Neidio i'r prif gynnwy

Gallwch wneud cais am help ar gyfer eich grŵp cymunedol, prosiect neu elusen os ydych wedi'ch lleoli ar hyd llwybr Hirwaun i Dowlais Top.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae gan brosiect adran 5 a 6 yr A465 raglen mentrau cymunedol. Bydd yn helpu 64 o grwpiau ar hyd y llwybr rhwng Hirwaun a Dowlais Top. Adeiladwaith Cymoedd y Dyfodol sy'n rheoli'r rhaglen.

Pwy all wneud cais

Grwpiau a phrosiectau cymunedol, clybiau, elusennau a grwpiau di-elw. Mae angen i'r rhain fod yn y cymunedau ar hyd yr A465 rhwng Hirwaun a Dowlais Top.

Sut y gall eich helpu

Mae 4 math o gymorth. Gallwch wneud cais am 1 o'r opsiynau, neu gyfuniad ohonynt.

Gallwch wneud cais am:

  • gwirfoddolwyr i'ch helpu gyda phrosiect
  • cyllid
  • deunyddiau ar gyfer prosiectau awyr agored neu dan do
  • adnoddau ffisegol, gan gynnwys offer ar gyfer prosiectau adeiladu

Ni allwch ddefnyddio'r rhaglen ar gyfer:

  • prosiectau sy'n dyblygu gwasanaethau
  • cyflogau staff a chostau rheoli
  • prynu cerbydau neu offer TG
  • codi arian neu deithio dramor
  • prynu neu yfed alcohol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y cymorth, llenwch y ffurflen gais. Mae'r ffurflen yn cynnwys mwy o wybodaeth am y telerau ac amodau. Dylech ddarllen y rhain yn ofalus cyn i chi gyflwyno'ch ffurflen.

Mae gan Adeiladwaith Cymoedd y Dyfodol Banel Adolygu Mentrau Cymunedol. Mae'r panel yn adolygu'r ceisiadau 4 gwaith y flwyddyn ac yn penderfynu pwy sy'n cael cymorth.

Darganfod mwy

Adeiladwaith Cymoedd y Dyfodol sy'n rheoli'r rhaglen. I gael gwybod mwy, e-bostiwch: A465enquiries@futurevalleysconstruction.com

Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect yr A465 adran 5 a 6 Dowlais Top i Hirwaun. Am yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, dilynwch sianeli Facebook Twitter adran 5 a 6 yr A465.