Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.
Maent yn cynnwys niferau misol ar:
- trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus
- trafodiadau yn ôl math
- trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
- ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch
Sylwer:
- Diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
- Mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
Mae ystadegau misol a chwarterol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru
[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym Mai 2025.
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart linell yn dangos bod y nifer wythnosol o drafodiadau a gyflwynwyd i ACC wedi gostwng trwy gydol Ebrill. Mae hyn yn dilyn tuedd sydd wedi ymddangos yn y blynyddoedd diwethaf lle mae'r cyfrif o drafodiadau yn gostwng ar ddechrau'r flwyddyn dreth newydd. Roedd y nifer wythnosol o drafodiadau ers Ebrill 2025 yn debyg i'r un wythnosau yn y ddwy flynedd flaenorol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2025 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 147 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 856 KB
Cyswllt
Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.