Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno cipolwg cryno ar y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 15 Gorffennaf 2019.

Pwyntiau allweddol

Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd y Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill i Fehefin 2019:

  • 14,500 o drafodiadau a £47.8 miliwn o dreth yn ddyledus;
     
  • 13,100 o drafodiadau preswyl gyda £37.4 miliwn o dreth yn ddyledus;
    • o'r rhain, £15.7 miliwn o refeniw ychwanegol ei godi o gyfraddau uwch y dreth breswyl; a
       
  • 1,400 o drafodiadau amhreswyl, gan arwain at £10.4 miliwn o dreth yn ddyledus.

Rhagor o wybodaeth

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mehefin. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i’r Awdurdod.

Mae tablau data a'r data a ddefnyddir mewn siartiau yn y datganiad ystadegol ar gael mewn taenlen yn adran 'Data' y dudalen hon. Mae setiau data manwl ar gyfer pob un o ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gael ar wefan StatsCymru.

Sylwer:

  • Diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • Mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • Mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill i Mehefin 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 1 MB

XLSX
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dadansoddiad o ddiwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir hyd at Mehefin 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB

XLSX
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB

XLSX
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.