is na'r ddau gategori a grybwyllwyd yn gynharach, er bod y categori ‘cyfradd is arall’ wedi codi ym mhob un o’r 4 chwarter diwethaf.

Ffigur 4: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart bar yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2023, bod canran y pwysau cyfradd is a gyfrifwyd fel deunydd gronynnau mân oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yn hyn, sef ychydig dros i draean. Ar gyfer prioedd a cherrig, roedd y gwerth pwynt canran y canran oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yma, sef ychydig dan draean. For ‘other lower rate’, the percentage was the highest quarterly figure seen to date, at just over a quarter.

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler y tudalen geirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd Tabl 1 yn gynharach yn y datganiad yn dangos bod 48 mil tunnell o ddeunydd gronynnau mân wedi'i waredu Hydref i Ragfyr 2023 ar y gyfradd dreth is. Mae hyn 10% yn is na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Ar gyfer pwysau priddoedd a cherrig a waredwyd ar y gyfradd dreth is, bu cynnydd o 10% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, i 43 mil o dunelli.

Ers Ebrill 2021, mae Ffigur 4 yn dangos bod canran chwarterol y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn amrywio o 34% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Hydref i Ragfyr 2023, y chwarter hyn, ac Ebrill i Fehefin 2021 yn y drefn honno. 

Ers Ebrill 2021, roedd canran chwarterol y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 19% i 42%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 ac Ionawr i Fawrth 2022, yn y drefn honno. Y gwerth yn y chwarter hwn oedd 31%.

Cododd yn ngyffredinol canran y gwarediadau cyfradd is a ddosbarthwyd fel ‘arall’ o 3% yn Ebrill i Fehefin 2021 i 26% yn y chwarter hyn. Mewn datganiadau yn y dyfodol, byddwn yn parhau i adolygu a allwn ddarparu mwy o fanylion am y categori hwn os bydd y canran parhau yn codi.

Gyda dim ond ychydig o flynyddoedd o ddata hyd yn hyn, nid yw'n glir a fydd unrhyw batrymau tymhorol yn y ganran hon. Byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.

Tabl 3: Canran y deunydd gronynnau mân cyfradd is a dderbyniwyd o dan bob cod Rhestr Wastraffoedd (LoW) perthnasol, Ebrill 2021 i Ragfyr 2023
Cod Rhestr WastraffoeddDisgrifiadCanran
19 12 12 Gwastraff arall (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddiol ar wahân i'r hyn sy'n 19 12 1180%
19 12 09Mwynau (e.e. tywod, cerrig)20%
17 05 04Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 030%

Yn blaenorol, rydym wedi derbyn cais i ddadansoddi data ar gyfer deunydd gronynnau mân cyfradd is yn ôl cod Rhestr Wastraffoedd. Yna gwnaethom ddechrau cyhoeddi’r tabl hwn yn rhifyn Hydref i Ragfyr 2022 y datganiad hwn. Yn y datganiadau ers, rydym wedi diweddaru'r canrannau bras hyn i gynnwys data ar gyfer y chwarter diweddaraf, ni arweiniodd hyn at unrhyw newid yn y canrannau. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r canrannau hyn mewn modd debyg yn y dyfodol.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Hefyd, rydym yn cyhoeddi data derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar StatsCymru. Mae data hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau. 

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru

Mae'r data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Yn gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol. Bydd data derbyniadau arian:

  • yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi

Yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y dudalen bigion, mae Tabl 3 yn cynnwys manylion yr addasiadau a wnaed er mwyn adlewyrchu gwastraff a waredwyd mewn un flwyddyn ond y rhoddwyd cyfrif amdano mewn blwyddyn wahanol yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. Gall hyn ddigwydd pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn rhoi gwybod am welliant trethdalwr i’r gwarediadau. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y gwelliannau hyn gael eu derbyn, neu arwain at ymholiad, ac wedi hynny gellir eu cadarnhau, eu gwrthod neu wrthdroi'r gwelliant (os oedd wedi'i dderbyn yn flaenorol). Gall yr holl senarios hyn arwain at addasiadau cyfrifyddu. Gall y sefyllfa gael ei chymhlethu ymhellach gan apêl I’r tribiwnlys ac at oedi pellach o ran cyfrifyddu. Gellir gwneud addasiadau cyfrifyddu pan fo ansicrwydd a fydd treth yn ddyledus yn y pen draw, cyn i ganlyniad unrhyw apêl i’r tribiwnlys gael ei benderfynu.

Yn y rhifyn hwn o’r datganiad, rydym wedi diweddaru’r data yn Nhabl 3 y daenlen i adlewyrchu sut y gellid addasu’r ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi i gyfateb â chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru 2022-23.

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi (Taenlen Ddogfen Agored, 14 KB)

Nôl i dop y dudalen

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Amcangyfrifon ar gyfer gweithredwyr sydd â chyfnodau cyfrifyddu ansafonol

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd. 

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
Image

Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth newydd am y rhesymau dros y gwahaniaethau rhwng y data o ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi a data a’r data a gesglir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff i mewn ac allan o safleoedd gwastraff trwyddedig. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer gwastraff wedi'i ryddhau.

Ansolfedd cwsmer 

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn. 

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Nôl i dop y dudalen

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
Ystadegau Gwladol