Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer 2020.

Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o’r Arolwg o'r Llafurlu (LFS), ac yn darparu data treigl dros bedwar chwarter o'r flwyddyn ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig, a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn.

Mae’r LFS yn parhau i fod y brif ffynhonnell ar gyfer prif ddangosyddion am y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae maint sampl mwy’r APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth.

Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn cwmpasu naw mis o'r pandemig coronafeirws (COVID-19), yn ogystal â thri mis cyn dechrau’r pandemig, ac felly dylid ei drin yn ofalus.  Yn y Datganiad trosolwg o'r farchnad lafur, rydym wedi cynnwys dadansoddiad o ffynonellau data sy'n rhoi arwyddion mwy amserol ar sut mae'r pandemig yn effeithio ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Caiff ymatebion yr APS eu pwysoli i amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Gan fod yr amcanestyniadau presennol yn seiliedig ar 2018 maent ar sail tueddiadau demograffig cyn y pandemig COVID-19. Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dadansoddi cyfansymiau'r boblogaeth a ddefnyddir yn y broses bwysoli ac efallai yn gwneud addasiadau os yw'n briodol. Mae'r cyfraddau a gyhoeddir o'r LFS yn parhau i fod yn gadarn; fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio lefelau a newidiadau mewn lefelau. Bydd hyn yn effeithio'n arbennig ar amcangyfrifon ar gyfer gwlad enedigol, cenedligrwydd, ethnigrwydd ac anabledd. Rydym wedi dileu'r adran ar nodweddion gwarchodedig yn y pennawd hwn dros dro nes bod unrhyw addasiadau angenrheidiol wedi'u gwneud. Dangosodd y data diweddaraf newidiadau mewn cyflogaeth i rai grwpiau a allai fod o ganlyniad i fater pwysoli'r boblogaeth, ac nid adlewyrchu gwir newidiadau. Mae'r data hwn ar gael o hyd ar StatsCymru.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 72.8%, i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y gyfradd gyflogaeth yn y DU yn 75.5%, i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 5.7 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.0 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf yn Sir Fynwy (80.0%), Sir y Fflint (78.6%)  a Chasnewydd (77.0%).
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf ym Merthyr Tudful (65.8%), Rhondda Cynon Taf (67.3%) ac Sir Ddinbych (69.3%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 3.7% (i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd ddiweithdra yn y DU yn 4.5% (i fyny 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio 1.8 pwynt canran yng Nghymru a 0.9 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yng Sir Gaerfyrddin (2.3%), Sir Benfro (2.5%) a Chaerdydd (2.6%).
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf ym Merthyr Tudful (7.5%), Caerffili (5.6%) ac Rhondda Cynon Taf (5.4%).
  • Sylwch fod data ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr wedi'u hatal oherwydd maint sampl annigonol.

Diweithdra ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 10.9%, sy’n llai na chyfradd y DU sef 13.3%.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio 3.3 pwynt canran yng Nghymru, ond cododd 1.5 pwynt canran yn y DU.

Diweithdra hirdymor

  • Roedd 24.7% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 20.2% yn y DU.

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 20.1% (i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y DU yn 17.1% (i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio 6.2 pwynt canran yng Nghymru a 4.3 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf yn Sir Fynwy (13.6%), Bro Morgannwg (16.1%) a Caerdydd (16.4%).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.