Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn rhoi lefel uwch o fanylion, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru.

Sylwer:

  • Diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • Mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • Mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno cipolwg cryno ar y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 17 Mehefin 2019.

Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC. Dylai pob trafodiad gyda dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019 fod wedi’i adrodd i’r Awdurdod erbyn hyn.

Gall data ar gyfer 2018-19 gael ei ddiwygio eto yn y dyfodol er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau i drafodiadau. Y prif reswm am hyn fydd ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl am yr ychydig flynyddoedd nesaf (ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018 i Fawrth 2019).

Pwyntiau allweddol 

Trafodiadau a threth yn ddyledus

Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd y Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019:

  • 61,560 o drafodiadau a £226.9 miliwn o dreth yn ddyledus;
     
  • 55,660 o drafodiadau preswyl gyda £154.5 miliwn o dreth yn ddyledus;
    • o'r rhain, £59.1 miliwn o refeniw ychwanegol ei godi o gyfraddau uwch y dreth breswyl; a
       
  • 6,090 o drafodiadau amhreswyl, gan arwain at £72.5 miliwn o dreth yn ddyledus.

Dadansoddiad o fewn Cymru

Am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi ystadegau blynyddol fesul awdurdod lleol:

  • Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£6,640), tra ar gyfer trafodiadau amhreswyl, roedd y ffigur hwn ar ei uchaf yng Nghaerdydd (£31,570).

  • Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£274,000) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£102,200).
     
  • Roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio rhwng 16% yn Nhorfaen a 37% yng Ngwynedd.

Mae'n bwysig nodi y gall cyfraddau uwch fod yn berthnasol i drafodiadau preswyl am amryw o resymau, gan gynnwys:  

  • pryniant eiddo prynu-i-osod;
  • ail gartrefi neu gartrefi gwyliau;  
  • pontio rhwng dau eiddo; a  
  • phryniannau gan gwmnïau megis darparwyr tai cymdeithasol    

Hefyd, dylid nodi mai dim ond eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy’n cael eu cynnwys yn yr ystadegau Treth Trafodiadau Tir. Nid yw'r ystadegau hyn felly yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo sydd mewn awdurdodau lleol.

Am y tro cyntaf, rydym hefyd wedi cyhoeddi dadansoddiad yn ôl lefel yr amddifadedd.

Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB

XLSX
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.