Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales

Maent yn cynnwys niferau misol ar:

  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus
  • trafodiadau yn ôl math
  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
  • ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch

Sylwer:

  • diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Mawrth 2024.

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau yn Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2023 yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Chwefror 2024 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 126 KB

ODS
126 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 691 KB

ODS
691 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.