Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 4 Ionawr i Fawrth 2019 ac amcangyfrifon ar gyfer 2018-19.

Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mawrth.

Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.

Pwyntiau allweddol

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu'r amcangyfrifon amodol ar gyfer mis Mawrth, ac amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer misoedd blaenorol.

Maen nhw’n rhoi cipolwg cryno ar y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 15 Ebrill.

Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd y Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn:

Ionawr i Fawrth 2019 (ffigurau dros dro)

  • 13,190 o drafodiadau a £52.6 miliwn o dreth yn ddyledus
  • 11,740 o drafodiadau preswyl gyda £33.0 miliwn o dreth yn ddyledus
    • o'r rhain, 3,060 o drafodiadau preswyl ar y brif gyfradd, a
  • 1,450 o drafodiadau amhreswyl, gan arwain at £19.6 miliwn o dreth yn ddyledus.

2018-19 (ffigurau dros dro)

  • 61,560 o drafodiadau a £227.6 miliwn o dreth yn ddyledus
  • 55,560 o drafodiadau preswyl gyda £155.5 miliwn o dreth yn ddyledus
    • o'r rhain, 12,990 o drafodiadau preswyl ar y brif gyfradd, a
  • 6,000 o drafodiadau amhreswyl, gan arwain at £72.1 miliwn o dreth yn ddyledus.

Adroddiadau

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr i Fawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dadansoddiad o ddiwygiadau i ystadegau Treth Trafodion Tir hyd at Ionawr i Fawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 547 KB

PDF
547 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.